Mae gan Gymru orffennol cyfoethog a dyfodol cyffrous ym myd animeiddio. Mae cymeriadau fel SuperTed, Beryl a Sam Tân yn gosod talent Cymru ar lwyfannau rhyngwladol. Heddiw, mae cenhedlaeth newydd o arwyr wedi'u hanimeiddio, o Siôn y Chef i Dai Potsh.

Gadewch i ni eich cyflwyno i dri o gynyrchiadau gorau ein sin animeiddio llwyddiannus a darganfod mwy am y cwmnïau Cymreig tu ôl i'r gwaith.

Beryl yn cael ei henwebu am Oscar

Dyma Beryl: gweithiwr ffatri bumdeg naw oed, a gwir eicon Cymreig. Wedi bod ar y sin animeiddio ers 1984, mae Beryl wedi chwarae rhan arwres mewn pedair ffilm wedi eu hanimeiddio, ac wedi derbyn sawl gwobr. Cafodd y ffilm ddiweddaraf, Affairs of the Art ei enwebu am BAFTA ac un o wobrau’r Academy Awards. Enillodd wobr y Writers Award yn y British Animation Awards 2022, yn ogystal - un arall i’r rhestr faith o’r hyn y mae’r stiwdio animeiddio Beryl Productions wedi ei gyflawni.

Mae’r cwmni - sydd wedi ei leoli yng nghanolfan gelfyddydol Chapter yng Nghaerdydd -  yn cael ei redeg gan Joanna Quinn a’i phartner, cynhyrchydd, ac awdur Les Mills. Mae Beryl Productions yn arbenigo mewn dulliau animeiddio traddodiadol wedi eu llunio â llaw, a’u cyflwyno mewn oes ddigidol.

Ar ei hantur ddiweddaraf, mae Beryl yn dilyn ei breuddwyd i ddod yn arlunydd. Ond, mae ymroddiad Beryl tuag at gyflawni ei breuddwyd yn gadael ei ôl ar ei pherthynas ag annwyliad - yn enwedig gyda’i gŵr, Ivor. Wrth wylio Affairs of the Art a dod i adnabod Colin, mab galluog a thechnegol Beryl, a'i chwaer Beverly - tacsidermydd amatur â meddwl mawr ohoni ei hun - fe welwch fod ymddygiad obsesiynol yn rhedeg yn ddwfn yn y teulu.

Gwylio: Beryl Productions – Affairs of the Art

Foo Fighters yn dewis fideo Bomper

Nesaf, Bomper Studio a’u cydweithrediad hefo’r sêr byd enwog, y Foo Fighters. O'u pencadlys yn edrych dros Gastell Caerffili, mae Bomper yn creu gwaith gyda chymeriad – o animeiddio 2D a VFX â llaw, i graffeg gyfrifiadurol fyw a chymhleth. Mae eu gwaith i weld ym mhobman. Maent wedi cynhyrchu ffilmiau hysbysebu ar gyfer Glenfiddich, Levi's a Mitsubishi, pecynnu ar gyfer Tesco a dilyniannau teitl ar gyfer rhaglenni teledu gan gynnwys Ready Steady Cook.

Yn fwy diweddar, fe wnaeth y stiwdio annibynnol greu dau fideo proffil uchel ar gyfer y band roc o America, Foo Fighters. Mae’r band wedi gwerthu mwy na 30 miliwn o albymau yn fyd eang, ac fe wnaethon nhw ddewis Bomper i greu clip promo ar gyfer eu cân No Son of Mine, yn 2021.

Enillodd y fideo ganmoliaeth fawr am ei olwg tywyll, garw, ar thema nofel graffeg. Yn dilyn ei lwyddiant, gofynnodd Foo Fighters i Bomper greu ail fideo ar gyfer eu trac seiciadelig Chasing Birds. Ond, y tro yma, penderfynodd y stiwdio ddewis steil cartŵn lliwgar y 1960au ar gyfer y fideo.

Mae Bomper ar flaen y gad pan mae hi’n dod i ymchwil a datblygu yng Nghymru. Cawsant eu ariannu gan Clwstwr i ddatblygu prototeip ar gyfer ffurfweddwr amser real. Mae'r prosiect arloesol hwn yn caniatáu i gwsmeriaid bersonoli cynnyrch ar wefan i'w hunion fanyleb, a gweld y canlyniad ar unwaith ar ffurf delweddau 360°.

Gwylio: Bomper Studio – Foo Fighters, No Son of Mine

Byd Rwtsh Dai Potsh yn llwyddiant byd-eang

Yn olaf, dyma Dave Spud. Ar yr olwg gyntaf, mae’n syniad ddigon od ar gyfer cartŵn - bachgen ysgol arferol yn byw mewn bloc tŵr hefo’i deulu anlwcus, a seren fôr o’r enw Gareth, sydd hefyd yn gallu siarad! Ond mae The Rubbish World of Dave Spud ymhell o fod yn ddiflas, ac mae plant wrth eu bodd hefo’i anturiaethau amrywiol. Mae wedi ennill parch a chanmoliaeth mawr gan oedolion yn y diwydiant hefyd.

Er bod y cartŵn wedi ei leoli yn Grimsby, mae dylanwad Cymreig cryf arno. Mae’r sgiliau animeiddio, dylunio ychwanegol, rigio, a gosodiad i gyd yn cael eu darparu gan stiwdio Cloth Cat Animation yng Nghaerdydd. Mae’r prosiect hefyd wedi derbyn arian cynhyrchu o Gronfa Dyfodol yr Economi, Llywodraeth Cymru.

Mae’r cast llais yn drawiadol hefyd, gan gynnwys enwau mawr o blith talent actio Prydain fel Philip Glenister, Arthur Smith a Jane Horrocks. Mae Dave ei hun yn cael ei leisio gan y comedïwr Johnny Vegas, a'r trac sain bywiog gan y ddeuawd cerddoriaeth electronig, Basement Jaxx, sydd wedi ennill Gwobr Brit. Cafodd y cartŵn llwyddiannus ei enwebu am dair gwobr yng Ngwobrau Animeiddio Prydain 2022, a gynhaliwyd yn Llundain a’i ffrydio’n fyw i gynulleidfa yng Nghaerdydd.

Mae dwy gyfres o’r animeiddiad 2D wedi eu cynhyrchu ar gyfer CITV gan Illuminated Films, gyda fersiwn Gymraeg, Byd Rwtsh Dai Potsh, yn cael ei ddarlledu ar S4C.

Mae’r gyfres wedi ei gwerthu i Awstralia hefyd gan ennill gwylwyr ar ABC Television, yn ogystal ag yn Seland Newydd. Mae fersiynau wedi eu creu mewn Basg a Swedeg hefyd (mae Dave neu Dai yn cael ei adnabod fel Pelle Päras yno) ac maent wrthi’n cynhyrchu fersiwn Gaeleg.

Gwylio: The Rubbish World of Dave Spud