Ymchwil a datblygu sydd wrth graidd ein diwydiannau creadigol – a Clwstwr yw ei ganolbwynt yn Ne Cymru. Mae’r rhaglen yn darparu cyllid allweddol ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu ar draws y wlad, gan hybu datblygiad prosiectau newydd, gwasanaethau a phrofiadau i’n sector sgrîn sy’n ffynnu. Mae'n rhaglen flaengar gyda nod uchelgeisiol: symud sector sgrîn Cymru o safle o gryfder i un o arweinyddiaeth.

Mae Clwstwr yn rhoi'r amser, gofod a chyllid i gwmnïau o Gymru wir ymwneud ag ymchwil a datblygu. Bydd hyn yn rhoi gwell chwarae teg i gwmnïau annibynnol, busnesau bach a chanolig, microfusnesau a gweithwyr llawrydd trwy greu llwyfan iddynt gystadlu â chwmnïau cyfryngau byd-eang sydd wedi eu hintegrediddio. Mae Clwstwr hefyd yn darparu cyngor arbenigol, gan drosglwyddo gwybodaeth a hyfforddiant gwerthfawr mewn meysydd sy’n cynnwys datblygu busnes a dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Rhwng 2019 a 2022, fe wnaeth Clwstwr gyllido 118 prosiect arloesi, wedi eu harwain gan gwmnïau ffilm a theledu, busnesau technoleg a sefydliadau creadigol. Mae’r gefnogaeth yma wedi eu galluogi i ymchwilio a datblygu syniadau newydd mewn prosiectau sydd wedi cael dylanwad positif yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol ar y sector a’r rhanbarth.

Fel sawl prosiect ar draws sectorau Cymru Greadigol, mae Clwstwr yn brosiect cydweithredol, sy’n rhan o raglen clystyrau diwydiannau creadigol y DU (Creative Industries Clusters Programme) sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol (Industrial Strategy Challenge Fund). Mae’r rhaglen yn cael ei darparu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (Arts and Humanities Research Council) ar ran Ymchwil ac Arloesedd y DU (UK Research and Innovation). Mae'n cynnwys diwydiant a'r byd academaidd - gyda Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru yn cydweithio arni.

Mae Clwstwr yn helpu dod â prosiectau arloesol yn fyw.

Yn Cymru Greadigol, rydym yn falch o fod yn gyllidwr allweddol i’r rhaglen, gan gefnogi ei nod o gystadlu busnesau Cymreig yn erbyn y goreuon yn rhyngwladol. Gan weithio’n agos gyda Clwstwr, rydym wedi gallu rhannu arbenigedd yn y diwydiant, gwneud ymgysylltiadau a chyflwyniadau, a chodi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth ymchwil a datblygu sydd ar gael gan eu cyflwyno i’r cynulleidfaoedd cywir.

Tra bod cynllun pum mlynedd Clwstwr yn dod i ben yn 2023, bydd y gwaith yn cael ei ddatblygu ymhellach gan media.cymru, rhaglen arolesi newydd sbon wedi ei chefnogi gan y Gronfa Cryfder mewn Lleoedd. Mae'r rhaglen fuddsoddi strategol hon yn dod â 23 o bartneriaid cynhyrchu cyfryngau, darlledu, technoleg, prifysgolion ac arweinyddiaeth leol ynghyd – gan gynnwys ni yma yn Cymru Greadigol – i ddatblygu canolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau.

Drwy media.cymru, bydd cynnydd yn cael ei wneud mewn meysydd fel cynhyrchu rhithwir, seilwaith digidol, cyflawni sero-net, a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Dyma'r cam diweddaraf ar ein taith i ddiwylliant o arloesi parhaus – lle mae ymchwil a datblygu bob amser wrth wraidd cynhyrchu.

Eisiau gwybod mwy? Dyma dri o lwyddiannau mwyaf Clwstwr:

  • Mae Clwstwr wedi buddsoddi mwy na £3 miliwn yn uniongyrchol i’r sectorau newyddion a sgrîn yng Nghymru ar gyfer ymchwil a datblygu ac i annog arloesedd, yn ogystal â datblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd
  • Mae Clwstwr wedi creu rhwydwaith gyda mwy na 1000 o sefydliadau o Gymru a thu hwnt. Mae hyn yn helpu i gysylltu cwmnïau, gweithwyr llawrydd, arbenigwyr a byd addysg
  • Drwy 200+ o ddigwyddiadau a gweithdai, mae Clwstwr wedi darparu arbenigedd, gwybodaeth newydd a chefnogaeth i’r sector sgrîn Gymreig - gan gyrraedd dros 1000 o aelodau’r sector mewn tair blynedd