Cynwysoldeb sydd wrth wraidd beth mae’r cwmni celfyddydau cynhwysol blaengar Hijinx yn ei wneud. Ers dros 20 mlynedd, maen nhw wedi creu perfformiadau anhygoel gydag artistiaid ag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth ar lwyfan ac ar sgrin. Bellach, maen nhw’n rhoi’r holl brofiad a’r wybodaeth honno i mewn i ReFocus eu rhaglen hyfforddiant cynhwysiant newydd.

Wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y sector sgrin yng Nghymru, nod y prosiect yw mynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth artistiaid ac aelodau criw sydd ag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth. Mae’r rhaglen a dderbyniodd gefnogaeth ariannol gan ein Cronfa Sgiliau Creadigol ar gyfer 2023/2024, wedi’i datblygu gyda chymorth hefyd gan Bad Wolf, Boom Cymru, Screen Alliance Wales, Rondo, S4C a Triongl.

Fel rhan o’r rhaglen, gall y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant – boed yn llawrydd neu’n rhan o gwmni mwy – gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi undydd. Mae’r sesiynau hamddenol yn canolbwyntio ar drafodaethau grŵp a sesiynau chwarae rôl rhyngweithiol dan arweiniad actorion Hijinx a hwyluswyr profiadol. Nod y sesiwn? Arwain y cyfranogwyr drwy senarios bob dydd trwy ddarparu enghreifftiau go iawn o sefyllfaoedd ar y set, yn y cam ôl-gynhyrchu ac yn ystod y camau o ddatblygu prosiect ar gyfer y sgrin. Gobaith y rhaglen yw gwella sgiliau a hyder pobl wrth gyfathrebu ag oedolion ag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth ar y set, ystyried eu dulliau cyfathrebu a gwella eu dealltwriaeth am ddewisiadau ac anghenion cyfathrebu mewn amgylchedd cynhwysol.

Yn ogystal â’r cwrs undydd, mae ReFocus hefyd yn darparu gwasanaeth ymgynghori lle gall cwmnïau dderbyn cefnogaeth barhaol gan actorion Hijinx a staff hyfforddedig. Gan ddefnyddio’u gwybodaeth a’u profiad, gallan nhw fod wrth law i awgrymu newidiadau addas i’r gweithle neu gynnig arweiniad ar arferion gorau o ran iaith a gweithredu.

Mae ail brif ran y prosiect hwn yn ymwneud â sefydlu Asiantaeth Galluogwyr Creadigrwydd. Ar gyfer actorion ac aelodau criw sydd ag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth sy’n gweithio ar y set, gall ReFocus ddarparu Galluogwyr Creadigol – unigolion medrus a phrofiadol sy’n gallu cynnig cymorth. Gallan nhw, er enghraifft, helpu gweithwyr i ddeall dogfennau, cysylltu â’r criw, neu fod yno i wneud iddyn nhw deimlo’n fwy cyfforddus a chartrefol. Fel un o’r prosiectau sy’n derbyn cymorth gan ein Cronfa Sgiliau Creadigol, bydd ein cyllid yn cefnogi’r gwaith o hyfforddi cronfa o Alluogwyr Creadigol y gall cynyrchiadau ledled Cymru eu llogi.

Os hoffech chi wybod mwy am ein Cronfa Sgiliau Creadigol, ewch i. Gallwch hefyd ddarganfod mwy am ReFocus a’r gwaith mae Hijinx yn ei wneud trwy fynd i’w gwefan.

Straeon cysylltiedig