On the set of His Dark Materials at Wolf Studios

Mae His Dark Materials yn dod i ben – gyda’r drydedd gyfres, sef yr un olaf o drioleg ffantasi Philip Pulman yn cael ei darlledu ar nos Sul 18fed Rhagfyr gyda phob un ar gael i'w wylio ar BBC iPlayer ar yr un pryd.  

Bydd y gwylwyr yn gyfarwydd â hanes Lyra Belacqua – neu Silvertongue, fel mae hi'n cael ei hadnabod hefyd – a'i hanturiaethau drwy fydysawdau cyfochrog gyda'i ffrind, Will Parry. Ond faint sy'n gwybod am y rhan bwysig y gwnaeth Cymru ei chwarae yn y cynhyrchiad poblogaidd?

Cynhyrchwyd y gyfres yn Stwidios Wolf gan Bad Wolf a New Line Cinema ar gyfer BBC One (DU) a HBO (UDA), ac mae wedi cael cefnogaeth gennym ni yma yn Cymru Greadigol drwy gydol ei chwe blynedd o ffilmio. Yn y canllaw hwn, rydym yn edrych ar y criw, y cyfleusterau a'r lleoliadau yng Nghymru a wnaeth helpu i wneud y gyfres yn llwyddiant yn ystod y tri thymor.

Y lleoliadau

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae Cymru Greadigol wedi gweithio'n agos gyda thîm cynhyrchu His Dark Materials. Drwy ein Gwasanaeth Sgrîn Cymru, rydym wedi darparu cymorth logistaidd gyda'n cronfa ddata helaeth o leoliadau. Roedd hyn yn caniatáu inni weithio gydag awdurdodau lleol i helpu staff cynhyrchu i ddod o hyd i leoliadau allweddol dros Gymru.

Mae ein traethau, baeau a dyffrynnoedd hardd wedi darparu cefnlen perffaith i anturiaethau Lyra. Mae llawer o’r gwaith ffilmio wedi’i wneud mewn sawl lleoliad ledled Cymru o Fae hardd Dwn-rhefn ym Mro Morgannwg i Lyn y Fan Fach eiconig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r lleoliadau eraill yn cynnwys Coed Gwent yn Sir Fynwy a Gwaith Haearn Blaenafon yn Nhorfaen.

Mae Caerdydd hefyd wedi chwarae rhan amlwg, gyda golygfeydd wedi'u saethu ar draws ein prifddinas o swyddfeydd Llywodraeth Cymru i'r Deml Heddwch.

Yn ogystal â lleoliadau ar draws Cymru, cafodd llawer iawn o waith ffilmio ei wneud yn Wolf Studios Wales yng Nghaerdydd hefyd. Mae chwe llwyfan yn y stiwdio, a ddefnyddiwyd i ddod â byd ffantasi Philip Pullman yn fyw.

Y criw

Mae nifer o griwiau o Gymru wedi gweithio ar His Dark Materials dros y blynyddoedd. Yn y drydedd gyfres yn unig, roedd cyfanswm o 333 o aelodau o’r criw gyda 60% (neu 203, i fod yn fanwl gywir) o'r rheini yn weithwyr proffesiynol yng Nghymru.

Fel rhan o'n cytundeb cyllido, fe wnaethom sicrhau 10 lleoliad i hyfforddeion lefel uchel yng Nghymru. Cafodd y rhain eu trefnu drwy Screen Alliance Wales, gan amrywiol ddarparwyr hyfforddiant, gan gynnwys Coleg y Cymoedd a Phrifysgol De Cymru.

Roedd hynny'n golygu bod hyfforddeion yn dod o bob rhan o Dde Cymru, yn ogystal ag o amrywiaeth o ddisgyblaethau – megis hyfforddeion gwisgoedd a chynorthwywyr cynhyrchu.

His Dark Materials the crew

Y cyfleusterau

Yn olaf, gadewch i ni siarad am y cyfleusterau. O ran ffilmio yng Nghymru, mae gennym ni amrywiaeth o fusnesau wrth law i gefnogi cynyrchiadau o'r tu fewn a'r tu allan i'r diwydiannau creadigol.

I ddod â Dark Materials at ei gilydd, gweithiodd Bad Wolf yn agos gyda chwmnïau blaenllaw o bob rhan o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru, gan gynnwys Mad Dog Casting, Painting Practice Wales, Movietech Cymru a 4Wood.

Fe wnaethant hefyd chwilio am gymorth ac arbenigeddau cyflenwyr lleol ar draws y tair cyfres, o Dragon Taxis i Celtic Skips.

At ei gilydd, mae Cymru wedi chwarae rhan arweiniol yn y cynhyrchiad, a bydd hi'n drueni ffarwelio â'r gyfres lwyddiannus. Ond, fel maen nhw'n dweud, mae'n rhaid i bob peth da ddod i ben...  

His Dark Materials the facilities

Oes gennych chi ddiddordeb mewn clywed mwy am ffilmio yng Nghymru? Ewch i'n tudalen Ffilmio yng Nghymru.

Straeon cysylltiedig