Mae'r sector sgrin yng Nghymru yn stori o lwyddiant rhyngwladol, ac mae ein diwydiant ffilm a theledu wedi dangos twf trawiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rhwng 2020 a 2021, y sector sgrin oedd â'r cynnydd blynyddol uchaf mewn trosiant ar draws is-sectorau’r diwydiannau creadigol, gyda chynnydd o 36%. Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi doniau Cymru, gan hefyd ddenu cynyrchiadau mawr gan enwau mwyaf y byd. Yn ogystal â rhoi cymorth logistaidd ar gyfer darparu cynyrchiadau drwy ein gwasanaeth Sgrîn Cymru, gallwn hefyd ddarparu cymorth ariannol i ddenu cynyrchiadau i Gymru.
Mae Cymru Greadigol yn darparu cymorth ar gyfer unrhyw gynyrchiadau – bach neu fawr – sy'n dewis Cymru fel sail, o ofynion uniongyrchol neu dymor byr i ddiwallu anghenion strategol, tymor hwy presenoldeb mwy parhaol, ar raddfa fwy yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth am gymorth ariannol.
Mae arian ar gyfer ffilmiau nodwedd yn parhau i fod ar gael trwy ein partneriaeth gyda Ffilm Cymru.