Wedi’i sefydlu yn 2008, mae Sugar Creative yn un o’r cwmnïau technoleg greadigol fwyaf blaenllaw yng Nghymru. Ond beth mae cwmni technoleg greadigol yn ei wneud? Yn syml iawn, mae’n creu profiadau ymgolli, yn cynnig ymgynghori creadigol ac yn darparu atebion technegol i gleientiaid gwahanol ledled y byd – gan gynnwys Aardman, BBC, Dr Seuss, Toyota ac Assassin’s Creed gan Ubisoft.

Mae gwaith Sugar Creative hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o sectorau, gyda phrosiectau’n amrywio o addysg i feddygaeth, cyfathrebu i effaith brand, diwylliant i adrodd straeon ac adloniant. Nod y cwmni yw rhoi platfform rhyngwladol i’r dalent helaeth a’r meddylfryd sy’n dod allan o Gymru, cynnig atebion blaengar ac arloesol i gleientiaid sy’n gwthio’r diwydiant yn ei flaen, a rhoi’r gallu i unigolion a’r sector ffynnu.

Mae’r cwmni’n falch o’i gysylltiadau Cymreig ac yn deall ei bwysigrwydd – gan osod Cymru ar blatfform gyda’r gwledydd mwyaf yn y byd o ran technoleg greadigol. Mae Sugar yn falch o feithrin perthynas â’r gymuned Gymraeg drwy greu cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi, cyfleoedd datblygu sgiliau a hyrwyddo amrywiaeth yn y sefydliad a’r sector.

Mae gan y cwmni bartneriaethau parhaus gyda sawl prifysgol yng Nghymru i gefnogi cyfleoedd mentora myfyrwyr a phrofiad gwaith ac i annog y genhedlaeth nesaf o leisiau a thalent greadigol yn y sector ymgolli.

Bwriad Sugar Creative yw gosod Cymru ar blatfform gyda’r gwledydd mwyaf yn y byd o ran technoleg greadigol.

Mae gan Sugar bartneriaeth gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar gyfer Arall hefyd, gan ddefnyddio technoleg XR i dad-drefedigaethu casgliad yr amgueddfa ac adrodd ei straeon ehangach. Mae hefyd yn rhan o dîm GALWAD, darn o waith sy’n torri tir newydd rel rhan o ŵyl Unboxed sy’n archwilio ein dyfodol dychmygol ledled Cymru.

Rydym wedi helpu Sugar i arddangos eu gwaith a datblygu partneriaethau mewn sawl cynhadledd ryngwladol gan gynnwys y Game Developers Conference (GDC) a Creativity World Forum. Rydym hefyd wedi helpu’r cwmni arobryn i sicrhau partneriaethau a chyllid i gyflawni eu gweledigaeth.

Beth sydd gan Sugar Creative ar y gweill? Dyma dri phrosiect i gadw llygad amdanynt:

  • Partneriaeth gydag Ubisoft a Hampshire Cultural Trust ar gyfer profiad ymgolli, ledled y ddinas yn seiliedig ar fyd Assassin’s Creed
  • Lansio Prosiect V - peiriant adrodd straeon VR gyda chapsiynau gweledol BSL arloesol – prosiect a gefnogir gan Lywodraeth Cymru
  • Cyfres o sgyrsiau yn Augmented World Expo (AWE) 2022 a rhaglenni mentora ledled y byd, i gyd wedi’u hanelu at helpu unigolion a’r sector