Ers mwy na hanner canrif, mae'r National Film and Television School (NFTS) wedi helpu rhai o ddoniau creadigol gorau'r DU – ac yn 2021, daeth y traddodiad hwnnw o hyd i gartref newydd yng Nghymru. Lansiwyd NFTS Cymru Wales, sydd â'i gartref yng nghanolfan Sgwâr Canolog BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd, i greu llwybr clir i'r diwydiant sgrin ar gyfer egin ddoniau sy'n dod o Gymru ac sy'n byw yng Nghymru.
Ers hynny, mae NFTS Cymru Wales wedi parhau i dyfu, ac mae bellach yn cyflwyno cyrsiau byrion a chyrsiau tystysgrif o'r radd flaenaf sy'n cwmpasu popeth o ysgrifennu sgriptiau a chyfarwyddo i waith camera a thrawsnewid data.
Nid dim ond pobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant y mae'r ysgol yn eu hyfforddi – mae hefyd yn helpu'r rhai sy'n gobeithio cychwyn gyrfa ym maes ffilm a theledu, gan geisio llenwi'r bylchau sgiliau yn y sector cynhyrchu yng Nghymru sy'n tyfu'n gyflym. Yn ogystal â'i rôl allweddol yn cefnogi Siop Un Stop/One Stop Shop Clwstwr Sgiliau Cymru y BFI, dyma'r unig ddarparwr sy'n canolbwyntio ar gynnwys 'digidol yn gyntaf', gan weithio mewn partneriaeth â YouTube a'r BBC i wneud hyn. Ynghyd â chefnogi unigolion, mae'r ysgol hefyd yn cynnig sesiynau arbenigol i gwmnïau ar bynciau fel platfformau digidol.
Er mwyn cefnogi sefydlu'r ysgol yng Nghymru, fe wnaethom ddarparu cyllid cychwynnol i helpu i'w lansio. Rydym wedi parhau i ariannu'r ysgol byth ers hynny, ar y cyd â BBC Cymru Wales sy'n darparu safle iddi yn y Sgwâr Canolog. Rydym hefyd yn darparu cyllid bwrsariaeth i sicrhau bod yr hyfforddiant hynod safonol a gyflwynir gan yr ysgol ar gael i bawb, a bod traean o'r lleoedd hyfforddi ar gael am ddim.
Mae'r cyllid hwnnw wedi newid bywydau. Mae'r rhai sydd wedi derbyn bwrsariaeth, fel Charles Strider, a ddaeth i Gymru yn wynebu digartrefedd ac sydd wedi sôn am fyw gyda dyslecsia, wedi disgrifio'r cynllun fel rhywbeth a agorodd y drws i ddiwydiant a oedd yn teimlo y tu hwnt i'w gyrraedd ar un adeg.
Straeon fel hyn sy'n cynrychioli cenhadaeth NFTS Cymru Wales: sicrhau bod gyrfa mewn cynhyrchu ar gyfer y sgrin o fewn cyrraedd unrhyw un sydd â'r ddawn a'r penderfyniad i lwyddo, waeth beth yw ei gefndir neu ei sefyllfa ariannol.
Mae'r ymrwymiad hwn yn helpu i siapio dyfodol y diwydiant yng Nghymru drwy feithrin gweithlu mwy amrywiol a chynhwysol – gan gefnogi twf hirdymor y sector sgrin yng Nghymru ar hyd y ffordd.
Wrth i gyrsiau newydd a diwrnodau blasu agor drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys cyfleoedd fel hyfforddiant cydlynydd cynhyrchu, mae NFTS Cymru Wales yn parhau i groesawu'r genhedlaeth nesaf o storïwyr a chriw i'r diwydiant.
Ffeithiau a ffigurau allweddol o fwrsariaethau NFTS Cymru Wales:
- Nifer y cyrsiau a gyflwynwyd ers 2021: 269
- Nifer yn bresennol: 2,063
- Nifer y ceisiadau am fwrsariaeth: 157
- Wedi cyflwyno sesiynau wyneb yn wyneb mewn 12 ardal yng Nghymru, ochr yn ochr â sesiynau o bell ar-lein.
- Wedi creu partneriaethau gyda chwmnïau fel BBC Cymru Wales, S4C, BFI, 4Skills, BBC, Amazon Prime Video, ScreenSkills ac YouTube. Hefyd, gyda chwmnïau cynhyrchu lleol Gymraeg fel Cwmni Da, Yeti, Boom Cymru, Chwarel, Tinopolis, Afanti a Rondo; Sefydliadau Lleol (Culture Connect Cymru); Prifysgolion (Prifysgol De Cymru, Bangor, Aberystwyth, Caerdydd); a Cholegau (Caerdydd a'r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Gwent, Coleg Sir Benfro).
Mae NFTS Cymru Wales hefyd yn bartner cyflenwi allweddol i Clwstwr Sgiliau BFI Cymru, Siop Un Stop – One Stop Shop, a arweinir ac a ddarperir gan Sgil Cymru mewn partneriaeth â Cymru Greadigol a Chynghrair Sgrin Cymru.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn clywed mwy am y cwmnïau sy'n ganolog i ddiwydiannau creadigol Cymru? Ewch i'n hadran Dan Sylw i ddarllen rhagor o straeon.