Skip to main content
Dewch draw i Dŷ Pawb yn Wrecsam ar 22ain Tachwedd o 6pm i gwrdd â thîm Cymru Greadigol ac aelodau o'n Bwrdd Anweithredol.

Amdano'r digwyddiad 

Bydd hwn yn gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr allweddol tîm Cymru Greadigol a'i aelodau anweithredol o'r bwrdd sy'n gweithio i gynrychioli anghenion y diwydiannau creadigol yng Nghymru, yn ogystal â chyfle i gwrdd â phobl greadigol eraill ledled Gogledd Cymru i rannu syniadau, heriau ac adeiladu rhwydweithiau.

Os hoffech ymuno â ni, anfonwch e-bost i gadarnhau at cymrugreadigol@llyw.cymru   ynghyd ag unrhyw ofynion hygyrchedd neu ddietegol, erbyn dydd Gwener 8fed Tachwedd. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi!

Lleoliad

53.04636, -2.990136