Gyda chefnogaeth S4C, Ffilm Cymru a ni yn Cymru Greadigol, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i helpu cyfarwyddwyr benywaidd ac anneuaidd sy’n datblygu eu gyrfaoedd i gymryd y cam nesaf tuag at wneud ffilm nodwedd.
Rydym yn chwilio am straeon uchelgeisiol a nodedig a fydd yn cyfrannu at sinema Gymraeg, yn cyrraedd cynulleidfaoedd mewn gwyliau ffilm ac yn arddangos talent greadigol y timau y tu ôl i’r gwaith. Y bwriad yw y bydd y ffilmiau'n cael cyfnod cychwynnol ar gylchdaith gwyliau ffilm cyn cael eu darlledu neu eu dangos ar blatfformau S4C yn ddiweddarach.
Sut i ymgeisio
Mae'r gronfa hon yn cael ei gweinyddu drwy Ffilm Cymru. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i'w gwefan.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymhwysedd neu'r broses ymgeisio, cysylltwch â Gwenfair Hawkins, Swyddog Gweithredol Datblygu a Chynhyrchu: gwenfair@ffilmcymruwales.com
Dyddiad cau
Y dyddiad cau ar gyfer rhaglen Sinema Cymru eleni yw 12pm, dydd Llun 11 Ionawr 2027
I wneud cais, ewch i wefan Ffilm Cymru.