A oeddech chi’n gwybod, os ydych chi’n rhedeg busnes creadigol yng Nghymru, efallai y gallech dderbyn cyllid er mwyn helpu i uwchsgilio eich staff? Fel rhan o Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru, gall busnesau creadigol gael cyllid ar gyfer cyfleoedd hyfforddi i’w gweithwyr.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru wedi'i gynllunio er mwyn helpu cwmnïau i fynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau ac uwchsgilio eu staff. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i greu gweithlu cryfach a mwy ystwyth ar draws y sectorau creadigol.

Gall busnesau cymwys gael hyd at £25,000 o arian cyfatebol er mwyn i staff fynychu cyrsiau hyfforddi sydd eu hangen arnynt er mwyn datblygu eu sgiliau. Gall hyfforddiant fod wyneb yn wyneb neu ar-lein, a rhaid iddo fod naill ai wedi'i achredu neu o safon gydnabyddedig yn y diwydiant.

Gall hyfforddiant ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:

• Cynhyrchu crefft ac ôl-gynhyrchu

• Defnydd o dechnoleg newydd ar gyfer eich cwmni a pheirianneg ar gyfer technolegau creadigol

• Marchnata a brandio ar gyfer diwydiannau creadigol

• Hyfforddiant creu cynnwys traddodiadol a chyfoes

• Hyfforddiant ariannol

• Hyfforddiant busnes cyfreithiol ar gyfer ffilm, teledu, cynhyrchu teledu, gemau, animeiddio a cherddoriaeth

• Gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag ymchwil a datblygu yn y diwydiannau creadigol

• Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae rhestr lawn o enghreifftiau i’w gweld ar wefan Busnes Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy ac archwilio a yw eich cwmni yn gymwys i gael cymorth, yna ewch i Busnes Cymru.

Straeon cysylltiedig