Rydym yn falch iawn o fynd i Gamescom 2023.

Bydd ein rheolwyr datblygu busnes Kathryn Wolfe-Adams a Beth Romais ar gael i gwrdd ag unrhyw fusnes sy'n ystyried Cymru fel lleoliad i sefydlu eu cwmni yn y DU.

Fel asiantaeth o fewn Llywodraeth Cymru, rydym yn cynnig pecyn cymorth deniadol sy'n galluogi busnesau i ddatblygu eu tîm yn gyflym mewn lleoliad mwy fforddiadwy.

Mae ein cysylltiadau agos â phrifysgolion yn darparu llif cyson o raddedigion o safon uchel, tra bod Cymru ei hun yn cynnig cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith sy'n cynnig y gymysgedd o fywyd mewn dinas, ochr yn ochr â’r traethau gorau, parciau cenedlaethol hardd a mwy o gestyll fesul milltir sgwâr nag unrhyw le arall yn y byd.

Darganfod mwy am Gymru a byw yng Nghymru.

Cymorth Ariannol

Ar ôl sefydlu yng Nghymru dyw'r gefnogaeth ddim yn dod i ben yno. Gall busnesau sydd â'u pencadlys yng Nghymru gael cymorth ychwanegol drwy ein Cyllid Datblygu. Mae'r gronfa yn cynnig hyd at £35,000 i stiwdios sy'n cynhyrchu gemau a chynnwys trochi i ddatblygu cysyniadau i lefel y gallant eu cyflwyno i fuddsoddwyr ar gyfer buddsoddiad masnachol.

Ar gyfer stiwdios mwy sefydledig, gall ein Cyllid Cynhyrchu ddarparu hyd at £500,000 (mae'r ffigur hwn yn seiliedig ar gyfanswm yr arian sy'n cael ei wario yng Nghymru, er enghraifft cyflogi gweithwyr llawrydd, gwasanaethau a chyflenwyr yng Nghymru) Mae'r gronfa hefyd ar gael i fusnesau sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gymru, gyda lefelau uwch o gyllid ar gael i fusnesau sy’n barod i sefydlu lleoliad parhaol yn y wlad.

Os ydych yn mynd i Gamescom ac yr hoffech drefnu cyfarfod gyda tîm Cymru Greadigol, cysylltwch â cymrugreadigol@llyw.cymru.

Straeon cysylltiedig