Mae Indielab Games yn bodoli i helpu’r diwydiant gemau i dyfu. Trwy ddosbarthiadau meistr, seminarau a digwyddiadau wedi’u cynnal yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, mae’r sefydliad yn gweithio i gefnogi sylfaenwyr ac arweinwyr busnes yn y sector gemau i symud y diwydiant yn ei flaen.

Fel rhan o’r genhadaeth hon, mae’r cwmni wedi lansio rhaglen newydd, wyneb yn wyneb a rhithiol: Sbardun Gemau Indielab Games 2023. Mae’r prosiect hwn yn un o dderbynwyr ein Cronfa Sgiliau Creadigol ar gyfer 2023/24 ac yn darparu tri mis o gymorth i stiwdios gemau sy’n dod i’r amlwg ledled Cymru. Bydd cyfranogwyr yn elwa o ddosbarthiadau meistr a sesiynau briffio manwl a phwrpasol gydag arweinwyr o fewn y diwydiant, stiwdios mawr, buddsoddwyr, cyhoeddwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o bob rhan o’r sector gemau. Bydd cyfle hefyd i glywed gan arbenigwyr cyfreithiol ac ariannol.

Y gobaith yw bydd y prosiect yn helpu stiwdios gemau i ddatblygu eu potensial fel eu bod yn gallu parhau i dyfu, arloesi, a denu buddsoddiad i Gymru yn y dyfodol. Dywed Indielab fod y rhaglen yn cael ei harwain gan ei gwerthoedd craidd – gan sicrhau bod cyfranogwyr yn deall bod hyrwyddo diwydiant gemau cynhwysol ac amrywiol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant creadigol a masnachol hirdymor.

Fel rhan o’r rhaglen, bydd Caerdydd – ochr yn ochr â Glasgow a Llundain – yn cynnal nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio ar draws y diwydiant. Nod y rhain yw dod â’r gymuned gemau ynghyd a chreu cyfleoedd i rwydweithio, yn ogystal â meithrin partneriaethau a chydweithio newydd. Bydd sesiynau rhithiol ychwanegol hefyd yn cael eu cynnal, yn gwahodd cwmnïau i gymryd rhan mewn gweithdai cyflwyno syniadau.


Diweddariadau o raglen Sbardun Gemau y DU:

  • Mae’r rhaglen wedi parhau i gefnogi cwmnïau gemau Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda phum lle wedi’u hariannu gennym ni yn 2024.
  • Daeth cohort 2024 i ben gyda digwyddiad ‘Pitch to Publishers’ proffil uchel yn Unity HQ yn Brighton, i gyd-fynd â Develop – un o brif ddigwyddiadau datblygwyr gemau’r DU.

Darllenwch fwy am ein Cronfa Sgiliau Creadigol. Gallwch hefyd ddarganfod mwy am y gwaith mae Indielabs yn ei wneud drwy ymweld â’u gwefan.

Straeon cysylltiedig