Paul ‘Bach’ Davies ydw i. Rwy’n byw yn Aberarth, Ceredigion, ond yn Felin-fach y ces i fy ngeni. Rwy’ yn fy mhumdegau, ac yn gweithio yn y byd ffilm a theledu ers deg mlynedd ar hugain. Rwy’n dal i gael modd i fyw yn gwneud y gwaith hwn.
Ar ôl gadael yr ysgol, drwy lwc cefais le ar Gynllun Hyfforddi Ieuenctid yn Theatr Felinfach. Dyna i chi le anhygoel, gwta ddeg munud o ’nghartre. Ac yn y fan honno y dechreuodd fy nhaith i. Heb y cyfle hwnnw, fyddwn i ddim wedi cwrdd â Dafydd Hywel a oedd yno ar daith gyda drama; fe gynigiodd swydd i mi fel rheolwr llwyfan ar ei brosiect theatr nesaf.
Teithiais Gymru am chwe blynedd ac wedyn, yn gwbl annisgwyl, gofynnodd HTV i mi a hoffwn i fod yn rhedwr ar gynhyrchiad yn Llanddewi Brefi. Fe es amdani, a doedd dim troi yn ôl wedyn. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd gwaith rheolwr lleoliadau, hyd yn oed. Gŵr o’r enw Gareth Vaughan oedd yn gwneud hynny, ac roedd gen i ddiddordeb yn ei waith. Dysgodd Gareth fi beth yw ystyr canfod lleoliadau a gofalu amdanyn nhw. Eich cyfrifoldeb chi yw perchnogion y lleoliadau, y cast, y criw a’r cyhoedd.


Wrth reoli lleoliad, mae angen i chi fod yn hyderus, ond dim ond profiad sy’n rhoi hyder i chi. Mae’r gallu i feddwl yn chwim a’r gallu i gyfathrebu yn hollbwysig, gan na fyddwch chi byth yn gwybod beth fydd yn eich wynebu o’r naill ddiwrnod i’r llall. Mae diddordeb mewn pensaernïaeth yn ddefnyddiol, ac mae’n rhaid i chi fod yn barod i weithio mewn pob math o amgylchiadau a thywydd, a gweithio pob math o oriau.
Wrth weithio ar gynhyrchiad newydd, fe fydd gennych chi ryw saith neu wyth wythnos i baratoi. Mae’n swnio’n llawer, ond pan fydd angen dod o hyd i 60 neu 70 o leoliadau, mae’r amser hwnnw’n prysur ddiflannu. Fy nhasg gyntaf fydd darllen y sgript cyn sgwrsio â’r cynhyrchwyr, y dylunydd a’r cyfarwyddwr. Mae cyllidebau’n hollbwysig wrth benderfynu ym mha ardaloedd y byddwch chi’n ffilmio. Mae defnyddio gwybodaeth leol a’ch dychymyg hefyd yn bwysig, a ddylech chi ddim chwaith ofni cynnig llefydd diddorol.


Mae gen i enw am fynd â chriwiau i lefydd na fyddai neb arall yn breuddwydio mynd â nhw. Y Gwyll oedd un o fy hoff gynyrchiadau. Roedd honno’n gyfres heriol tu hwnt, ond yn un a roddodd gryn ryddid i gynnig y tirweddau mwyaf anghysbell ac unigryw.
Dros y blynyddoedd, rwy’ wedi creu cysylltiadau dirifedi ac mae gen i tua 50,000 o ffotograffau o wahanol leoliadau rydw i wedi bod i’w gweld. Mae Cymru Greadigol hefyd yn ffynhonnell wybodaeth bwysig; bydda’ i’n aml yn gofyn i Penny Skuse am gyngor a gwybodaeth am leoliadau o’u cronfa ddata nhw.
Pan ddechreuais i arni, dim ond fi oedd yn yr adran leoliadau. Ar fy nghynhyrchiad diwethaf, roedden ni’n dîm o wyth. Dyna’r peth braf am reoli lleoliadau yn yr oes hon – mae digonedd o swyddi a chyfleoedd ar gael. Mae nifer yr hyfforddeion sy’n dechrau gweithio mewn swyddi rheoli lleoliadau hefyd yn gyffrous. Dyma bobl sy’n deall llawer mwy na fi. Maen nhw’n fwy trefnus hefyd.
Paul 'Bach' Davies, Rheolwr LleoliadauDrwyddi draw, mae hi’n swydd ardderchog. Mae’r mwynhad o gael ymlacio ar nos Sul yn gwylio rhywbeth rydych chi wedi bod yn rhan ohono yn deimlad anhygoel."
Mae nifer y gwahanol brosiectau sy’n mynd rhagddyn nhw’n gyffrous, o gynyrchiadau cyfnod i rai modern, o fideos cerddoriaeth i hysbysebion. Mae Cymru’n ffynnu, ac mae yna leoliadau di-ben-draw sydd heb gael eu defnyddio eto.
y nghyngor i unrhyw un sydd eisiau bod yn rhan o adran leoliadau yw gwneud ychydig o waith ymchwil i’r gwahanol swyddi yn yr adran, a chysylltu â’r rheini sy’n gweithio yn y maes! Mae nifer o sefydliadau sydd hefyd ar gael i roi cyngor, fel Screen Alliance Wales a Gyrfaoedd Sgrin Ffilm Cymru. Diolch i’r drefn, erbyn hyn, dydy hi ddim yn fater o bwy rydych chi’n digwydd ei adnabod.
Mae gweithio fel rheolwr lleoliadau wedi fy ngalluogi i weld y llefydd mwyaf anhygoel na fyddwn i byth wedi’u gweld fel arall. Rwy’ hefyd wedi cwrdd â pherchnogion lleoliadau a chriwiau hollol wych. Mae hi’n swydd sy’n rhoi boddhad mawr, ac fe fydda’ i’n ddiolchgar am byth i bawb sy’n barod i agor eu drysau a gadael i mi gael cip ar eu heiddo.
Drwyddi draw, mae hi’n swydd ardderchog. Mae’r mwynhad o gael ymlacio ar nos Sul yn gwylio rhywbeth rydych chi wedi bod yn rhan ohono yn deimlad anhygoel.
Hoffech chi ffilmio yng Nghymru? Os bydd angen cymorth arnoch chi i ddod o hyd i leoliadau gwych neu’r criwiau a’r llety gorau, ewch i’n gwefan. Mae popeth fan hyn, o’n cronfa ddata o leoliadau. i’r wybodaeth am y cynyrchiadau diweddaraf sydd wedi cael eu ffilmio yn ein gwlad.