Mae’r maes ôl-gynhyrchu yn rhan gyffrous a hollbwysig o’r diwydiant ffilm a theledu, a hwnnw’n cynnig amrywiaeth o swyddi, o gynhyrchwyr a golygyddion sain i artistiaid effeithiau gweledol. Efallai eich bod chi newydd adael y brifysgol, neu’n awyddus i feithrin eich sgiliau. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, mae digonedd o gyfleoedd yng Nghymru i fagu profiad ac i wneud argraff yn y diwydiant.
I gael rhywfaint o gyngor arbenigol, cawson ni sgwrs â Paul Hawke Williams, pennaeth hyfforddiant a datblygu yn Academi Gorilla. Mae’r academi yng Nghaerdydd yn rhan o’r Gorilla Group – cyfleuster ôl-gynhyrchu blaenllaw yng Nghymru – ac mae’n cynnig hyfforddiant ymarferol sy’n berthnasol i’r diwydiant ac sy’n defnyddio’r holl offer diweddaraf. Pobl sy’n flaenllaw yn y diwydiant sy’n creu’r cyrsiau. Mae ganddyn nhw flynyddoedd o brofiad ymarferol ac maen nhw wastad yn ymwybodol o’r safonau diweddaraf.

Gyda chymorth ein Cronfa Sgiliau Creadigol lansiodd Academi Gorilla brosiect Stepping Stones yn 2024 gyda’r nod o helpu gweithwyr creadigol i ddringo o swyddi cychwynnol (fel swyddi rhedwyr) i swyddi uwch (fel golygu).
Er enghraifft, nid yn unig roedd y cwrs i redwyr yn rhoi sylw i gyfrifoldebau’r swydd honno o ddydd i ddydd, ond roedd hefyd yn bwrw golwg ar ddisgwyliadau gyrfa, rhwydweithio, a rheoli ariannol. Yn 2025, lansiodd yr Academi gwrs ar Media Composer y cwrs cyntaf o’i fath lle mae’r cynnwys yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg.
Meddai Paul: ‘Rydyn ni’n gobeithio rhoi syniad mwy realistig i bobl greadigol o swyddi a beth mae angen iddyn nhw’i wneud i ddringo yn eu gyrfa, a hynny mewn ffordd broffesiynol a ffordd sy’n berthnasol i’r diwydiant.’
Darllenwch yn eich blaen i glywed cyngor Paul am sut i weithio yn y maes ôl-gynhyrchu yng Nghymru.
Dewch o hyd i’r hyfforddiant ôl-gynhyrchu iawn
Gall yr hyfforddiant iawn wneud byd o wahaniaeth. Felly, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi ôl-gynhyrchu Academi Gorilla, ewch i gael golwg ar raglenni eraill yng Nghymru a fydd yn meithrin eich sgiliau a’ch profiad, fel y rheini gan NFTS Cymru Wales, Screen Alliance Wales, ScreenSkills, a Sgil Cymru.
Dyma gyngor Paul pan fyddwch chi’n cychwyn arni: ‘Byddwch yn agored am y pethau rydych chi wedi’u gwneud, y pethau rydych chi wedi ceisio’u gwneud, a sut rydych chi wedi dangos eich bod chi’n frwd. Gwnewch gais am gyrsiau a chysylltwch â chyrff cyllido a fydd yn gallu rhoi cymorth i chi.’
Ewch ati i fagu profiad
Mae’n hollbwysig datblygu set sgiliau gadarn a chael rhywfaint o brofiad ar eich CV. Os bydd gennych chi radd neu beidio, bydd yn rhaid i chi gychwyn yn rhedwr a dringo’r ysgol wedyn. Ar ôl cael y swyddi uwch hynny, achubwch ar bob cyfle i ddysgu ac i greu cysylltiadau.
‘Mae camau proffesiynol penodol y dylech chi’u dilyn,’ meddai Paul. ‘Os na fyddwch chi wedi cymryd y camau sylfaenol ar y dechrau, fyddwch chi ddim yn deall rhai pethau. Yn y byd ôl-gynhyrchu ac ar y set ill dau, bydd rhedwyr yn gwneud yr un math o bethau – yn gwneud y paneidiau ac yn trefnu’r drafnidiaeth. Ond wrth wneud hynny, byddan nhw hefyd yn dod i gyswllt â’r golygydd, y cynhyrchydd neu’r cyfarwyddwr, sy’n gyfle i ofyn cwestiynau a chael cyngor.’
Datblygwch eich rhwydwaith
Nid creu cysylltiadau yn unig yw ystyr rhwydweithio – mae’n golygu cynnal y cysylltiadau hynny. Cadwch mewn cyswllt â phobl yn y diwydiant, tanysgrifiwch i gylchlythyron fel prosiect Stepping Stones i glywed am ddigwyddiadau rhwydweithio sydd ar y gweill, ac anfonwch eich CV diweddaraf at bobl, yn dangos y cynnydd rydych chi wedi’i wneud.
Yn ôl Paul: ‘Os byddwch chi’n anfon eich CV at bobl bob mis, mae mwy o siawns y cewch chi lwc, gan fod hynny’n dangos eich bod chi’n frwd. Dydy llawer o bobl ddim yn sylweddoli bod rhwydweithio’n bwysig, nid yn unig er mwyn cwrdd â phobl a allai’ch cyflogi chi, ond i gwrdd â phobl a fydd yn gallu’ch argymell chi.’
Hyd yn oed os na fyddwch chi’n dilyn cwrs yn Academi Gorilla, mae Paul yn dweud ei fod yn fwy na pharod i fynd â phobl ar daith o amgylch y stiwdio a chael sgwrs i’ch helpu i fapio llwybr eich gyrfa.
Hyfforddiant ôl-gynhyrchu’r dyfodol yn Academi Gorilla
Gan edrych tua’r dyfodol, mae Academi Gorilla wedi ymrwymo i barhau i gynnig hyfforddiant a chefnogi gweithwyr ôl-gynhyrchu proffesiynol a’r genhedlaeth nesaf o bobl ddawnus.
‘Mae’r cymorth gan Cymru Greadigol yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa berffaith i uwchsgilio pobl,’ meddai Paul. ‘Mae’n ein galluogi ni i roi sgiliau gwerthfawr i bobl, ac ymwneud â newydd-ddyfodiaid er mwyn gofalu bod ganddyn nhw syniad realistig o’r hyn y bydd pobl yn ei ddisgwyl ganddyn nhw yn y diwydiant.’
Ar lefel bersonol, mae Paul yn frwd dros ddangos y gwahanol fathau o swyddi sydd ar gael yn y diwydiant ôl-gynhyrchu. Mae’n awyddus i helpu pobl i weld posibiliadau gyrfa yn y diwydiant ffilm a theledu nad ydyn nhw o bosibl wedi’u hystyried. Mae hefyd am ddangos y llwybrau gyrfa realistig sydd ar gael i bobl o bob cefndir economaidd-gymdeithasol.
‘O stad gyngor rydw i’n dod,’ meddai, ‘ac fe weithiais i’n galed er mwyn dringo. Bydd pobl yn cael eu hysbrydoli gan yr hyn y byddan nhw’n ei weld, felly rydyn ni eisiau dangos beth sy’n bosibl.’
Ydych chi’n barod i gychwyn eich gyrfa yn y maes ôl-gynhyrchu? Ewch i wefan Academi Gorilla i weld y cyfleoedd hyfforddiant ymarferol sydd ar gael, a hynny dan adain arbenigwyr. Neu i gael rhagor o wybodaeth am weithio yn y sector ffilm a theledu yng Nghymru, ewch i’n tudalen sgiliau