O'r eiliad y cyrhaeddodd Sex Education ein sgriniau ar Netflix yn 2019, mae wedi bod yn llwyddiant. Wedi ei ffilmio mewn lleoliadau ledled Cymru, mae’r sioe yn dilyn bywydau Otis (Asa Butterfield) a’i ffrindiau Maeve (actores Barbie, Emma Mackey) ac Eric (y Doctor Who newydd, Ncuti Gatwa) wrth iddyn nhw geisio naddu eu ffyrdd trwy fywyd yn Ysgol Uwchradd ffuglennol, Moordale. Ar gyfer y gyfres olaf, mae awdur Schitt’s Creek a’r actor sydd wedi ennill Gwobr Emmy, Dan Levy, yn ymuno â’r cast.
Yma yn Cymru Greadigol, rydym wedi cefnogi’r sioe boblogaidd yn ariannol ers yr ail gyfres. Fel rhan o'r cytundeb hwn, mae pob cynhyrchiad wedi darparu cyfleoedd ar lefel mynediad i o leiaf saith o hyfforddai sy’n byw yng Nghymru, a hynny ym mhob cyfres.
Darllenwch ymlaen wrth i ni archwilio llwybr gyrfa 11 o hyfforddeion – darganfyddwch sut wnaeth eu gyrfaoedd ddechrau a beth maen nhw wedi bod yn ei wneud ers hynny.
Emily Barker
Mi edrychwn i ddechrau ar lwybr gyrfa Emily. Dechreuodd ei gyrfa ar Sex Education drwy weithio yn yr adran gelf yn ystod yr ail gyfres. Wedi iddi fod yn rhedwr yr adran gelf yng nghynhyrchiad Brave New World, dychwelodd at Sex Education ar gyfer y drydedd gyfres fel cynorthwyydd yn yr adran gelf. Yna, aeth ymlaen i fod yn berson drafftiau yng nghynhyrchiad Disney o Willow. I gloi ei chyfnod o weithio ar Sex Education, mae Emily yn dychwelyd ar gyfer y gyfres olaf fel cyfarwyddwr celf cynorthwyol.
Jamey-Leigh Butcher
Nesaf, Jamey-Leigh. Dechreuodd ei chyfnod o weithio ar Sex Education yn ystod y gyfres gyntaf, pan ymunodd fel hyfforddai yn yr adran gynhyrchu o Brifysgol De Cymru. Dychwelodd ar gyfer yr ail gyfres fel hyfforddai yn yr adran gynhyrchu dan adain ScreenSkills ac, yn ddiweddarach, bu'n gweithio gyda ni ar hysbyseb Sex Education ar gyfer Google Chromebook.
Bu profiad Jamey-Leigh ar Sex Education o fudd iddi, gan iddi wedyn dderbyn gwaith fel ysgrifennydd yn yr adran gynhyrchu ar Casualty, ac yn hwyrach wedyn ar War of the Worlds, lle bu'n gweithio fel ysgrifennydd yn yr adran gynhyrchu ac fel cydlynydd yn yr adran deithio a llety. Ar gyfer y bedwaredd gyfres, mae Jamey-Leigh yn dychwelyd at ei gwreiddiau gyda Sex Education – y tro hwn fel cydlynydd cynorthwyol yn yr adran gynhyrchu.
Stevie Lee Woodfield
Roedd Stevie yn un o'r hyfforddeion cyntaf yn yr adran gyfrifon yn ystod cyfres agoriadol Sex Education. Ar gyfer yr ail gyfres, dychwelodd fel AP ar gyflogres, cyn gweithio'n rhan-amser yn ystod y drydedd gyfres. Yn fwy diweddar, bu Stevie yn gweithio fel cyfrifydd cynorthwyol cyntaf ar gyfres Wolf ar y BBC.
Monika Buresova
Mae Monika yn fyfyrwraig o Brifysgol De Cymru a ddechreuodd ei siwrne gyda Sex Education yn gweithio fel hyfforddai yn yr adran pennu lleoliadau yn ystod y drydedd gyfres, ac yn ddiweddarach, arhosodd gyda ni fel cynorthwyydd lleoliadau. Ar ôl gweithio ar Sex Education, daeth Monika yn gynorthwyydd lleoliadau allweddol ar ffilm gydag Alex Garland. Symudodd ymlaen wedyn i weithio ar gynhrychiad We Hunt Together 2, gan ymgymryd â'r rôl fel cydlynydd lleoliadau. Yn fwy diweddar, bu’n gweithio ar gyfres Wolf y BBC.
