Mae gan Gymru darged uchelgeisiol: sector sgrin di-garbon erbyn 2050. Nid yw hwn bellach yn nod pell; mae'n ymdrech gydgysylltiedig. Gan ddod â'r diwydiant, y byd academaidd a'r llywodraeth at ei gilydd, mae'r Screen New Deal: Cynllun Trawsnewid i Gymru yn treialu ffyrdd ymarferol o roi arferion cynaliadwy ar waith ar draws y sector, wedi'i lywio gan argymhellion ar draws pedair thema: adnoddau ynni a thanwydd , ailfeddwl am drafnidiaeth, diwydiant ffilm cylchol, a chreu a lledaenu gwybodaeth.
Wrth wraidd y gwaith hwnnw mae Media Cymru, rhaglen arloesi dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ac a gefnogir gennym ni yn Cymru Greadigol, a Ffilm Cymru Wales. Mae Greg Mothersdale o Media Cymru a Louise Dixey o Ffilm Cymru Wales yn esbonio sut mae cydweithio yn helpu i gyflwyno arferion cynaliadwy ar draws y sector.
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Media Cymru wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn cannoedd o brosiectau ymchwil a datblygu ledled Cymru, wedi'u llywio gan bedair elfen: teg, gwyrdd, byd-eang a thwf. Mae ei waith gwyrdd yn rhychwantu cynaliadwyedd ar y sgrin ac oddi ar y sgrin, gan fynd i'r afael ag effaith amgylcheddol y sector trwy fentrau wedi'u targedu.
‘Nid yw’n golygu twf ar bob cyfrif,’ meddai Greg. 'Rydym yn eirioli dros gyfryngau cynhwysol, cynaliadwy, nid twf sy'n niweidio pobl neu'r blaned.'
Mae Ffilm Cymru Wales yn rhannu'r uchelgais honno, gan ganolbwyntio ar sicrhau safle Cymru fel arweinydd o ran arferion gwyrdd cynaliadwy. 'Ein huchelgais yw i weithredu ar newid hinsawdd gael ei ymgorffori ar draws gwaith datblygu, cynhyrchu ac arddangos ffilmiau, gydag adrodd straeon hinsawdd yn cael ei gefnogi ochr yn ochr â lleihau carbon,’ meddai Louise.
Felly beth yw'r Screen New Deal: Cynllun Trawsnewid i Gymru?
Mae'r cynllun trawsnewid i Gymru yn adeiladu ar adroddiad Screen New Deal 2020 y BFI a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol, sy'n nodi gweledigaeth ar gyfer diwydiant ffilm a theledu cynaliadwy yn y DU. Yng Nghymru, mae'r weledigaeth honno wedi esblygu'n fap ymarferol sydd wedi'i gynllunio i droi ffilm a theledu yng Nghymru yn sector di-garbon a diwastraff erbyn 2050.
I Louise, gwelwyd yr effaith ar unwaith. ‘Mae'r cynllun wedi bod yn hanfodol wrth ysgogi ein sector sgrin i gydweithio ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd gyda'n gilydd,’ meddai.
Er ei fod wedi'i wreiddio yng Nghymru, mae'r fframwaith wedi'i lunio fel glasbrint ar gyfer gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. I wlad sydd â diwydiannau creadigol sy'n tyfu'n gyflym a thargedau cynaliadwyedd uchelgeisiol, mae'n arwydd o gyfle i arwain a chyfrifoldeb i gyflawni.
Pwy yw'r partneriaid allweddol?
Comisiynwyd yr ymchwil gan Gronfa Ymchwil ac Ystadegau y BFI a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol. BAFTA albert oedd yn arwain y prosiect, gydag Arup yn gwneud gwaith casglu a dadansoddi data, gan weithio ochr yn ochr â Ffilm Cymru Wales, Media Cymru a Cymru Greadigol.
‘Rydym yn parhau i gyfarfod bob chwarter gyda Cymru Greadigol, Ffilm Cymru Wales a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd sy'n cefnogi ein rhaglen,’ meddai Greg. 'Mae'r cysylltiadau hyn yn ei gwneud hi'n bosibl cyfnewid gwybodaeth ac arferion gorau, yng Nghymru a thu hwnt.’
Mae'r effaith yn weladwy ar draws ystod o brosiectau sy'n cefnogi blaenoriaethau'r cynllun:
- Cynllun y Cydlynydd Cynaliadwyedd: Wedi'i ddatblygu o gynyrchiadau fel Havoc, mae'n adeiladu sylfaen dalent trwy hyfforddiant cydlynydd cynaliadwyedd teledu a ffilm o'r radd flaenaf, gan arwain at leoliadau. ‘Mae'n enghraifft wych o gydweithio: Datblygodd Prifysgol De Cymru, Severn Screen ac Earth to Action yr hyfforddiant, yna ariannodd Cymru Greadigol y lleoliadau,’ eglura Greg – gan gefnogi newid mewn diwylliant o fewn y diwydiant.
- Propiau Rusty Design wedi'u diogelu at y dyfodol: Nawr ar restr cyflenwyr cynaliadwy BAFTA Albert, mae wedi ail-ddychmygu gwaith datblygu propiau – gan fynd i'r afael â blaenoriaeth y cynllun o ran lleihau gwastraff a defnydd cylchol o adnoddau. 'Maen nhw wedi gwneud popeth o flaen car Fformiwla Un i chwaraewr pêl-droed bwrdd mewn ffyrdd llawer mwy cynaliadwy,’ meddai Greg.
