Mae 10 comisiwn ledled y DU ac mae pump o’r rhain yn dod i Gymru. Mae’r rhain i gyd yn gyfleoedd cyd-greu ar draws y sectorau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg, gan gynnwys cymunedau amrywiol, er mwyn gadael etifeddiaeth ddiwylliannol ac addysgol gyfoethog.

Mae Cymru Greadigol yn gyfrifol am sicrhau bod Collective Cymru yn cyflawni comisiwn Cymru GALWAD ym mis Medi a mis Hydref, a hefyd yn gyfrifol am gefnogi’r pedwar comisiwn arall sy’n dod i Gymru.

Ym mis Mawrth bu lansiad trawiadol y rhaglen UNBOXED yng Nghymru yng Nghaernarfon, gyda phrofiad cyflawn wythnos o hyd o’r enw  'Amdanom Ni' yn y castell ac ar y maes. Dyma ragor o wybodaeth am yr holl gomisiynau sy’n dod i Gymru eleni:

GALWAD: Stori o'n Dyfodol

Wedi'i gomisiynu gan Cymru Greadigol, mae GALWAD yn brofiad traws-gyfryngol sy'n cynnig darlun posibl o Gymru 30 mlynedd i'r dyfodol. Mae’n dod â doniau mwyaf beiddgar Cymru ym myd ffilm a theledu, technoleg greadigol a pherfformiadau byw ynghyd â dychymyg a thalentau cymunedau Cymreig, i greu math newydd o stori gyfredol sy’n aml-lwyfan ac amlieithog.

About Us

Mae About Us yn cyflwyno 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes y bydysawd, gan ddefnyddio tafluniadau, animeiddio, cerddoriaeth, barddoniaeth, celf a pherfformiadau byw arloesol gan drigolion a busnesau lleol. Ydych chi erioed wedi rhyfeddu wrth edrych ar awyr y nos ac wedi tybio sut yr ydych chi wedi’ch cysylltu â’r sêr? About Us yw’r sioe i chi.

Dreamachine

Wedi’i gyflwyno ym mhrifddinasoedd y DU, mae Dreamachine yn brofiad amlsynhwyraidd, cyflawn yng Nghaerdydd sy’n datgloi pŵer y meddwl dynol – a’r cyfan gyda’ch llygaid ar gau. Dyma raglen sy’n torri tir newydd gan dîm o feddylwyr blaenllaw ym meysydd pensaernïaeth, technoleg, cerddoriaeth, niwrowyddoniaeth, ac athroniaeth.

Green Space Dark Skies

Cofrestrwch i fod yn un o 20,000 o ‘Lwmenyddion’ sy’n creu gweithiau celf awyr agored mewn 20 o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol y DU, gan gynnwys Gwynedd, Gŵyr, Bannau Brycheiniog ac Ynys Môn, fel rhan o Green Space Dark Skies. Er mwyn gwarchod y tirweddau anhygoel hyn, bydd yr union leoliadau yn cael eu cadw’n gyfrinachol – dim ond y rhai sydd wedi cofrestru bydd yno ar y diwrnod.

StoryTrails

Mae StoryTrails yn defnyddio datblygiadau newydd mewn technoleg rhyngrwyd 3D, profiad realiti estynedig (AR) a rhith-realiti (VR) er mwyn datgelu hanesion cudd ar draws 15 o drefi a dinasoedd y DU. Daw i Gasnewydd ac Abertawe, gyda chefnogaeth y BBC, BFI a llyfrgelloedd cenedlaethol, a’i nod yw i ysbrydoli, casglu a churadu ein hanes.

Mae gweithgaredd UNBOXED yn cael ei gynnal ledled y DU tan fis Hydref, ac mae pob digwyddiad am ddim! I gael rhagor o wybodaeth ewch i unboxed2022.uk/cy