Hannah Thomas ydw i. Rwy’n gynhyrchydd ac yn bennaeth drama yn Severn Screen, ac rwy’n dod o Gaerdydd.
Yn Severn, rydyn ni’n cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu i gynulleidfaoedd rhyngwladol. Rwy’n gweithio’n agos gydag Ed Talfan, ein cyfarwyddwr creadigol, i ddatblygu prosiectau ac i geisio bwrw ymlaen i’w cynhyrchu nhw. Ar unrhyw adeg, byddwn ni’n gweithio ar tua 10 o brosiectau ffilm a 10 o brosiectau teledu. Mae fy ngwaith i’n golygu darganfod awduron newydd, gweithio gydag awduron sydd wedi ennill eu plwyf, darllen llyfrau, chwilio am straeon i’w haddasu, a rhoi’r angerdd angenrheidiol i brosiectau er mwyn iddyn nhw gael eu gwireddu.
Rwy’ hefyd yn cynhyrchu’r cyfresi a fydd yn cael eu comisiynu. Fi sy’n rheoli’r cynhyrchu, y gyllideb a’r sgriptiau, yn ogystal â’r castio, ochr yn ochr â’r cyfarwyddwr a’r tîm. Gan amlaf, bydd pennaeth drama’n canolbwyntio ar ddatblygu, ond rwy’n gyndyn o roi’r gorau i gynhyrchu, gan fy mod i’n pryderu y byddwn i’n colli’r cysylltiad agos hwnnw â’r prosiectau dan sylw.
Rwy’ wedi bod yn y diwydiant ers i mi fod yn 21 oed, ac rwy’ bellach yn 48. Dechreuais i fel rhedwr yn y BBC gan gael pob math o swyddi cynhyrchu a datblygu, gan geisio dysgu cymaint ag y gallwn i am deledu. Un o fy swyddi cynhyrchu cyntaf yn y BBC oedd ar Pobol y Cwm. Fel y bydd unrhyw un sydd wedi gweithio ar opera sebon yn gwybod, dyna’n sicr oedd plymio i’r pen dwfn!
Ar ôl dros ddegawd yn y BBC, ymunais â Ffilm Cymru fel pennaeth cynhyrchu a datblygu, lle dysgais i am y byd ffilm. Gweithiais yno am bedair blynedd, ac roeddwn i’n gynhyrchydd gweithredol ar 13 o ffilmiau nodwedd. Roedd y rhain i gyd wedi’u creu â doniau o Gymru ac yn gysylltiedig â Chymru. Dyna lle gwnes i gwrdd ag Ed. Fi oedd cynhyrchydd gweithredol ei ffilm nodwedd gyntaf e’, The Passing. Yn 2017, ymunais â Severn Screen, gan gynhyrchu tair cyfres o Craith / Hidden, Steel Town Murders, ac Ar y Ffin / Mudtown. Rwy’ hefyd wedi gweithio ar ein holl brosiectau eraill yn y cyfnod hwn.
Rwy’ wrth fy modd yn gweithio gydag awduron ac yn datblygu straeon. Wrth fynd â phrosiect o’r sgript i’r sgrin, mae’n rhaid gweithio gyda chynifer o adrannau ac arbenigwyr gwahanol, o’r tîm dylunio i’r tîm gwisgoedd i’r tîm lleoliadau i’r tîm camera. Rwy’n hoff iawn o’r cydweithio sy’n rhan o hynny. Un o’r heriau mwyaf yw bod hwn yn ddiwydiant cystadleuol, a gall hi fod yn anodd dod o hyd i arian ar gyfer prosiectau. Rydyn ni’n ffodus; mae gennyn ni lawer o bartneriaid rydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw, fel Cymru Greadigol. Ond allwch chi byth gymryd dim byd yn ganiataol ac mae’n rhaid i’r prosiectau fod yn ddigon da yn y pen draw.
Wrth greu tîm, mae’n golygu edrych ar sgiliau pobl, ond hefyd ar eu personoliaeth. Rwy’ eisiau i’r profiad ffilmio olygu cydweithio, gan roi boddhad creadigol, hyd yn oed yn ystod diwrnodau hir ac anodd. Pan fyddwch chi i gyd yn cyd-dynnu at yr un nod, rydych chi’n gwybod bod y tîm yn un da. Mae profiad hefyd yn bwysig. Dyna i chi Paul ‘Bach’ Davies, y rheolwr lleoliadau, er enghraifft. Mae’n siŵr ei fod e’n gwybod mwy na neb yn y byd erioed am Gymru. Paul fydd wastad un o’r bobl y byddwn ni’n troi ato pan fyddwn ni’n cynllunio prosiect, gan fod ganddo gymaint o wybodaeth. I bobl sy’n awyddus i fod yn rhan o dîm lleoliadau, dyna rai o’r swyddi mwyaf anodd yn y byd cynhyrchu. Mae sgiliau meddal, sgiliau diplomataidd, y gallu i drin pobl, a’r gallu i wneud i bobl leol deimlo’n gyfforddus pan fydd criwiau teledu o gwmpas yn sgiliau pwysig.
I bobl sy’n newydd i’r diwydiant, mae’r gallu i hwyluso a gwrando’n dda hefyd yn bwysig. Mae’n faes cystadleuol; mae ceisio cael lleoliadau drwy gyrff fel Screen Skills, neu gysylltu â chwmnïau cynhyrchu eich hun, yn gallu bod yn ddefnyddiol. Pan gewch chi’ch swydd gyntaf, ceisiwch wneud eich gorau glas a manteisio ar bob cyfle a gewch chi ar y set. Os mai rhedwr ydych chi, gofynnwch i wahanol adrannau sut maen nhw’n gweithio, a cheisiwch wneud eich hun yn gwbl anhepgor.
Yn y diwydiant yn ehangach, mae’n rhaid parhau i gefnogi cwmnïau cynhyrchu lleol yng Nghymru, yn ogystal â denu cynyrchiadau rhyngwladol mwy o faint. Mae Cymru Greadigol yn sicrhau cydbwysedd rhwng y ddau beth. Mae modd ffilmio yn unrhyw le, felly mae’n bwysig parhau i ddangos pam y dylai pobl ffilmio yng Nghymru. I mi, mae’n gyffrous creu dramâu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, gyda naws ddiwylliannol benodol sy’n gwerthu yn rhyngwladol. Mae’n ffordd o ddangos rhywfaint o’n diwylliant, ein gwlad, a’n hiaith i bobl.
Rwy’n gobeithio y bydd Severn, ynghyd â’r holl gwmnïau cynhyrchu eraill yng Nghymru, yn gallu parhau i greu dramâu o ansawdd da. Gobeithio y gallwn ni barhau i roi Cymru ar y map – nid yn unig fel cyrchfan ffilmio, ond hefyd fel gwlad sydd â straeon gwreiddiol gwych a syniadau creadigol trawiadol.
Bydd eleni’n flwyddyn fawr i Severn Screen; mae Ar y Ffin | Mudtown ynghyd â dwy ffilm nodwedd – Mr Burton a Havoc – yn cael eu rhyddhau. Y tu hwnt i hynny, byddwn ni’n parhau i wneud beth rydyn ni’n ei wneud yn dda, sef datblygu dramâu o safon, straeon cyffrous a chymeriadau difyr, a ninnau’n gwmni y mae pobl ym mwynhau gweithio gydag e’, gobeithio.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru? Mae rhagor o gyfweliadau â gweithwyr creadigol dawnus yn ein sector sgrin fan hyn .