Os ydych chi am ddatblygu eich sgiliau a chael profiad yn y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru, yna mae cynllun prentisiaeth ar y cyd gan Sgil Cymru yn lle da i ddechrau. Mae'r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael treulio blwyddyn yn ymgolli yn y diwydiant, gan ennill profiad ymarferol yn gweithio ar rai o'r cynyrchiadau mwyaf ledled Cymru.
Cawsom sgwrs â phedwar prentis a orffennodd eu lleoliad pum wythnos cyntaf yn ddiweddar ar set yr ail gyfres o House of the Dragon gyda Warner Bros/HBO fel rhan o’u prentisiaethau CRIW.
Buont yn siarad â ni am eu profiadau hyd yn hyn, yr hyn y maen nhw wedi’i fwynhau am y lleoliadau a pham y byddent yn argymell y cynllun prentisiaeth hwn i eraill. Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy.
Cai Pritchard
Cai ydw i a dwi'n dod o Bwllheli ym Mhen Llŷn. Ro'n i'n gadael coleg a do'n i ddim wedi gosod unrhyw gynlluniau ar gyfer y brifysgol. Ro'n i eisiau neidio i mewn i'r diwydiant cyn gynted â phosibl. Anfonodd fy nhiwtor ddolenni er mwyn gwenud cais ar gyfer prentisiaeth Sgil Cymru ataf, ac roedd yn gweddu gyda'r hyn ro'n i eisiau ei wneud.
Ar gyfer fy lleoliad cyntaf, ro'n i yn yr adran gamerâu yn gweithio gyda thri, weithiau pedwar camera, gweithredwyr camera, cynorthwywyr, a hyfforddeion. Roedd hyn wirioneddol yn agoriad llygad. Mae'n rhoi syniad i chi o raddfa'r diwydant, ond hefyd faint o waith sydd angen i chi ei gyflawni.
O'm profiad hyd yn hyn, byddwn yn dweud bod CRIW yn gosod conglfeini ar gyfer yr hyn yr ydym am ei gyflawni. Mae’n rhoi syniad i chi o raddfa'r gwaith, ond mae hefyd yn rhoi rhywbeth i chi weithio ac anelu tuag ato, yn enwedig pan fyddwch chi wedi bod yn rhan o rywbeth mor fawr â chynhyrchiad HBO. Er fy mod i'n meddwl ein bod ni wedi cael llawer o brofiad o weithio gyda HBO, mae'r broses yn ymwneud mwy â darganfod beth rydyn ni eisiau gweithio tuag ato. Dyna beth mae cynllun CRIW yn ei gynnig i chi.
Mae llwybr pawb yn wahanol, ond os ydych chi'n rhan o gynllun CRIW Sgil Cymru mae’n rhoi llawer o brofiadau gwahanol i chi yn hytrach na chwrs lle gallwch chi fod yn astudio pwnc arbennig neu bynciau penodol am flwyddyn gron. Rydych chi'n cael eich cyflwyno i'r adrannau sydd o ddiddordeb i chi, ac rydych chi'n cael gweithio gyda'r bobl neu'r cwmnïau sydd o ddiddordeb i chi, hefyd. Mae Sgil Cymru yn rhoi caniatad i’r cyfranwyr gymhwyso eu diddordebau a’u sgiliau i'r cynllun.
Cynan Roberts
Cynan dwi a dwi'n dod o Ynys Môn. Ro'n i'n gwybod nad oeddwn i eisiau mynd i'r brifysgol, felly dechreuais chwilio am brentisiaethau oherwydd roedd yn ymddangos fel y cyfle gorau. Dywedodd Sgil Cymru y bydden nhw'n gwneud eu gorau glas i roi'r cyfranwyr ymhob rôl y gallen nhw yn y byd sgriptio, felly doedd dim gwaith meddwl o'm rhan i ac mi es i amdani.
Ar fy lleoliad cyntaf, ro'n i'n gweithio yn yr adran gelf a'r adran propiau. Gweithiais gyda'r cyfarwyddwr celf - rhoi propiau i'r cast a helpu i wisgo'r set, ac ychwanegu manylion lle gallwn. Roedd gweithio yn yr adran gelf ar rywbeth mor fawr yn anhygoel. Mae'n rhywbeth dwi'n mynd i'w gofio am amser hir iawn.
Dwi wastad wedi caru ffilm, ond ar ôl mynd ar y setiau a gweld sut mae pawb yn gweithio, sut mae pawb yn siarad â'i gilydd, sut mae pawb yn gwneud eu swyddi, datblygais gariad newydd tuag at y byd ffilm. Mae fy mhrofiad hyd yn hyn wedi effeithio’n fawr arna i – mae wedi rhoi persbectif newydd o'r byd hwn imi, a chariad newydd tuag ato hefyd.
