Skip to main content
Y cwmnïau o Gymru sy’n arloesi yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau 2023.

 

Y Gynhadledd Datblygwyr Gemau (GDC) yw'r cynulliad blynyddol mwyaf o ddatblygwyr gemau fideo proffesiynol yn y byd, ac rydym yn falch iawn o fod yn mynd i'r digwyddiad eleni.

Fel rhan o daith fasnach gyffrous gyda Masnach a Buddsoddi Cymru, byddwn yn GDC yn San Francisco rhwng 20 a 24 Mawrth 2023 ac rydym yn falch iawni fynd â dau ar bymtheg o gwmnïau gemau mwyaf a gorau Cymru gyda ni. Gallwch ddod o hyd inni ar stondin S248.

Cewch ddarganfod mwy am y cwmnïau gemau a'r cynhyrchion y byddant yn eu harddangos neu ganfod mwy am ein teithiau masnach i GDC yma.

 

Animated Technologies

Asiantaeth ddigidol a leolir yng ngogledd Cymru yw Animated Technologies sy'n adrodd straeon ac yn amlwg am eu creadigrwydd. Mae eu timau medrus yn creu animeiddiadau gafaelgar a realiti rhithwir (VR) rhyngweithiol a realiti estynedig (AR) i helpu busnesau i dyfu. P'un a yw busnes yn chwilio am animeiddiad effeithiol i esbonio ei gynnyrch, profiad hyfforddiant VR trochol, neu ap i arwain pobl o amgylch tref hanesyddol, mae gan Animated Technologies y sgiliau a'r galluoedd i helpu cwmnïau i gyflawni eu nodau.

 

Goldborough Studios

Mae Goldborough Studio yn ddatblygwr gemau annibynnol sy'n defnyddio gemau a chynnwys sy'n cael eu harwain gan gymeriadau gan ddefnyddio pensiliau, picselau, gwybodaeth ac, yn eu geiriau hwy, ychydig o hud a lledrith. Wedi'i leoli yng Ngorllewin Cymru, mae'r stiwdio wedi gweithio ar ddatblygiadau gweledol, dylunio cymeriadau a chynnwys ar gyfer 11 gêm, pedair ffilm nodwedd a dau animeiddiad ers ei sefydlu 11 mlynedd yn ôl. Yn 2023, bydd Goldborough yn rhyddhau ei deitl mewnol cyntaf o'r enw Yami – gêm gyfrifiadurol a chonsol y genhedlaeth nesaf. Maent hefyd yn datblygu IP newydd ar hyn o bryd.

Space Colony Studios 

Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, mae Space Colony Studios yn gasgliad o artistiaid, awduron a datblygwyr annibynnol sy'n cydweithio i greu'r casgliad o gemau Stories from Sol. Cafodd y gyfres aml-ran, sy'n canolbwyntio ar naratif, ei chreu i fynegi cariad Space Colony Studios at ffuglen wyddonol retro a straeon rhyngweithiol. Bydd y teitl cyntaf yn y gyfres hon, o'r enw Stories from Sol allan ar ddiwedd 2023.

An animated green shot from the Stories from Sol game
Mae Stories from Sol yn gasgliad newydd o gemau gan Space Colony Studios.
Bird in Sky

Sefydlwyd y cwmni gemau o Ogledd Cymru, Bird in Sky, gan y ddau ddatblygwr Matt a Mic. Dechreuodd y ddau wneud gemau gyda'i gilydd ar ddiwedd y 90au, ond cymerodd 17 mlynedd cyn i'w llafur cariad, 3030 Deathwar gael ei ryddhau ar Steam. Mae'r anturiaethau gofod o'r awyr wedi ennill cefnogwyr o bob cwr o'r byd. Nawr, mae Bird in Sky am wneud gem ddilynol. Maent yn chwilio am gyhoeddwr sydd, yn ôl Matt a Mic, am "greu partneriaeth i wneud y gem antur ofod fwyaf a welodd yr alaeth erioed: 3032".

