Er mwyn rhoi hwb i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, rhaid i ni fod yn feiddgar. Dim ond trwy arloesi cyson y gallwn ddal i fyny â’r posibiliadau diwylliannol a thechnolegol ar draws ein sectorau creadigol. Dyma pam rydym yn annog ymchwil a datblygu yma yn Cymru Greadigol.

Ledled y wlad, mae yna brosiectau creadigol newydd a chyffrous yn dod i’r amlwg bob dydd – pob un yn adeiladu ar lwyddiant ac yn datblygu ein diwydiannau. Dyma bedwar o’r mentrau hynny, lle gallai ffordd newydd o feddwl greu effaith arbennig.

Strategaeth gyfryngau ar y cyd

Yn gyntaf, dyma media.cymru. Eu nod yw cyflymu twf sector y cyfryngau Cymreig. Wedi’u harwain gan Brifysgol Caerdydd, mae’n rhaglen fuddsoddi strategol enfawr sy’n cysylltu 24 o bartneriaid o’r diwydiannau creadigol, y byd academaidd, technoleg ac arweinyddiaeth leol. Mae gan y rhaglen uchelgeisiau mawr, gan addo ysgogi twf economaidd cynaliadwy, mynd i’r afael ag anghenion sgiliau, cefnogi’r busnesau mwyaf arloesol a chreu cannoedd o swyddi.

Mae gan y rhaglen £50miliwn, sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Cymru Greadigol, nod mawr hefyd – cyflawni gwerth ychwanegol o £236miliwn (gwerth ychwanegol gros) dros bum mlynedd.

Gyda chylch gwaith eang, bydd media.cymru yn datblygu cyfleoedd ym meysydd cynaliadwyedd, cynhyrchu dwyieithog, amrywiaeth a chynhwysiant, twristiaeth a thechnoleg. Bydd hefyd yn sefydlu seilwaith newydd, gan gynnwys stiwdio rithwir o’r radd flaenaf, a chynllun ymchwil a datblygu ledled Cymru i droi’r syniadau mwyaf arloesol yn gynnyrch a gwasanaethau gwerthadwy.

Datblygu cynhyrchu cynaliadwy

Wyddoch chi fod Cymru wedi ymrwymo i dyfu ein sector cynhyrchu ffilm a theledu mewn ffordd gynaliadwy?

Dyma’r Screen New Deal: Cynllun Trawsnewid - menter gyda nod o roi ystod eang o argymhellion amgylcheddol ar waith. Mae’n gam hanfodol ar y ffordd i ddyfodol di-garbon a  diwastraff yn y sector, ochr yn ochr â thargedau sero-net ehangach. Edrychodd adroddiad 2020 y Screen New Deal ar effaith carbon y diwydiant cynhyrchu gan ddrafftio glasbrint ar gyfer mynd i'r afael ag ef. Ym mis Chwefror 2022, dewisodd BFI a BAFTA Albert – prif gyrff cynaliadwyedd y diwydiant – Cymru fel rhan gyntaf y DU i weithredu ar yr argymhellion. Roedd hyn yn dilyn cais llwyddiannus gan Cymru Greadigol a phartneriaid y cynllun, Clwstwr a Ffilm Cymru Wales.

Bydd blwyddyn gyntaf y rhaglen yn canolbwyntio ar gasglu data; bydd hyn wedyn yn llywio datblygiad y cynllun dros y chwe mis nesaf. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu â diwydiannau sgrîn mewn rhannau eraill o’r DU, gan eu helpu yn eu hymdrechion eu hunain i gyflawni’r nodau amgylcheddol uchelgeisiol hyn.

Dyn gwyn yn gwisgo clustffon VR gyda'i ddwylo yn yr awyr.
Yr arbenigwr technoleg greadigol Rob Eagle yn ymarfer ar gyfer Moving Layers, prosiect a ariennir gan Clwstwr.

Rhoi’r ffans yn y ffram

Rydym yn falch o fod wedi cefnogi Clwstwr, menter a osododd arloesedd wrth wraidd cynhyrchu cyfryngau yng Nghymru. Mae eu cyllid wedi galluogi llawer o fusnesau yn niwydiannau creadigol Cymru i ddod â phrosiectau newydd a llawn dychymyg yn fyw.

Maent yn cynnwys Reel Reality, ap rhad ac am ddim a ddatblygwyd gan Edge21 Studio ar y cyd â Sugar Creative. Gan ddefnyddio dyfais symudol, gall defnyddwyr grwydro lleoliadau sydd wedi ymddangos yn rhai o gynyrchiadau ffilm a theledu mwyaf adnabyddus Cymru. Mae’r ap yn defnyddio Realiti Estynedig (AR) ac ystod o dechnolegau ymgolli i gysylltu cynulleidfaoedd â chynnwys mewn lleoliadau real. Mae rhywfaint o’r wybodaeth a delweddau ar gael o gartref, ond anogir y defnyddwyr i ddarganfod y lleoliadau eu hunain i ddatgloi cynnwys fideo unigryw a chreu set ffilm AR bersonol.

Meddalwedd mentrus

Does dim amheuaeth bod dylunio setiau ffilm yn broses drylwyr a chostus sy’n cymryd amser. Gyda chefnogaeth Clwstwr, mae stiwdio greadigol Painting Practice yng Nghaerdydd wedi datblygu Plan V – meddalwedd cyn-gynhyrchu pwerus sy’n defnyddio Rhith-Realiti (VR) i symleiddio’r broses.

Mae gan wneuthurwyr ffilm fynediad at ‘stiwdio rithwir’ gyda Plan V, lle gallant ddarganfod amgylchedd 3D o bell. Gallwch arbrofi gyda gwahanol lensys, camerâu, goleuadau ac opsiynau eraill, ac nid oes angen gwybodaeth arbenigol 3D i ddefnyddio’r rhaglen.

Mae meddalwedd Painting Practice hefyd yn cwtogi’r amser rhwng ysgrifennu sgriptiau ac adeiladu set, gan adael i ddefnyddwyr wneud newidiadau i’w dyluniad a gweld y newidiadau mewn amser real. Mae gan hyn y potensial i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd cynhyrchu. Ar ben hynny, mae’r pecyn cymorth ar gael yn rhad ac am ddim – gan ei wneud yn hygyrch i weithwyr llawrydd a myfyrwyr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol.