Charles Strider ydw i. Dwi’n dod yn wreiddiol o Ganolbarth Lloegr, ond dwi wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn byw yng Nghymru a dwi wedi caru pob eiliad yma.

Ro'n i’n ddigartref i bob pwrpas yn 18 oed a dwi'n byw â dislecsia difrifol, ond mae ysfa gynhenid wedi bod tu mewn imi erioed i adrodd straeon. Dwi’n cofio bod yn bum mlwydd oed a gwylio The Storyteller gan John Hurt. Do'n i ddim yn gwybod beth oedd o'n ei wneud, ond ro'n i eisiau gwneud yr union yr un peth fel swydd. Dwi'n gweld fy hun fel storïwr. Dwi'n teimlo bod ffilm yn gyfrwng unigryw lle mae'n gelfyddyd gydweithredol, ond mae hefyd yn sefyll ar ei thraed ei hun fel celfyddyd.

O ganfod fy hun yn symud o un lle i'r llall yn ceisio lle i gysgu, dechreuais ysgrifennu. Yna, pan wnes i droi'n 20, teimlais newid a oedd yn llythrennol fel gwasgu swits.  Yn sydyn, teimlais bod ysgrifennu creadigol yn dod yn naturiol i mi, er imi gael trafferth â'r grefft erioed. Ers hynny, dwi heb allu stopio ysgrifennu'n greadigol.

Ro'n i'n cael pobl yn dweud wrtha i'n gyson y dylwn gyfarwyddo gan bod pobl yn credu bod cyfarwyddo'n rhan o fy anian. Ond, mae pobl o fy nghefndir i yn gorfod brwydro i gael y cyfleoedd hynny. Dwi wedi byw fy mywyd, ar ei hyd, o dan y llinell dlodi, felly tydi cyfarwyddo heb fod yn opsiwn imi.

Nid yn unig i NFTS gynnig cyfle i bobl ymarfer eu crefft - sy'n rhywbeth nad wyf wedi cael y rhyddid i'w wneud o'r blaen - ond rydych yn cael y fraint o wneud hynny gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, mewn amgylchedd anhygoel. Mae'r cwrs hwn [Scriptwriting: Finding your Voice] yn gyfle sy'n trawsnewid bywyd ac yn rhywbeth dwi'n hynod ddiolchgar amdano oherwydd mae bod yn rhan ohono wedi profi fy mod i'n dilyn y llwybr cywir.

Mae'r cwrs yn eithaf cymysg. Rydym yn cwblhau’r gwaith cartref sydd wedi ei osod ac yna’n cael sesiynau lle byddwn yn dadansoddi'r dewisiadau yr ydym wedi eu gwneud. Mae wedi bod yn ddefnyddiol gallu gwneud y cwrs ar-lein, ond mae'r dyddiau lle rydym wedi cyfarfod yn y cnawd yn BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd wedi bod yn arbennig hefyd oherwydd eu bod yn caniatáu i ni arbrofi a ffynnu ychydig bob amser.

Mae'r diwydiant hwn yn adnabyddus fel un sy'n cael ei reoli gan gysylltiadau a phwy rydych chi'n ei adnabod. Gyda'r diwydiant hefyd yn symud ar raddfa mor gyflym, gall fod yn anodd iawn i bobl sy’n dod o lwybrau anhraddodiadol fod yn rhan o'r cwbl pan nad oes cysylltiadau gyda chi, yn enwedig felly i bobl fel fi sydd ddim o reidrwydd yn dod o gefndir ariannol sefydlog. Mae bwrsariaeth fel hon a’r cwrs NFTS yn roi cyfle i unigolion fel fi gael mynediad at y diwydiant, creu gyrfa gydol oes a rhoi yn ôl i gymunedau lleol.

Nid yn unig i'r fwrsariaeth a dderbyniais gan Cymru Greadigol fod yn ddefnyddiol, ond newidiodd fy mywyd. Golygodd y cyllid fy mod i'n gallu mynychu'r cwrs, lle nad oedd hynny'n opsiwn gynt, a hynny nid yn unig i gymryd rhan, ond i adeiladu ar fy nghamau cyntaf tuag at yrfa gydol oes, hefyd. Ond roedd hyn yn fwy na chymorth ariannol yn unig. Ar ben hynny, taniodd deimlad o ddiolchgarwch, cymhelliad, a phenderfyniad ynof. Heb os nac oni bai, roedd y fwrsariaeth yn anrheg amhrisiadwy sydd wedi trawsnewid fy nhaith addysgol ac artistig a’m gosod ar lwybr tuag at lwyddiant.

Cyn i mi ddod i Gymru, doedd dim modd imi gael fy nhroed i mewn i'r diwydiant. Cefais fy nghroesawu gan y wlad gyda breichiau agored, ac mae wedi bod yn brofiad mor anhygoel. Gall gweithio ar set fod yn straen, ond mae gan Gymru y golygfeydd mwyaf heddychlon a hardd yn y byd, a chredaf fod hynny'n trosi i feddylfryd y bobl sy'n gweithio yma. Dyna fy mhrofiad o weithio ar gynyrchiadau amryfal yma; mae'r criw ymhlith y gorau yn y byd.

Trwy ymgymryd â cwrs NFTS, dwi wedi dysgu fy mod i, nid yn unig yn berson sy'n gallu cyflawni pethau, ond fy mod i hefyd yn rhywun sy'n haeddu cyflawni cystal, yn yr un modd ag unrhyw un arall. Mae 'Screenwriters: Finding your Voice' yn gam anhygoel ymlaen i mi ac yn tystio fy niddordeb parhaus yn y diwydiant. Dwi'n parhau i godi'n uwch, yn parhau i ddatblygu fy syniadau, ac yn parhau i gyfarwyddo pryd bynnag y caf y cyfle i wneud hynny.

Felly, os ydych chi'n ystyried gwneud cais i dderbyn bwrsariaeth ac i fod yn rhan o gwrs ysgrifennu NFTS, gwnewch hynny ar bob cyfrif. Mae'n bopeth y gallwch ddymuno ei dderbyn i gyfoethogi eich gyrfa a'ch angerdd.

Ydych chi eisiau cael mynediad i sector y sgrin yng Nghymru? Gallwch ddarganfod mwy am gyrsiau NFTS Cymru-Wales. Os oes angen cymorth ariannol arnoch, gall cyllid bwrsariaeth fod ar gael i chi. Ewch i'r dudalen ariannu am ragor o wybodaeth.

 

 

Straeon cysylltiedig