Os ydych chi'n berchennog busnes cerddoriaeth, sy'n gweithredu yn y diwydiant cerddoriaeth fyw yng Nghymru, gallech wneud cais am hyd at £50,000, i helpu i wella'ch sefydliad neu eich gweithrediadau.
Mae'r Gronfa Gyfalaf Cerddoriaeth (MCF) yn cefnogi busnesau cerddoriaeth i wella eu rhagolygon masnachol, drwy alluogi’r gwaith o ddatblygu cyfalaf ar raddfa fawr na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall.
Mae'r gronfa yn rhan o raglen ehangach o gymorth yr ydym yn ei chynnig i'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, i helpu i dyfu'r sector a meithrin talent.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos mai eu prif swyddogaeth yw rhaglennu, recordio neu gael eu defnyddio ar gyfer ymarfer cerddoriaeth wreiddiol, cynnal a/neu hyrwyddo digwyddiadau cerddoriaeth fyw o natur fasnachol.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithredu yn y sector Cerddoriaeth yng Nghymru ac yn gallu dangos tystiolaeth bod y cais yn strategol bwysig ar gyfer lles hirdymor y lleoliad a'r diwydiant cerddoriaeth lleol.
I gael manylion llawn y gronfa a rhestr helaeth o brosiectau cymwys (ac anghymwys), darllenwch y nodiadau canllaw.
Caniateir gwneud cais ar gyfer prosiectau sy’n galw am isafswm grant o £25,000 ac uchafswm grant o hyd at £50,000.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen Canllawiau'r Gronfa yn y lle cyntaf, i ystyried a oes gennych brosiect cymwys.
Mae'r gronfa hon ar agor o ddydd Mawrth, 13 Mehefin 2023, a bydd yn cau i geisiadau ddydd Gwener 14 Gorffennaf 2023 am 12.00 hanner dydd. Ni dderbynnir ceisiadau hwyr.
Cyn i chi wneud cais, mae gennych yr opsiwn i drafod eich cynnig gydag un o Reolwyr Datblygu Sector Cymru Greadigol. Gall ein tîm roi cyngor mewn perthynas â chymhwysedd a, lle bo hynny'n briodol, roi arweiniad pellach ar eich cynnig.
Sylwer – ni fydd trafod eich prosiect ag aelod o'r tîm yn awgrymu bod eich cynnig wedi cael ei gymeradwyo na’i asesu. Cynllun cystadleuol yw hwn a chaiff pob prosiect ei asesu a'i sgorio ar sail meini prawf safonol.
I gael mwy o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen gais anfonwch e-bost at CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru