Fy enw i yw Yasmine Davies, ac rwy'n dod o bentref bach yng Nghymoedd De Cymru o'r enw Aberbargoed. Symudais i Gaerdydd pan oeddwn yn 17, ac rwyf wedi bod yma mwy neu lai ers hynny, er ddim yn gwbl gyson.

Gweithiais ar brosiect fel rhan o fy nghradd Meistr. Bu pennaeth Beacons Cymru, Spike, yn ddarlithydd gwadd am un sesiwn a gofynnodd i ni greu prosiect tebyg i un a oedd eisoes yn bodoli gan Beacons Cymru.

Roedd wrth ei fodd gyda fy syniad a gofynnodd a allwn i ymuno fel unigolyn o fewn y maes Ymchwil a Datblygu. Fe wnes i ymchwilio am chwe mis, dwi'n credu, ac yna fe gyflwynais fy nghanfyddiadau. Dyma welodd fan cychwyn Resonant. Ro'n i'n grediniol bod y syniad yn un addas ac fe ddaeth y syniad i fod o dan yr amgylchiadau cywir, oherwydd fe wnaeth Beacons Cymru ei gydnabod fel rhywbeth angenrheidiol.

Mae gen i fand o'r enw Banshee, a dwi wedi bod yn gigio ar y sîn ers blynyddoedd. Fel yr unig ferch yn yr ystafell, neu fel yr unig berson a oedd yn uniaethu fel fi, ro'n i wedi dod ar draws gormod o broblemau ac ro'n i eisiau gweld newid. Ro'n i jest yn teimlo nad oedd yna hygyrchedd yn nhermau mynediad. At hynny, dwi'n dod o'r cymoedd. O le ro'n i'n sefyll, ro'n i'n teimlo bod y sîn yn glwb i fechgyn.

Dwi hefyd yn lesbiad, ac mae gen i synnwyr cryf o gymuned o'm cwmpas oherwydd hynny - llawer o ffrindiau traws ac anneuaidd. Ro'n i'n sylwi bod partwm cyffredin yn codi yma; nid problem merch yn unig mohoni, mae yna ddynion traws sydd ddim yn cael yr un cyfleoedd â mi yn aml yn cael eu trin yn waeth o fewn amgylchedd gwaith. Ceisiais ddarganfod beth oedd yn dal pobl yn ôl. Yn aml iawn, agweddau'r rhai a oedd yn meddu ar bŵer oedd wrth wraidd hyn. Roedden nhw'n camddefnyddio'r pŵer hwnnw ac yn gallu gwneud i rywun deimlo'n fach yn hytrach na chynnig hyfforddiant i'r unigolyn.

Felly, dechreuais adeiladu'r syniad ar gyfer y prosiect hwn o amgylch canoli rhywiau ymylol. Ro'n i'n edrych ar ffyrdd o gael y rhywiau hyn i ddod at ei gilydd, dod o hyd i dir cyffredin, a dod o hyd i gymuned o bobl fyddai'n eu cefnogi, a deall yr hyn y maen nhw wedi bod drwyddo. Dwi wedi derbyn ceisiadau ar gyfer y prosiect sydd wedi dod â dod â deigryn i'r llygad, bron: sut all unrhyw un droi eu cefnau ar unigolyn sydd ond yn ceisio bod yn bwy ydyn nhw?

Gyda prosiect Resonant, rydyn ni'n cynnig cyfle i 10 unigolyn o bob oed i ymuno â ni ar gwrs chwe mis. O fewn y chwe mis hwn, mae ganddynt weithdai misol, ac maent yn cymryd rhan mewn cyfleoedd cysgodi. Mae gennym ni bartneriaeth wych gyda Chlwb Ifor Bach. Rydyn ni wedi bod yn cynnig cyfloedd i'r unigolion ar y prosiect sy'n ymwneud â threfnu digwyddiadau, technoleg sain a thechnegau goleuo, fel eu bod nhw'n cael cysgodi gyda gweithiwr proffesiynol a chael gweld pa agweddau o'r gwaith sy'n addas ar eu cyfer.

Caiff mentor o fewn y diwydiant ei neilltuo ar gyfer pob unigolyn i helpu gyda'u datblygiad. Yn y pen draw, maent hefyd am gael cyfle i weithio â Gŵyl Sŵn. Gall hyn fod yn waith y tu ôl i'r llen, ar y llwyfan, fel hwylusydd cyswllt ar gyfer artististiaid, neu yn y swyddfa docynnau.

Mae'r mwyafrif llethol o gyfranogwyr ein prosiect yn nodi eu bod yn LHDTC+. Mae llawer ohonynt hefyd yn uniaethu fel niwroamrywiol. Os ydych chi'n byw â'r hunaniaethau hyn, mae rhwystrau penodol yr ydych yn debygol o'u hwynebu. Mae angen i'r prosiect hwn fodoli fel bod gan bobl fap gyda chyfarwyddiadau tryloyw ar gyfer goroesi a ffynnu yn y diwydiant. Fel arall, mae'n anhygyrch ac nid yw'n cynnig mynediad. Ni allwch gyflawni rôl os nad ydych yn gweld eich hun o'i mewn. Mae cynrychiolaeth mor bwysig i ni, a chynrychiolaeth sy'n gyrru popeth a wnawn. Mae'r prosiect yn cael ei weithredu am yr eildro ar hyn o bryd, felly rydym yn ddiolchgar am y cyllid. Mae wedi caniatáu inni fwrw ati gyda'n cenhadaeth.

Gwn fod llawer o bobl yn y cymoedd fel fi; pobl ifanc cwiar, pobl ifanc traws, pobl anneuaidd, a merched sydd heb gael yr opsiwn i archwilio cerddoriaeth. Byddwn wrth fy modd yn ein gweld yn cymryd yr hyn sydd gennym i'w gynnig yma ac yn rhannu hynny'n ehangach i ardaloedd eraill yng Nghymru.

Byddwn hefyd wrth fy modd yn gweld prosiectau eraill tebyg i Resonant yn cael eu rhoi ar waith, neu byddwn wrth fy modd yn gadael gwaddol â'r prosiect hwn. Ar wahân i hynny, dwi'n bwriadu dechrau gweithio ym Mhrifysgol De Cymru fel darlithydd gwadd yn hwyrach eleni. Ac rwy'n gobeithio y bydd gen i fand llwyddiannus iawn!

I ddarganfod mwy am y prosiect Resonant a ariennir gan Cymru Greadigol, ewch i wefan Beacons Cymru.

Straeon cysylltiedig