wind turbines on the Welsh hills

Ein hymrwymiad i ddiwydiant sgrin mwy cynaliadwy 

Rydym yn annog pob cynhyrchiad yng Nghymru i ymgorffori arferion cynaliadwy i leihau eu hôl troed carbon. 

Rydym yn falch o gefnogi Cynllun Trawsnewid Screen New Deal i Gymru, sy'n nodi camau clir i helpu'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru i ddod yn fwy cynaliadwy, gan anelu at allyriadau sero net a chynhyrchu diwastraff.

Cewch wybod mwy isod am Screen New Deal a'r partneriaid rydyn ni'n gweithio gyda nhw, gallwch hefyd ddod o hyd i awgrymiadau ymarferol ac enghreifftiau go iawn yn yr erthyglau isod.

Ein partneriaid 

  • BAFTA albert

    BAFTA albert yw prif gorff y diwydiant sgrin yn y DU sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol trwy helpu cynyrchiadau ffilm/teledu i fesur, lleihau a gwrthbwyso eu hôl troed carbon a mabwysiadu arferion di-garbon, diwastraff.

    Dysgwch fwy
  • Ffilm Cymru Wales

    Asiantaeth datblygu ffilmiau cenedlaethol Cymru yw Ffilm Cymru Wales sy'n ariannu a chefnogi gwneuthurwyr ffilmiau, cynulleidfaoedd a sinemâu ac sy'n integreiddio mwy o arferion gweithio "gwyrdd" a chynaliadwy ochr yn ochr â datblygiad creadigol.

    Dysgwch fwy
  • Media Cymru

    Mae Media Cymru yn Gonsortiwm wedi'i leoli yng Nghymru sy'n anelu at wneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hyb byd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau, gan gyflwyno elfennau o ymchwil a datblygu ac arferion cynaliadwy ar draws sector y cyfryngau. 

     

    Dysgwch fwy

Darllenwch am enghreifftiau go iawn yn ein herthyglau isod