Yn Cymru Greadigol, rydyn ni am i'r sector sgrin fod mor gynaliadwy â phosibl. Drwy Screen New Deal:  Cynllun Trawsnewid i Gymru, rydyn ni'n ymuno â sefydliadau ledled y wlad i ymgorffori mentrau ymarferol sy'n cynnwys cefnogi Rhaglen Hyfforddi Cydlynwyr Cynaliadwyedd Media Cymru.

Un cwmni sy'n rhoi'r fenter hon ar waith yw Bad Wolf. Er ei fod yn fwyaf adnabyddus am gynhyrchu rhaglenni teledu o ansawdd uchel fel His Dark Materials a Dope Girls, mae'r cwmni hefyd yn cyflawni rôl flaenllaw wrth sicrhau bod y gwaith cynhyrchu y tu ôl i'r llen yn gynaliadwy.

I ddysgu mwy am ymrwymiad Bad Wolf i gynaliadwyedd, siaradon ni ag Emily Russell, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Bad Wolf, Jessica Gow, Cydlynydd Cynaliadwyedd Llawrydd, a Steve Smith, Ymgynghorydd Cynaliadwyedd Arweiniol yn Picture Zero.

His Dark Materials the crew
Grŵp o bobl yn ymgynnull yn y goedwig i ffilmio, gyda choed gwyrdd uchel a lloriau gwyrdd mwsoglyd.

Emily Russell, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Bad Wolf

Fel Cyfarwyddwr Cynhyrchu Bad Wolf, rwy'n goruchwylio pob cam o ddatblygu i'r cynhyrchiad terfynol. Rwy'n frwd dros gynaliadwyedd, a phan ymunais i â'r cwmni, gallwn i weld bod cynnydd gwirioneddol eisoes wedi cael ei wneud yn Wolf Studios. Ond roeddwn i'n teimlo gallen ni wneud mwy ar yr ochr gynhyrchu – sef gwella adrodd, tacluso, a meithrin brwdfrydedd.

Pan oedden ni'n datblygu sioe yn archwilio effaith pobl ar y blaned, roedd i'w weld yn gyfle da i gynyddu ein hymdrechion. I mi, roedd yn bwysig bod ein hymdrechion cynaliadwy wedi'u gwreiddio yn Ne Cymru – roedd angen strwythur a oedd yn gweithio'n lleol.

Edrychon ni ar gwmnïau cynaliadwyedd a dewis Picture Zero, a oedd wedi gweithio gyda ni ar sioe arall drwy'r BBC. Roedden nhw hefyd wedi gweithio gyda Media Cymru ac roedden ni'n gwybod am eu hyfforddeion cynaliadwyedd.

Daethon ni â chydlynydd cynaliadwyedd o dan hyfforddiant o'r enw Jess i weithio ochr yn ochr â ni a Picture Zero. O'r diwrnod cyntaf, dywedais i wrthi hi mai taith oedd y broses hon. Fyddwn ni ddim yn gallu ailwampio popeth ar unwaith, ond os ydyn ni'n buddsoddi ynddoch chi, gobeithio y byddwch chi'n buddsoddi ynddon ni. Ers hynny mae Jess wedi gweithio gyda ni ar ddau gynhyrchiad mawr, ac mae Picture Zero wedi ein cefnogi ar bedwar.

 

Oherwydd nad yw pob cynhyrchiad yn gallu fforddio swyddog cynaliadwyedd pwrpasol, rydyn ni wedi canolbwyntio ar adeiladu arferion parhaol – gan ddefnyddio'r hyn rydyn ni'n ei ddysgu i wneud newidiadau hirdymor. Rydyn ni bellach yn defnyddio cerbydau trydan neu HVO (olew llysiau wedi'i drin â hydrogen) lle bo hynny'n bosibl, ac rydyn ni'n rhoi ein setiau i ysgolion a cholegau lleol gyda chymorth Cynghrair Sgrin Cymru.

Un o'n llwyddiannau mwyaf yw storfa pren sy'n rhoi darnau sbâr i ysgolion a cholegau – lle mae cyllidebau ar gyfer deunyddiau'n dynn. Mae'r newidiadau hyn wedi helpu i fabwysiadu newid diwylliant. Mae adrannau bellach yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion gwyrdd, ac mae'r criw yn cael tynnu sylw'r tîm ehangach at eu gwaith da.

