Willow - The Future Awaits

Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn fawr ar gyfer rhyddhau cynyrchiadau teledu a ffilm a gafodd eu ffilmio yng Nghymru, o Havoc and The Light / Y Golau i The Almond and Seahorse. Ond dydyn ni ddim wedi gorffen eto. Mae'r mis Rhagfyr hwn yn gweld cymeriad cyfarwydd yn dychwelyd i Gymru: Willow.

Bydd ffans y ffilm glasurol o'r 1980au yn cofio hanes Willow Ufgood – stori am ffermwr ifanc (wedi'i chwarae gan Warwick Davies) yn cychwyn ar siwrnai beryglus i achub baban rhag brenhines ddrwg. Nawr mae cyfres deledu o'r ffilm wreiddiol, wedi'i hailddychmygu, ar gael ar Disney+. Fel y ffilm glasurol o'r 80au, mae'r fersiwn newydd – a gafodd gymorth gan Gymru Greadigol – wedi cael ei ffilmio yn bennaf yng Nghymru.

O oruchwylio'r sgript i bropiau, yr adran sain i'r swyddfa gynhyrchu – roedd hyfforddeion yn gallu ennill profiad gwerthfawr yn gweithio ar fersiwn newydd 2022, mewn amrediad o adrannau.

Fel y dywed Lynwen Brennan, Is-lywydd Gweithredol/Rheolwr Cyffredinol Lucasfilm, "Waeth beth sydd o ddiddordeb i chi, mae'n debyg bod lle i chi yn y diwydiant ffilm. Daliwch i gnocio ar y drws, oherwydd mae rhywbeth i chi ac mae rhywbeth ar gael yma yng Nghymru".

Felly, os oes gennych ddiddordeb yn y mathau gwahanol o rolau sydd ar gael yn niwydiant ffilm a theledu Cymru, mae nifer o swyddi dan hyfforddiant a swyddi criw yn cyfrannu at ail-wneud Willow.

Goruchwyliwr sgriptiau

Mae goruchwyliwr sgriptiau yn gweithio'n agos iawn gyda'r cyfarwyddwr a'r golygydd sgriptiau, yn ogystal â'r actorion eu hunain. Rhan fawr o'i rôl yw sicrhau cysondeb, am nad yw llawer o olygfeydd yn cael eu ffilmio yn y drefn gywir, ac yn aml mae wythnosau rhyngddyn nhw. Mae hyn yn golygu gwirio'r ddeialog, amseru golygfeydd a chadw cofnod o bob darn sy'n cael ei ffilmio yn ystod y dydd. 

Gweithredwr camera dan hyfforddiant

Mae gweithredwyr camera dan hyfforddiant yn rhan hanfodol o'r criw camerâu, ac yn gweithio'n agos gyda'r ail weithredwr camera cynorthwyol. Un o'u prif tasgau yw paratoi'r cyfarpar, yn ogystal â helpu gyda phrofi lensys. Gallai hyn, er enghraifft, olygu nodi lleoliad actorion yn ystod ymarferion. Yn dibynnu ar y math o gynhyrchiad rydych yn gweithio arno, mae'n bosibl y byddwn yn helpu gyda gwaith papur ac yn gwneud ambell baned, felly bydd angen bod yn fodlon gwneud bach o bopeth.

Gosodwr/gwneuthurwr propiau

Mae propiau yn rhan annatod o unrhyw gynhyrchiad, felly mae rôl gosodwr/gwneuthurwr propiau'n amhrisiadwy. Fel gosodwr/gwneuthurwr propiau, byddwch yn gwneud unrhyw newidiadau i'r propiau sydd eu angen, felly byddai'n ddefnyddio tasech chi'n gallu gwneud gwaith DIY, gwaith pren neu baentio i safon dda. Mae'n bosibl hefyd y byddwch yn trefnu cludo nwyddau wedi'u llogi neu gadw llygad ar y propiau a ddefnyddir ar y set.

Cynhyrchwr dan hyfforddiant

Mae cynhyrchwr dan hyfforddiant, neu redwr cynhyrchu, yn helpu i sicrhau bod y cynhyrchiad yn mynd yn ddidrafferth. Bydd yn helpu gyda gwaith papur fel taflenni manylion y dydd (call sheets), cymryd archebion bwyd a gwneud tasgau cyffredinol fel cofnodi data. Mae bod yn rhedwr yn ffordd dda o ennill profiad o ar gynhyrchiad. Felly, os ydych yn newydd i'r diwydiant dyma fan cychwyn da.

Gweithredwr Bŵm

Mae deiliad y swydd arbenigol hon yn rheoli'r fraich fŵm hir sydd â meicroffon ar ei phen. Ei brif gyfrifoldeb yw recordio'r holl sain o olygfa – ac mae hyn yn golygu bod môr agos at yr actorion ag y bo modd heb gael ei ddal ar ffilm. Ar gyfer y rôl hon bydd angen arnoch ddealltwriaeth dda o offer meicroffon a sain, yn ogystal â dealltwriaeth o olygu sain. Mae'n rôl gorfforol hefyd, sy'n gofyn am lawer o falans, ystwythder a chydsymudedd.

Gweithredwr camera

Mae gweithredwr camera yn gwneud yn union hynny – mae'n gweithredu'r camera ac yn ffilmio'r actio ar y set. Rhan fawr o'i rôl yw gwybod ba gamerâu i'w defnyddio ar gyfer golygfeydd gwahanol – ac mae hyn yn golygu dealltwriaeth o gyfansoddiad, fframio a symud. Mae hon yn rôl amrywiol ac mae'n gallu newid lawer yn dibynnu ar y math o gynhyrchiad rydych yn gweithio arno – un diwrnod gallech fod yn gweithredu Steadicam yn y mynyddoedd, a'r diwrnod wedyn U-Crane wedi'i osod ar do gar ar draeth yng Nghymru.

Cyfarwyddwr cynorthwyol o dan hyfforddiant

Mae cyfarwyddwr cynorthwyol o dan hyfforddiant yn union hynny – rhywun sydd am fod yn gyfarwyddwr cynorthwyol. Y cyfarwyddwr cynorthwyol yw prif gynorthwyydd y cyfarwyddwr ac mae'n gweithio'n agos gyda fe. Mae'n gwneud popeth o ddadansoddi'r sgript yn y cynhyrchu i helpu i reoli'r set yn ystod y ffilmio. Mae hefyd yn helpu i reoli gwaith ffilmio yn y maes ac mae'n teithio i leoliad i asesu a yw'n addas ar gyfer ffilmiau.

Mae rhagor o wybodaeth am weithio yn y sector sgrin yng Nghymru ar ein tudalen arbennig, Ffilmio yng Nghymru. Mae hefyd gwybodaeth am bob un o'r swyddi hyn, yn ogystal â sut i gael swydd yn y diwydiant, ar gael gan SgiliauSgrin Cymru neu Gynghrair Sgrin Cymru.

Straeon cysylltiedig