Rydym yn noddi FDUK 2023 sy'n cael ei ddathlu yng Nghymru am y tro cyntaf yn CULTVR Lab, labordy celfyddydau ymdrochol cyntaf Ewrop.
Bydd FDUK 2023 yn ddathliad o dechnoleg dôm llawn a'r sector ymdrochol ehangach. Bydd yn cynnwys perfformiadau ymdrochol byw, gweithiau celf rhyngweithiol, ac yn rhoi cyfle i ymarferwyr ymdochol cenedlaethol a rhyngwladol rannu eu gwaith, eu sgiliau a'u profiad.