Misha James
Nesaf, gadewch inni gyflwyno Misha! Bu’n hyfforddai yn yr adran pennu lleoliadau yn ystod y drydedd gyfres, fel myfyrfwraig o Brifysgol De Cymru. Pan orffennodd ei chyfnod gyda ni, daeth yn rheolwr uned ar gyfres boblogaidd Casualty, cyn gweithio ar gyfer y cyfresi Havoc a War of the Worlds.
Fred Badham
Eto'n fyfyriwr o Brifysgol De Cymru, roedd Fred yn hyfforddai yn yr adran sain yn ystod trydedd gyfres Sex Education. Ar ôl gorffen, aeth ymlaen i weithio gyda’r tîm recordio sain ar gyfres In My Skin. Gyda mwy o brofiad o dan ei felt, dyrchafwyd Fred i rôl y recordydd sain cynorthwyol yn War of the Worlds. Yn ddiweddarach, bu'n gweithio ar ddrama'r BBC, The Pact.
Jaye Wakely
Ymunodd Jaye â ni yn ystod y drydedd gyfres o Sex Education fel hyfforddai yn yr adran wisgoedd o Brifysgol De Cymru. Ers hynny, mae Jaye wedi mynd ymlaen i fod yn hyfforddai yn yr adran ddylunio ac wedi ymgymryd â rolau fel hyfforddai yn yr adran wisgoedd ar Havoc a Star Baker. Mae Jaye bellach yn ddylunydd gwisgoedd ar gyfer oedran iau.
Jimena Lucia
Dewch i gwrdd â Jimena: hyfforddai o Brifysgol De Cymru a fu gyda ni yn yr adran gelf yn ystod y drydedd gyfres o Sex Education. Ar ôl cwblhau ei hamser ar y sioe, aeth Jimena ymlaen i weithio fel cynorthwyydd graffeg. Ers hynny, mae hi wedi symud i Lundain, gan weithio ar gynhyrchiad Sister Pictures fel cynorthwyydd graffeg.
Eleanor Wood
Ymunodd Eleanor â ni hefyd fel hyfforddai yn yr adran gelf o Brifysgol De Cymru yn ystod y drydedd gyfres o Sex Education. Ar ôl i'r ffilmio ddod i ben, bu'n gweithio ar set ffilm o'r enw Prize Fighter, a'r gyfres deledu Sanditon. Ar hyn o bryd mae hi'n gweithio ar gyfres gan Amazon sy'n dwyn y teitl My Lady Jane.
Julia Hunnisett
Nesaf, edrychwn ar lwybr gyrfa Julia. Dechreuodd Julia fel hyfforddai yn yr adran gelf ar drydedd gyfres Sex Education, cyn dod yn gynorthwyydd yn yr adran gelf ar gyfer bloc dau’r ffilmio. Wedi hynny, parhaodd i weithio fel cynorthwyydd yn yr adran gelf, ond y tro hwn i War of the Worlds ac, yn ddiweddarach, i ffilm gan Untitled.
Jonathan Gurnett
Ac yn olaf, Jonathan! Hyfforddai llawr yn ystod trydedd cyfres Sex Education. Ar ôl i'r ffilmio ddod i ben, dechreuodd Jonathan weithio i CBBC fel rhedwr llawr i Jamie Johnson. Yn ddiweddarach, ymunodd â set Willow, lle gweithiodd ei ffordd i fyny o redwr llawr i gast PA, ac yna'n gyfarwyddwr cynorthwyol. Ar hyn o bryd, mae Jonathan yn gweithio fel cynorthwyydd personol i gyfarwyddwr ond mae ar drywydd ei drydedd rôl fel cyfarwyddwr cynorthwyol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ewch i gael golwg ar ein tudalen sgiliau lle byddwch chi’n dod o hyd i wybodaeth, cyfleoedd, a straeon hyfforddeion.