Mae'r diwydiant cerddoriaeth fyw yng Nghymru yn hanfodol i ddatblygiad cerddorion a chynulleidfaoedd ledled y wlad ac mae busnesau cerddoriaeth yn llwyfan bwysig lle gall talentau cerddorol ddatblygu a thyfu a chael eu meithrin arni. 

Mae rownd ddiweddaraf Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol yn cynnig grantiau rhwng £10,000 a £40,000 i fusnesau cerddoriaeth bach a chanolig yng Nghymru. Y nod yw i'r busnesau hyn nodi meysydd o fewn eu sefydliadau a'u gweithgarwch y mae angen buddsoddiad cyfalaf arnynt. Byddai ymgeiswyr llwyddiannus i'r gronfa wedyn yn rhoi'r cyllid tuag at wella a chynyddu rhagolygon masnachol a chynaliadwyedd eu busnesau eu hunain, gan fod o fudd i'r diwydiant cerddoriaeth ehangach yng Nghymru naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. 

Pwy all wneud cais?

Bydd angen i geisiadau gan fusnesau cerddoriaeth ddangos mai eu prif swyddogaeth yw rhaglennu, recordio neu gael eu defnyddio ar gyfer ymarfer cerddoriaeth wreiddiol a chynnal a/neu hyrwyddo digwyddiadau cerddoriaeth fyw o natur fasnachol. Gall y gerddoriaeth sy'n cael ei chynnal, ei recordio, ei hymarfer neu ei hyrwyddo gan y busnes gynrychioli’r sbectrwm llawn o fathau poblogaidd o gerddoriaeth gyfoes (electronig; hip-hop; indi ac amgen; metel a phync; pop; roc ac ati).

Mae croeso i unig fasnachwyr, partneriaethau a chwmnïau cyfyngedig wneud cais.

I wirio a ydych yn gymwys, darllenwch y meini prawf yn y canllawiau ymgeisio yma.

Gallwch hefyd drafod neu wirio eich cymhwysedd gyda'r tîm drwy anfon ebost at cymorthariannolcymrugreadigol@llyw.cymru.

Yr hyn na allwn ei gefnogi

Nid ydym yn gallu cynnig cyllid i fusnesau sy'n cynnal / hyrwyddo mathau o gerddoriaeth sy'n derbyn cymhorthdal yn bennaf, gan fod cymorth i'r gweithgarwch hwn ar gael mewn mannau eraill (e.e. drwy Gyngor Celfyddydau Cymru).

Ni allwn gefnogi ceisiadau ar gyfer y gronfa hon gan fandiau, rheolwyr, hyrwyddwyr neu asiantiaid unigol. Hefyd, dim ond y perchnogion sy'n gyfrifol am redeg y busnes fydd yn gymwys i wneud cais.

Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais, darllenwch y nodiadau canllaw. I ofyn am ffurflen gais, neu i siarad â'r tîm am eich cymhwysedd, anfonwch ebost at cymorthariannolcymrugreadigol@llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 26 Mehefin 2025 am canol dydd. Ni fydd unrhyw geisiadau hwyr yn cael eu hystyried.

Straeon cysylltiedig