Mae Fictioneers – y grym tu ôl i'r gêm AR hon – yn fenter ar y cyd rhwng tri chwmni creadigol: Potato (stiwdio datblygu cynnyrch digidol), Sugar Creative (stiwdio arloesi ymdrochol) a’r datblygwyr gemau Tiny Rebel Games. Mae'r triawd wedi dod at ei gilydd i greu cyfres o brofiadau adrodd straeon ymdrochol mewn dinasoedd ar draws y DU ac UDA.

Wedi'i gychwyn yn 2019, nod y cydweithio rhwng y storïwyr, dylunwyr, datblygwyr a chynhyrchwyr cyfryngau yma oedd archwilio profiadau trochi. Maent yn cyflawni eu nod trwy gyfres o apiau mewn partneriaeth â stiwdio animeiddio byd-enwog a chrewyr Wallace a Gromit, Aardman.

Y syniad gwreiddiol oedd creu stori ryngweithiol yn defnyddio symudiad yn gyntaf, a ddefnyddio cyfres o fideos, rhyngwynebau, AR a llais, o'r enw The Big Fix Up ym Mryste. Roedd yn caniatáu i ddefnyddwyr ddod yn rhan o fusnes Spick & Spanners Wallace a Gromit a chwblhau tasgau amrywiol o amgylch y ddinas. Ar ôl llwyddiant The Big Fix Up, rhyddhaodd y triawd ap newydd o'r enw Fix Up the City, gan gynnig profiad yn seiliedig ar leoliadau yng Nghaerdydd, Bryste a San Francisco.

Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Fictioneers ar Fix Up the City. Drwy ddarparu cyllid, roeddem yn gallu helpu i ddatblygu'r profiad unigryw ar gyfer Bae Caerdydd. Gwnaethom hefyd hwyluso mynediad i dimau cynllunio, a chynorthwyo gyda chysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo. Gyda'n cefnogaeth ni – yn ogystal â chefnogaeth Cyngor Dinas Caerdydd – llwyddodd y tîm i greu'r profiad AR rhyngweithiol pwrpasol llawn cyntaf mewn man cyhoeddus yn ardal Bae Caerdydd.

Close up shot of Wallace and Gromit in a van
Close up of hand showing a phone screen with Gromit from Wallace and Gromit against a blue background. Gromit is a white animated dog with a black nose and brown ears. He's standing with one leg up next to a blue AR version of himself.
Yn Fix Up the City mae'r deuawd enwog yn herio dinas Caerdydd drwy realiti estynedig.

Felly, beth oedd prosiect yn ei gynnwys? Er ei fod bellach ar gau, roedd modd i ddefnyddwyr lawrlwytho'r app naill ai o'r App Store neu Google Play am ddim. Ar ôl ei lawrlwytho, cawsoch eich tywys trwy'r stori hyd yn hyn. Eich gwaith chi oedd helpu’r dyn busnes Bernard Grubb i gael y ddinas yn barod ar gyfer ei ŵyl. Roedd gennych help cyfeillgar, BERYL. Eich tasg gyntaf oedd dod o hyd i Gromit, a oedd wedi mynd am dro.

Nid Wallace a Gromit yw’r unig enwau mawr yma, mae'r actorion Miriam Margolyes a Jim Carter hefyd yn darparu'r lleisiau ar gyfer cymeriadau o fewn yr ap.

Ond sut a pham y digwyddodd hyn i gyd? Roedd Fictioneers am ddod o hyd i ffordd newydd o adrodd straeon gwych ond gan ddefnyddio'r holl dechnoleg gyfoethog sydd ar gael i ni ar gyffyrddiad botwm (neu dap sgrin ffôn). Ar ôl ceisio a methu â dod o hyd i ddarn o dechnoleg a allai wneud hyn, fe wnaethant benderfynu i greu un eu hunain gan gynhyrchu rhaglen adrodd straeon gymhleth yn defnyddio amlgyfrwng a realiti cymysg.

Fe wnaeth y prosiect atgyfnerthu enw da Cymru fel rhanbarth blaenllaw ar gyfer arloesi. Defnyddiodd yr ap dechnoleg AR ochr yn ochr â galluoedd sganio LIDAR sydd newydd ddod i'r amlwg i greu profiad unigryw i ddefnyddwyr. Y nod oedd arddangos datblygiad profiadau rhyngweithiol AR ar raddfa dinas a darganfod ei lwyddiannau a'i gyfyngiadau, yn ogystal â'i botensial ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.

Roedd y prosiect yn llwyddiant. Roedd cyfuno talentau nifer o asiantaethau a stiwdios yn golygu dod â'r meddyliau (a'r dwylo) gorau at ei gilydd ym mhob un o'r gwahanol feysydd creadigol i gynhyrchu rhywbeth arloesol, cyffrous, ac na welwyd o'r blaen – gan roi Cymru ar flaen y gad o ran arloesi.

Eisiau gwybod mwy am y prosiect? Dyma dri o’i brif lwyddiannau:

  • Cyrhaeddiad cyfryngol o 10.6M, gan gynnwys hysbysebion oddi cartref (OOH), digidol a’r wasg
  • Roedd yn gallu arddangos amrywiaeth o asedau digidol mewn sioeau masnach a chynadleddau rhyngwladol fel SXSW yn Austin, Texas i ddangos y defnydd arloesol o dechnoleg
  • Mae pob un o’r cwmnïau dan sylw wedi creu cyfleoedd busnes newydd ac wedi tyfu eu timau – gan gynyddu cyflogaeth yn lleol