Gyda phrentisiaethau fel CRIW, rydych chi'n ennill gwybodaeth am bethau ymarferol. Rydych chi'n cwrdd â gwahanol bobl ac yn gwneud cysylltiadau. Os oes gennych gariad, angerdd a gobeithion ar gyfer y byd ffilm, yna does dim angen meddwl ddwywaith am y brentisiaeth hon. Mae'n mynd i'ch helpu chi i gyrraedd lle rydych chi eisiau bod - ble bynnag y bo hynny. Mae Sgil Cymru yn gofyn i chi beth sydd orau gennych chi, pa adrannau, pa genres, ac yna bydden nhw’n gwneud eu gorau i’ch rhoi chi mewn rhywbeth sy’n gweddu’n berffaith â'ch gobeithion.
Fiorella Wyn
Fiorella dwi a dwi'n dod o Borthmadog. Y llynedd, ro'n i mewn swydd nad o'n i'n ei mwynhau mwyach. Gwelais fod Sgil Cymru yn recriwtio ar gyfer CRIW, felly fe wnes i gais i fod yn rhan o'r cynllun. Ro'n i wedi dilyn Sgil Cymru ers tro ac yn gwybod bod y cyfle hwn yn un eithriadol o dda, yn enwedig gan nad oedd rhaid imi adael Gogledd Cymru.
Ar gyfer fy lleoliad cyntaf, fe wnes i weithio ar dipyn o adrannau gwahanol. Dechreuais yn y maes golygu dilyniant gan bod gen i ddiddordeb mewn ennill mwy o brofiad goruchwylio sgriptiau. Yna, symudais i'r maes cynhyrchu, lle bues i'n gynorthwyydd personol am rai dyddiau, ac yna es i'r adran gelf a propiau. Fe wnes i ychydig o wisgo set, helpu i wneud rhai propiau, ac yna, fe orffennais fy nghyfnod yn fy lleoliad cyntaf yn yr adran golur. Rwyf wedi cael fy hyfforddi fel artist colur eisoes, felly roedd yn brofiad da iawn. Nid wyf wedi gweithio ar unrhyw beth mor fawr â hyn erioed o'r blaen, felly roedd cael y profiad yn anhygoel. Mae wedi ailgynnau fy angerdd yn yr adran colur.
Pan ddechreuais ar y cynhyrchiad HBO, nid oeddwn yn sicr mai ar set drama deledu boblogaidd ro'n i eisiau bod. Ond ar ôl gorffen, dwi'n meddwl ei fod wedi addasu fy ngobeithion at y dyfodol.
Dyna’r peth da am y brentisiaeth hon gyda Sgil Cymru - fe wnaeth Sue a'r tîm gymryd eu hamser i ddod i fy adnabod yn drylwyr o'r dechrau. Maen nhw'n barod i awgrymu pethau y gallech chi fod yn dda ynddynt, ac mae eu cynigion wastad yn rhai sy'n gweddu'n dda gyda'ch gobeithion. Mae gennym hefyd y sicrwydd hwnnw am flwyddyn o leiaf ein bod gyda'r cyfle i weithio ar gynhrychiad, bod gennym ni swydd bob amser a bod yr incwm yn ein cyrraedd o hyd.
Huw Hughes
Huw dwi a dwi’n dod o Ynys Môn. Ro'n i wedi gwneud dwy flynedd o ffilm a theledu yn y coleg ac ro'n i ar fin gorffen yn y chweched dosbarth. Ro'n i'n gwybod nad o'n i eisiau mynd i'r brifysgol felly daliais ati i edrych ac edrych a phan ffeindiais brentisiaeth CRIW Sgil Cymru, fe wnes i gyflwyno cais yn syth bin.
Ro'n i yn yr adran propiau lle ro'n i'n gwisgo actorion, yn symud pethau o gwmpas, ac yn adeiladu rhai propiau. Ar y diwrnod cyntaf es i yno, ro'n i'n nerfus. Fel person dibrofiad yn ymuno â set, do'n i ddim yn disgwyl iddyn nhw fod yn dîm mor anhygoel. Fe ddangoson nhw bopeth oedd ei angen arna i. Roedd yn brofiad arbennig ac mae'n rhywbeth y byddaf yn ei gofio am weddill fy oes.
Mae mwy a mwy o gynyrchiadau yn dod i ogledd Cymru, felly dwi gant y cant o blaid annog pobl i ystyried ymgeisio i ymuno â phrentisiaeth fel CRIW.
*Cyflwynir rhaglen brentisiaeth CRIW Sgil Cymru mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro a Grŵp Llandrillo Menai.
Eisiau profiadau yn y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru? Ewch i wefan Sgil Cymru i ddarganfod mwy am raglen brentisiaethau CRIW.