Wrth wraidd ein busnesau creadigol – ar draws pob sector – mae'r bobl dalentog, medrus ac angerddol a'u hadeiladodd. Rydym yma i sicrhau bod gan bobl greadigol cenedlaethau heddiw ac yfory yng Nghymru y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Rydym am helpu’n sectorau creadigol i hyfforddi’u gweithlu a’u gwneud yn fwy amrywiol, i gefnogi twf y diwydiant.

Am ddysgu rhagor? I weld beth yw ein blaenoriaethau o ran sgiliau, darllenwch ein Cynllun Gweithredu ar Sgiliau Creadigol.  Neu ewch i’n Cronfa Sgiliau Creadigol i weld a ydych yn gymwys am help ariannol.

​​​​​​