Fy enw yw Robyn ac rwy’n gynhyrchydd a rheolwr marchnata yn Bomper Studio, stiwdio cynhyrchu greadigol annibynnol wedi’i lleoli yng Nghaerffili – gyferbyn â’r castell, sy’n olygfa braf o’r swyddfa. Rwy’n dod o Goed Duon yn wreiddiol ond astudiais farchnata yn y brifysgol ym Mryste cyn mynd i weithio i stiwdio stop-motion yng Nghaint. Roeddwn wastad eisiau symud yn ôl i Gymru i fyw a gweithio.

Fy swydd yw goruchwylio cynhyrchu a gweithio'n agos gyda'r timau creadigol i sicrhau bod gan bawb yr hyn maent ei angen a bod pob prosiect y gorau allai fod. Rhan o fy swydd yw darganfod cyfleoedd newydd a chynnal perthynas gyda chleientiaid, partneriaid, cyflenwyr a gweithwyr llawrydd. Gan ei fod yn stiwdio fach, yn aml mae'n rhaid gwneud sawl rôl, felly fi yw'r rheolwr marchnata hefyd, yn datblygu'r strategaeth farchnata ac yn goruchwylio brand y stiwdio.

Rydym yn creu gwaith gwreiddiol sy'n llawn cymeriad ar gyfer darlledu, brandio, hysbysebu a fideos cerddoriaeth yn Bomper. Rydym yn gweithio'n bennaf ym maes animeiddio CG ac yn gwneud ychydig o waith VFX mewn 2D. Syniadau sy’n gyrru’r stiwdio, yn hytrach na steil arbennig - sy’n gwneud y stiwdio ychydig yn wahanol. Mae'r agwedd yma yn ein gwneud yn fwy rhydd - mae'n ein galluogi i ddarganfod gwahanol fath o gynnwys. Mae ein diwylliant yn seiliedig ar y chwilfrydedd cynhenid ​​hwn.

Mae 11 ohonom yn gweithio llawn amser ond gyda gweithwyr llawrydd, yn aml rydym yn dîm o tua 30 o bobl. Fel arfer mae gennym un neu ddau o gynyrchiadau mawr ac yna rhai llai. Rydym yn gwneud llawer o waith hysbysebu ar gyfer brandiau fel Mitsubishi a Levi's ac rydym wedi gweithio ar ambell gyfres i BBC Bitesize. Rydym wedi gwneud fideos cerddoriaeth yn ddiweddar, gan gynnwys dau gyda'r Foo Fighters.

Mae Robyn yn gyfrifol am gynhyrchu gwaith yn Bomper Studios yng Nghaerdydd, ac yn gwneud yn siŵr bod bob prosiect y gorau y gallant fod. 

Rwy’n aml yn pinsio fy hun bod gen i fy swydd ddelfrydol a’i bod yng Nghymru. Mae pobl wir wedi dechrau edrych tuag at sector creadigol Cymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn yn gallu cael swydd yng Nghymru gan fod y diwydiant creadigol i’w weld yn sownd mewn swigen yn Llundain, er bod arbrofi a dyfeisgarwch bob amser wedi bod yn asgwrn cefn i’r sector y tu allan i Lundain. Dwi wrth fy modd gyda’r ffaith mod i’n gallu bod ar alwad gyda Sony yn Efrog Newydd ac wedyn am bump o’r gloch dwi’n cerdded i fyny’r mynydd ger fy nhŷ gyda fy nghi.

Rydym wedi cael llawer o gefnogaeth gan Cymru Greadigol. Aethon ar daith fasnach i San Francisco ychydig yn ôl ac maen nhw bob amser yn ein gwahodd i ddigwyddiadau, arddangosiadau a chynadleddau. Mae ganddyn nhw hefyd gymaint o gyfleoedd ariannu gwahanol ac maen nhw’n cynnig cymorth mor dda. Os oes gennych gwestiwn, p'un a yw'n farchnad newydd, am fuddsoddi, neu i gysylltu â stiwdio arall, maen nhw bob amser wedi ein helpu ni. Mae’r cymorth a chyngor wedi ein galluogi i dyfu. Mae wedi bod yn anhygoel gweld esblygiad Bomper ers i mi ymuno yn 2018.

Rydyn ni'n gweithio ar lawer o brosiectau cyfrinachol ar hyn o bryd, gan gynnwys un gyda chwmni gemau mawr, sydd i'w gyhoeddi'n fuan. Gyda thîm hynod dalentog gydag ystod amrywiol o ddiddordebau, rydym bob amser yn chwilio am her ac yn annog chwilfrydedd. Nid oes unrhyw ddiwrnod gwaith yr un peth yn Bomper ac rwy'n gyffrous iawn am yr hyn y byddwn yn gweithio arno ac yn ei gyflawni yn y dyfodol.

I glywed mwy am Bomper Studio a rhai o'r prosiectau maen nhw wedi gweithio arnyn nhw, ewch i'w gwefan: https://bomperstudio.com/work