Mae cymorth gan Cymru Greadigol wedi bod yn hanfodol. Gyda chymorth pawb, rydyn ni wedi gwneud camau breision. Rydyn ni wedi bod wrthi ers 18 mis bellach, ac rydyn ni wir wedi ffeindio ein traed.

Dyma fy nghyngor i gwmnïau cynhyrchu eraill: dechreuwch yn fach. Fyddwch chi ddim yn newid y system yn eich mis cyntaf. Meddyliwch am gynaliadwyedd yn gynnar ac adeiladu oddi yno; anogwch deithio ar y trên, dewiswch gyflenwyr cynaliadwy a defnyddiwch llety eco-ymwybodol. Po fwyaf rydych chi'n gweithio gyda phartneriaid a chyflenwyr lleol, po gryfaf a mwyaf cynaliadwy fydd eich cynhyrchiad.

Mae cymorth gan Cymru Greadigol wedi bod yn hanfodol. Gyda chymorth pawb, rydyn ni wedi gwneud camau breision. Rydyn ni wedi bod wrthi ers 18 mis bellach, ac rydyn ni wir wedi ffeindio ein traed.'

Jessica Gow, Cydlynydd Cynaliadwyedd Llawrydd

Rwy'n gydlynydd cynaliadwyedd llawrydd ar gyfer HETV a ffilm yng Nghymru, gan helpu cynhyrchwyr i weithredu mentrau cynaliadwy ac adrodd am eu heffaith carbon. 

Yn ddiweddar, gweithiais i gyda Bad Wolf ar The War Between Land and the Sea ac Industry tymor 4. Ar draws y ddau gynhyrchiad, roedd ein nodau'n cynnwys lleihau gwastraff a'r ynni a ddefnyddir, datblygu cynlluniau pŵer a theithio, cydweithio â chyflenwyr lleol i leihau allyriadau'r gadwyn gyflenwi, cyflwyno arlwyo carbon isel, ac ennyn diddordeb cast a chriw drwy hyfforddiant a negeseuon am gynaliadwyedd.

Roedd y mentrau hyn yn effeithiol oherwydd eu bod wedi'u hymgorffori yn gynnar yn ystod y cyfnod cyn-gynhyrchu a'u cefnogi drwy gydweithredu ar draws pob adran. Roedd newyddlenni rheolaidd, memos, posteri, digwyddiadau a galwadau i weithredu yn helpu i addysgu ac ymgysylltu â thimau, wrth i olrhain data yn barhaus fesur yr effaith a'r cynnydd.

Yn gynnar yn fy rôl, ces i sioc wrth weld faint o bren defnyddiol a oedd yn cael ei daflu mewn sgip ar ôl adeiladau set. Trefnais i i'r darnau mwyaf defnyddiol gael eu hanfon i ysgolion a cholegau lleol, gan gynyddu cylchrediad, lleihau gwastraff a chreu manteision cymdeithasol. Erbyn y cynhyrchiad nesaf, dechreuodd sgyrsiau am y deunyddiau oedd ar gael yn y cyfnod cyn-gynhyrchu, gyda chynhwysydd wedi'i neilltuo i'w storio a cheisiadau am bren sbâr yn dod oddi wrth griw ac adrannau. 

Yn ystod fy hyfforddiant i fod yn gydlynydd cynaliadwyedd gyda Media Cymru, dysgais i fod cynllunio a chyllidebu ar gyfer cynaliadwyedd yn hanfodol. Mae modd gwneud hyn os ydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd,  a gellir bod yn fwy effeithiol os enillir diddordeb penaethiaid adran, cast a chriw. Mae cyfathrebu rheolaidd, adborth cadarnhaol a gwneud cynaliadwyedd yn rhan o’r broses gynefino’n helpu i ymgorffori newid yn effeithiol. 

Pan fydd y ffilmio wedi dechrau, mae'r ffocws wedyn ar sicrhau bod yr hyn y cytunwyd arno yn cael ei roi ar waith drwy gynnal gwelededd, monitro data a sicrhau bod negeseuon yn gadarnhaol.

Mae gweithio gyda Bad Wolf wedi bod yn gyfle anhygoel i'w helpu i ymgorffori ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio. Dros ddau gynhyrchiad, bu newid sylweddol mewn disgwyliadau, yn enwedig gyda chyflenwyr. Wrth i griwiau ddod yn fwy cyfarwydd â gweithio gyda cydlynydd cynaliadwyedd, mae'r bar o ran yr hyn y gellir ei gyflawni yn mynd yn uwch. 

