Fy enw i yw Yassmine. Rydw i o gefndir Morocaidd. Cefais fy ngeni yn yr Eidal, ac yna symudon ni o gwmpas eithaf tipyn. Roeddwn yn byw yn Ffrainc am chwe blynedd, ac oherwydd cyfnewid rhwng fy mhrifysgol yn Ffrainc a Phrifysgol Caerdydd, symudais i’r DU. Dim ond blwyddyn roeddwn i fod i aros, ond roeddwn i'n ei hoffi. Felly dyna sut cyrhaeddais i Gaerdydd.

Hyfforddais fel cyfreithiwr, ond roedd gen i wastad ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiannau creadigol. Hyd yn oed pan oeddwn yn astudio'r gyfraith, penderfynais arbenigo mewn eiddo deallusol fel y gallwn weithio mewn materion artistig. Roedd yn ffordd wahanol o fynd i mewn i’r diwydiannau creadigol. Mae yna gyfraith ym mhopeth - waeth beth fo'r maes - tydi pobl ddim yn meddwl amdano fel hyn yn aml. Rwy’n credu ei fod yn ddiddorol bod pobl yn aml yn gwrthwynebu'r cysylltiad rhwng gwyddoniaeth, y gyfraith a'r diwydiannau creadigol. Ond maen nhw'n mynd law yn llaw yn amlach nag y byddech chi'n ei ddisgwyl.

Felly, gan fy mod yn gweithio ar eiddo deallusol, es i weithio yn adran materion busnes cyfreithiol Bad Wolf. Ac o'r fan honno fe wnes i symud i Painting Practice, yn gyntaf fel rheolwr stiwdio ac yna i rôl gwbl greadigol. Doedd gen i ddim math o wybodaeth am feddalwedd digidol na phrosesau 3D cyn gweithio yn Painting Practice – ond fe ddysgais. Er mwyn dysgu’r iaith a’r busnes roedd y newid o’r un adran i’r llall yn fuddiol iawn. 

Rwy'n cael gweithio ar brosiectau o'r dechrau i'r diwedd fel cynhyrchydd yn Painting Practice. Mae hynny’n cynnwys rheoli cyllidebau, creu tîm i wireddu anghenion y cleient a rhoi’r amserlen at ei gilydd. Gall hefyd fod yn fwy o rôl cynghori yn dweud ‘chi eisiau hyn: felly efallai y dylwn ei wneud fel hyn’. Ochr yn ochr â'r prosiectau hyn, rydym yn gwneud ymchwil a datblygu ac mae hynny'n hynod ddiddorol oherwydd yno rydym yn datblygu technoleg a meddalwedd newydd.

Yn ôl Yassmine, mae'r gymuned greadigol glos yng Nghymru yn helpu pawb i dyfu gyda'i gilydd.

Rydym wedi derbyn cyllid Clwstwr [LINK: to the spotlight on Clwstwr article in Welsh] ddwywaith yn Painting Practice. Diolch byth! Hebddo, ni fyddai wedi bod yn bosibl i ni wneud y gwaith ymchwil a datblygu hwn ar gyfer Plan V, sef y meddalwedd a ddatblygwyd gennym ni. 

Yn y pen draw, bydd Plan V Suite yn gasgliad o offer a meddalwedd sy'n cael eu creu i hwyluso a democrateiddio mynediad i gynyrchiadau rhithwir. Roeddem yn gallu creu'r meddalwedd gyda’r arian a gawsom. Cawsom gefnogaeth hefyd i deithio’r byd gydag ef – o Gymru i’r Iseldiroedd i Barcelona – i gwrdd â chwmnïau eraill a siarad am yr ymchwil a’r datblygiad yr ydym wedi bod yn ei wneud.

Efallai bod rhai pobl yn credu ei fod yn anfantais bod y diwydiant creadigol yng Nghymru ychydig yn llai. Ond mewn gwirionedd, dyma ei fantais fwyaf, ynte? Oherwydd dyna sy'n caniatáu iddo dyfu gyda phawb yn rhan o'r un rhwydwaith hwnnw, yn tyfu gyda'i gilydd. Mae gymaint o gefnogaeth yma. Dwi ddim wedi profi hynny yn unman arall.

Eisiau darganfod mwy am Painting Practice a'r gwaith maen nhw'n ei wneud? Ewch i'w gwefan.