Mae Technoleg Greadigol yn sector newydd cyffrous yng Nghymru. Ledled Cymru mae carfan o bobl greadigol sy'n newid y ffordd y mae pobl yn cysylltu, ymgysylltu a phrofi bywyd gan ddefnyddio technoleg ymgolli arloesol.

Wrth ddarganfod rhai o'r datblygiadau mwyaf cyffrous yn y sector, rydym wedi crynhoi pum prosiect sydd ar flaen y gad yn niwydiant Technoleg Greadigol Cymru – o gemau addysg plant i efelychiadau meddygol realistig.

Busnes gyda gweledigaeth eang

Mae M7Virtual wedi sefydlu eu hunain fel arbenigwyr Cymru mewn fideos rhith-realiti (VR) 360 symudol. Wedi'i leoli yn Sir y Fflint, mae'r cwmni'n cynhyrchu cynnwys ymgolli ar gyfer ymgyrchoedd hysbysebu, ymgysylltu â chynulleidfaoedd, a phrofiadau rhith-realiti.

Wrth ffilmio, mae M7Virtual yn defnyddio rigiau camerâu arbennig sy'n cael eu cydlynu i gynhyrchu panoramas llawn 360 gradd i wylwyr eu crwydro. Mae rhai saethiadau cymhleth yn gofyn am ddefnyddio dronau, ceir a reolir o bell neu systemau wedi'u rigio â cheblau – gall y busnes ddarparu hyn oll yn fewnol.

Yn ogystal, gall y tîm fanteisio ar brofiad mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys CGI 3D, gemau, sinematograffi ac ôl-gynhyrchu. Derbyniodd M7Virtual arian o'r Gronfa Datblygu Digidol, sy'n cefnogi'r cynnyrch a’r gwasanaethau technoleg newydd mwyaf addawol.

Dysgu trwy chwarae - reality estynedig wyddor Dr Seuss

Dwylo i fyny pwy sy'n gyfarwydd â llyfr poblogaidd Dr Seuss ar yr wyddor? Nawr, diolch i ap a ddatblygwyd gan Sugar Creative o Gaerdydd, gall plant ddod â'i gymeriadau'n fyw.

Mae Dr Seuss’s ABC – An Amazing AR Alphabet! yn defnyddio realiti estynedig i wneud Aunt Allie’s Alligator, Little Lola Lopp, Zizzer-Zazzer-Zuzz a'u ffrindiau neidio oddi ar y dudalen – yn llythrennol. Mae pob cymeriad o'r llyfr gwreiddiol wedi cael eu hanimeiddio'n ofalus mewn 3D, gan ymddangos ar y sgrin o amgylch y plentyn.

Wrth iddyn nhw chwarae, mae'r plant yn dysgu’r wyddor mewn ffordd ddiddorol a rhyngweithiol. Gall plant ifanc creadigol hyd yn oed ddylunio eu hanturiaethau eu hunain ym mydysawd hudolus Dr Seuss.

Cafodd yr ap ei ddatblygu gyda mewnbwn gan seicolegwyr addysg, a'i gefnogi gan y Gronfa Datblygu Digidol, ym mis Mawrth 2020 i gyd-fynd â phen-blwydd Dr Seuss. Mae Sugar Creative hefyd wedi elwa o gymryd rhan mewn teithiau masnach rhyngwladol dan arweiniad Llywodraeth Cymru.

Lansio sioe gêm gofod

Mae’r sioe gemau teledu newydd i bobl ifanc, Space Scavengers, yn defnyddio'r technolegau rhith-realiti diweddaraf yn y Gymraeg a'r Saesneg. Daw’r syniad gan Galactig, asiantaeth ddigidol ddwyieithog sy'n rhan o Rondo Media yng Nghaernarfon. Gyda chyllid wedi'i sicrhau gan S4C a Clwstwr, gyda chefnogaeth Cymru Greadigol, mae datblygiad y sioe yn mynd o nerth i nerth.

Dyma'r prosiect diweddaraf gan gwmni sydd â hanes o ddefnyddio realiti estynedig mewn ffyrdd arloesol. Cyn hynny, fe greodd Galactig yr ap ‘Tro’, a oedd yn caniatáu i gerddwyr ddarganfod treftadaeth Gymraeg y byd o’u hamgylch. Yna - gan ddychwelyd i thema’r sêr - datblygodd y gêm ofod VR retro Neon ar gyfer clustffonau Oculus Rift.

O ffantasi i realiti

Mae Good Gate Media wedi bod yn dennu sylw gyda'i ragflas a’i ddemo chwarae ar gyfer Deathtrap Dungeon: The Golden Room. Dyma'r ffilm ryngweithiol gyntaf i fod yn seiliedig ar lyfrau poblogaidd Fighting Fantasy, lle gall darllenwyr ddewis eu hantur eu hunain.

Drwy gymysgu effeithiau gweledol soffistigedig (VFX) a rendro cyfrifiadurol amser real, creodd datblygwyr gemau yng Nghaerdydd amgylchfyd llawn dychymyg o anturiaethwyr dewr ac angenfilod sy’n awchu am waed. Bydd y gêm lawn, a gyhoeddir ar y cyd â Wales Interactive yn cael ei ryddhau eleni ac ar gael i’w chwarae ar gyfrifiadur, Mac, Xbox a llwyfannau eraill.

Cafodd y cwmni gymorth gan Clwstwr a Cymru Greadigol ar wahanol adegau yn y prosiect i ddatblygu’r dechnoleg ar gyfer y gêm. Drwy adeiladu amgylchedd o fewn cyfrifiadur yn hytrach na defnyddio set ffisegol, gall Good Gate Media ostwng y costau cynhyrchu sy'n gysylltiedig â ffilmiau rhyngweithiol yn sylweddol.

Helpu i wella hyfforddiant meddygol

Mae hyfforddiant meddygol yn faes lle gall technoleg ymgolli gael ei ddefnyddio i’r eithaf. Mae Goggleminds, cwmni technoleg o Gaerdydd yn defnyddio efelychiadau rhith-realiti i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr i ddiweddaru eu sgiliau a dysgu rhai newydd.

Mae'r cwmni'n defnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddefnyddio'r ymchwil ddiweddaraf i gynllunio cynnwys hyfforddiant ar gyfer meddygaeth, nyrsio, deintyddiaeth, llawfeddygaeth a sectorau gofal iechyd eraill. Gall ail-greu sefyllfaoedd bywyd go iawn fel y gall dysgwyr ymarfer eu sgiliau gwaith mewn amgylchedd rhithwir sy'n realistig ac yn ddiogel, heb unrhyw risg i gleifion.

Nod Goggleminds yw gwneud dysgu'n hwyl gyda'i gemau a'i ryngweithiadau rhithwir, gan helpu i gynyddu ymgysylltiad a chadw gwybodaeth yn y tymor hir. Gan ddefnyddio efelychiadau aml-chwaraewr, gall helpu sefydliadau i rannu sgiliau ac arbenigedd ar draws gwahanol adrannau a lleoliadau.

Helpodd cyllid gan Clwstwr y cwmni i ddatblygu ei atebion hyfforddi, sydd wedi apelio i’r GIG a darparwyr gofal iechyd eraill.