Wrth i griwiau ddod yn fwy cyfarwydd â gweithio gyda cydlynydd cynaliadwyedd, mae'r bar o ran yr hyn y gellir ei gyflawni yn mynd yn uwch.'

Steve Smith, Ymgynghorydd Cynaliadwyedd Arweiniol yn Picture Zero

Ers 2011, rwyf wedi cefnogi BAFTA albert, gan hyfforddi pobl ym maes cynhyrchu cynaliadwy ochr yn ochr â fy ngwaith cyfarwyddo. Dysgodd y profiad hwnnw imi sut gall cynaliadwyedd a chreadigrwydd weithio law yn llaw.

Arwyddair Picture Zero yw ymarferoldeb. Rydyn ni'n cefnogi cynyrchiadau ar bob lefel – o gyngor hyd braich i dîm cynaliadwyedd llawn ar set – gan ganolbwyntio ar gamau gweithredu sy'n lleihau'r effaith mewn ffordd wirioneddol, yn hytrach na thicio bocsys yn unig.

Rydyn ni wedi gweithio gyda Bad Wolf ers dechrau 2024, ac mae wedi bod yn wych gweld yr arweinyddiaeth maen nhw wedi'i ddangos. Mae Bad Wolf a Wolf Studios Cymru bob amser wedi cymryd cynaliadwyedd o ddifri – ein rôl fu sicrhau strwythur, cysondeb a chanlyniadau mesuradwy.

Mae 100% o'r trydan mae Wolf Studios Wales yn ei ddefnyddio eisoes yn adnewyddadwy, ac ers 2024 mae pob uned yn defnyddio pŵer o'r prif gyflenwad. Dyw'r un cynhyrchiad Bad Wolf yn defnyddio diesel ar gyfer pŵer – maen nhw ei gyd yn defnyddio HVO, sef olew llysiau wedi'i drin â hydrogen, wedi'i wneud o olew coginio gwastraff. Mae hyn yn torri allyriadau carbon cylch oes dros 80% ac yn gwella ansawdd aer yn aruthrol. 

Rydyn ni wedi blaenoriaethu trenau, trydaneiddio'r fflyd, a newid y cerbydau sy'n weddill i HVO, gyda thanc HVO 10,000-litr yn Wolf Studios ar gyfer ail-lenwi â thanwydd adnewyddadwy. Mae'r camau hyn wedi arbed dros 720 tunnell o CO₂ ers dechrau 2024.

Mae ein holl waith yn cyd-fynd â Chynllun Trawsnewid i Gymru Screen New Deal BAFTA albert, yr helpais i i'w ysgrifennu, gan sicrhau bod cynnydd Bad Wolf yn cefnogi nodau sero-net ehangach Llywodraeth Cymru a Chymru Greadigol.

Ein cyngor i gwmnïau cynhyrchu eraill yw bod rhaid i gynaliadwyedd ddechrau ar y brig – arweinyddiaeth yw popeth. Peidiwch ag aros i fod yn berffaith – gweithredwch, asesu a  dysgu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gweithio gyda'ch criw a'ch cyflenwyr – mae cydweithio'n meithrin momentwm.

Pan fydd y criw yn gweld penderfyniadau cynaliadwy ar waith – ynghylch goleuo, gwisgoedd, arlwyo neu drafnidiaeth – mae pobl yn cofio ac yn rhannu'r wybodaeth honno. Dyna sut bydd y diwydiant yn datgarboneiddio: un cynhyrchiad ar y tro. Fel y dywed Dr Kris De Meyer yn UCL, 'mae gweithredu'n ysgogi cred', ac rydyn ni'n gweld hynny bob dydd. Ac yn olaf, nid yw cynaliadwyedd yn ymwneud â pherffeithrwydd; mae'n ymwneud â chynnydd.

 

Dysgwch sut mae cwmnïau eraill o Gymru yn gwneud gwahaniaeth. Archwiliwch brosiectau, dealltwriaeth ac ysbrydoliaeth ymarferol yn adran sectorau creadigol ein gwefan  

 

 

Different coloured bins to separate waste at a film and TV studio

Straeon cysylltiedig