- Stiwdio Blaidd Cymru: Yn gartref i His Dark Materials ac Industry, mae timau wedi rhoi technolegau newydd ar waith i leihau dŵr yn sylweddol a'i ailgylchu – gan ddysgu gwersi y gellir eu rhannu â stiwdios mawr eraill ar hyd y ffordd.
- Menter Afango Afanti: Rhaglen pŵer cynhyrchu sero net sy'n pweru cynyrchiadau S4C yn llwyddiannus gan ddefnyddio generaduron hydrogen gwyrdd, batris uwch, mannau gwefru cerbydau trydan symudol a biodanwydd o ffynonellau cyfrifol – gan gefnogi blaenoriaeth y cynllun trawsnewid i ddileu diesel a newid i ynni glân.
- Pwyllgor Cymreig Urdd Cynhyrchu Prydain Fawr (PGGB) – Mewn partneriaeth â Media Cymru, Ffilm Cymru Wales a Cymru Greadigol i gynnal arddangosfa gynaliadwyedd yn Great Point Studios, sy'n cael ei bweru gan dyrbin gwynt. ‘Rhoddodd gyfle i'r diwydiant weld atebion cynaliadwy a chwrdd â rhai o'r cwmnïau rydyn ni wedi'u cefnogi,’ meddai Greg.
Ar lawr gwlad, mae Louise yn gweld y newidiadau â'i llygaid ei hunan. ‘Fel yr asiantaeth ar gyfer datblygu ffilm yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa berffaith i sbarduno cynaliadwyedd amgylcheddol ar draws y sector, o awduron sy'n plethu ymwybyddiaeth o'r hinsawdd yn eu straeon i reolwyr sinema sy'n lleihau gwastraff gyda chynwysyddion popcorn y gellir eu hailddefnyddio.'
Ychwanega, ‘Drwy ein cynllun ffilmiau byrion Beacons, rydym yn darparu hyfforddiant ar gynhyrchu cynaliadwy a chynnwys i bob tîm prosiect, a bydd ein prosiectau Cronfa Straeon Hinsawdd yn cael canllawiau gan gydlynydd cynaliadwyedd sydd wedi'i hyfforddi yng Nghymru i gyflawni blaenoriaethau'r Screen New Deal.’
Greg Mothersdale, Media CymruNid yw’n golygu twf ar bob cyfrif, rydym yn eirioli dros gyfryngau cynhwysol, cynaliadwy, nid twf sy'n niweidio pobl neu'r blaned.'
Pam mae'r Cynllun Trawsnewid yn bwysig i Gymru?
Enillodd Cymru'r cais i roi'r cynllun hwn ar waith oherwydd ei sector sgrin sy'n tyfu'n gyflym a'i hymrwymiad unigryw i gynaliadwyedd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, gan gynnig y cyfle i ddangos newid mesuradwy.
‘Cymru yw'r lle gorau i'w wneud. Mae'r cynllun wedi helpu i ddod â chydweithwyr a chamau gweithredu at ei gilydd, gan ein galluogi i ddangos ein hymrwymiad i ddatblygu sector cyfryngau cynaliadwy yng Nghymru,’ meddai Greg.
Ychwanega, ‘Mae cymorth Cymru Greadigol yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r sector cyfryngau sy'n tyfu i ddod yn fwy cynaliadwy, gan ddarparu'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni ein nodau’
Mae Louise yn tynnu sylw at yr effaith ymarferol ar gynyrchiadau, ‘Gyda chymorth gan sefydliadau fel ni, Cymru Greadigol, a Media Cymru, mae mwy o gynyrchiadau'n cael eu rhedeg ar ynni glân, yn defnyddio cerbydau trydan, ac yn cyflogi cydlynwyr cynaliadwyedd. Mae'r newidiadau hyn nid yn unig yn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol ond hefyd yn creu manteision parhaol i'r sector sgrin a chymunedau lleol yng Nghymru.’
Louise DixeyGyda chymorth gan sefydliadau fel ni, Cymru Greadigol, a Media Cymru, mae mwy o gynyrchiadau'n cael eu rhedeg ar ynni glân, yn defnyddio cerbydau trydan, ac yn cyflogi cydlynwyr cynaliadwyedd."
Cynghorion ar gyfer gweithredu mentrau cynaliadwyedd yn y sector sgrin
Mae cyngor Greg ar weithio'n fwy cynaliadwy yn syml: dechreuwch gyda hyfforddiant. ‘Gallwch ddefnyddio rhaglenni lleol ac mae BAFTA Albert hefyd yn cynnal hyfforddiant drwy gydol y flwyddyn,’ meddai.
Oddi yno, mae'n ymwneud ag adeiladu momentwm. Cadwch lygad ar y datblygiadau, cysylltwch â darparwyr lleol a thyfwch rwydwaith o atebion ymarferol, cynaliadwy i gryfhau eich effaith leol.
Mae gan Gymru'r sylfeini eisoes ar waith, o fiodreulwyr anaerobig ar gyfer gwastraff bwyd i dyrbinau gwynt sy'n pweru gwyliau a digwyddiadau mawr. Y dasg nawr yw integreiddio atebion i waith cynhyrchu bob dydd. Fel y dywed Greg, mae heriau yn bodoli ond gyda'n gilydd mae gennym y weledigaeth, yr arbenigedd a'r ymrwymiad i ddatblygu atebion sy'n cyflawni nodau'r cynllun.
Cymerwch gip ar ragor o erthyglau ar brosiectau ffilm a theledu gwyrdd [LINK to article] sy'n cefnogi uchelgeisiau sgrin gynaliadwy Cymru.