Pwy all ymgeisio?

Mae'r cyllid hwn wedi'i anelu at fusnesau yng Nghymru sy'n datblygu Eiddo Deallusol (IP) sy'n seiliedig ar gynnwys i'w ryddhau'n fasnachol yn y Diwydiannau Creadigol. Bydd y rownd hon o gyllid yn cefnogi prosiectau o fewn y byd teledu, animeiddio masnachol, gemau fideo a thechnoleg ymgolli. 

Rydym am ddarparu cymorth ariannol i'r sectorau Animeiddio a Teledu masnachol, i helpu cwmnïau brodorol i ddatblygu prosiectau a chysyniadau yn llawn, gan gynnig mwy o siawns o gael prosiect wedi'i gomisiynu, ei oleuo a'i gynhyrchu.

Rydym hefyd am gefnogi cadw eiddo deallusol gan gwmnïau brodorol a fydd, yn ei dro, yn galluogi twf pellach yn y sector.

Mae'r mathau o brosiectau a gefnogwyd yn flaenorol yn cynnwys datblygiad:

•  rhaglen ddogfen hanesyddol wedi'i dosbarthu'n rhyngwladol
•  fformat ffeithiol oriau brig yn ystod y dydd
•  cyfres animeiddio cyn ysgol
•  cyfres wedi'i sgriptio

Yn y rownd hon, sylwch fod gennym ddiddordeb arbennig (ond nid yn unig) mewn prosiectau datblygu heb eu sgriptio a fformatau adloniant.

Yr uchafswm ar gael fesul prosiect yw £25,000 yr un.

Yn y sectorau Gemau a Thechnoleg Ymgolli, hoffwn darparu cymorth ariannol ar gyfer datblygu Eiddo Deallusol newydd mewn gemau fideo a chymwysiadau (apps) technoleg ymgolli.

Bydd hyn yn helpu busnesau i ddatblygu cysyniadau i lefel lle gallant gyflwyno'r prosiectau hyn a sicrhau buddsoddiad masnachol, ac -yn y pen draw - cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chadw Eiddo Dealluso gan gwmnïau cynhenid a fydd, yn ei dro, yn galluogi twf pellach yn y sector.

Mae'r mathau o brosiectau a gefnogwyd yn y gorffennol yn cynnwys:

• rhan o gêm fideo newydd
• cais realiti estynedig
• gêm antur stori fyw ryngweithiol
• gêm VR ymgolli aml-chwaraewr gan gynnwys e-chwaraeon ar gyfer digwyddiadau ac adloniant

Yr uchafswm ar gael fesul prosiect yw £35,000 yr un.

Yn y ddwy ffrwd ariannu sydd ar gael, nid oes rhaid i ymgeiswyr ddangos cyllid cyfatebol, ond bydd gwneud hynny'n cryfhau'r cais.

Os yw eich prosiect yn canolbwyntio mwy ar ymchwil a datblygu yn hytrach na chreu cynnwys ac eiddo IP newydd, efallai y bydd gennych ddiddordeb yng Nghronfa Datblygu Media Cymru sy'n agor ar 24fed o Orffennaf, sydd yn cael ei chefnogi gan Cymru Greadigol. Mae Media Cymru yn chwilio am brosiectau sy'n cael eu gyrru gan arloesi ledled Cymru sy'n dangos potensial clir ar gyfer cynnyrch, profiad neu wasanaeth diriaethol yn sector y cyfryngau.

Sut i ymgeisio

Mae'r alwad gyllido hon ar agor o Ddydd Gwener 14 Gorffennaf 2023 ac yn cau ar 8fed o Fedi 2023 am 12.00pm. Ni fyddwn yn ystyrio ceisiadau hwyr.

Cyn i chi wneud cais, fe'ch cynghorir i ddarllen y nodiadau canllaw yn ofalus.

I ymholi neu ofyn am ffurflen gais, anfonwch e-bost at: CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru.

Noder – Nid yw trafod eich prosiect gydag aelod o'r tîm yn golygu cymeradwyo neu asesu eich cynnig. Mae hwn yn gynllun cystadleuol ble y bydd pob prosiect yn cael ei asesu a'i sgorio i feini prawf safonol.

Dylid cyflwyno ffurflenni cais wedi'u llenwi i CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru erbyn 12pm ar 8fed o Fedi.

Nodiadau Canllaw Cronfa Ddatblygu Cymru Greadigol

Cliciwch i lawrlwytho