Animated shot of a cityscape from a game.
Mae City of Stars yn gêm un chwaraewr, trydydd person gan Bird in Sky wedi'i lleoli yn Los Angeles yn yr 1980au .
Imersifi

Mae Imersifi yn stiwdio feddalwedd realiti rhithwir (VR) sy'n arbenigo mewn creu profiadau hyfforddi cwbl ryngweithiol ar gyfer mentrau. Fel yr unig stiwdio VR gymwysedig ar lefel meistr yng Nghymru, mae Imersifi yn enwog am ei harbenigedd dylunio rhyngweithio, integreiddio data, a dylunio cyfarwyddiadau defnyddiwr-ganolog. Mae gan y tîm arbenigol hanes o ddarparu atebion hyfforddi VR ar gyfer amrywiol ddiwydiannau gan gynnwys y maes meddygol, iechyd a diogelwch a pheirianneg. Mae gan y stiwdio arlwy unigryw; gall greu profiadau VR cwbl bwrpasol a hawdd eu huwchraddio gyda dysgu integredig.

Animated shot of plane on a backdrop of blue sky. In the foreground are two VR handles.
Mae Imersifi yn creu profiadau hyfforddi rhyngweithiol llawn ar gyfer mentrau, fel yr ap VR awyrofod hwn.
CritterCraft 

Mae CritterCraft yn fetafyd WEB3 arbrofol a ddatblygwyd gan Gaz Thomas a Chaz Barter, sydd â dros 30 mlynedd o brofiad o greu gemau. Gyda'i gilydd mae nhw wedi datblygu a chyhoeddi dros 100 o deitlau, gyda'u creadigaethau gwreiddiol yn cael eu chwarae dros filiwn o weithiau. Mae gwaith gemau CritterCraft yn cynnwys creu'r gemau NFT cyntaf yn y byd i integreiddio Twitch.

Wales Interactive

 

 

Mae Wales Interactive yn ddatblygwr gemau fideo a ffilmiau rhyngweithiol, cyhoeddwr a buddsoddwr arobryn. Wedi'i sefydlu ar y cyd gan Dr David Banner MBE a Richard Pring, mae'r cwmni wedi esblygu o greu gemau i label cyhoeddi - gan gydweithio gyda rhai o'r datblygwyr gemau a'r gwneuthurwyr ffilmiau mwyaf talentog ledled y byd.

Mae eu portffolio o deitlau sy'n datblygu'n barhaus wedi’u chwarae gan filiynau o bobl, gan gynnwys Maid of Sker, Late Shift, Sker Ritual, Ten Dates, The Complex, Five Dates, The Bunker, a llawer mwy.

Cewch ddarllen bopeth am sut mae Wales Interactive yn rhoi Cymru ar y map gemau fideo yn ein proffil ar y cwmni yma.

 

 

Sugar Creative

Mae Sugar Creative yn stiwdio arobryn sy'n cyflwyno rhyfeddodau drwy arloesi. Sefydlwyd y cwmni yn 2008 ac mae wedi gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol gan gynnwys Aardman, Toyota, Allianz, Dr. Seuss, Kingspan, Ubisoft, BBC, ac OSMO.

Mae rhai o brosiectau blaenllaw presennol yr asiantaethau yn cynnwys partneriaeth ag Ubisoft yn creu y profiad trochi byd-eang cyntaf a fydd yn dod â byd Creed Valhalla gan Assassin yn fyw yn XR; peiriant stori newydd sbon sy'n creu profiadau naratif realiti rhithwir; partneriaeth ag Amgueddfa Cymru i roi llais i'r dehongliadau heb gynrychiolaeth ddigonol o gasgliad yr amgueddfa; a phrosiect cynhwysiant ac arloesi fydd yn datblygu'r gallu i ymgorffori Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn effeithiol o fewn VR fel iaith gyfartal.

Cewch ddarllen mwy am bwy yw Sugar Creative a beth mae nhw'n ei wneud yn yr erthygl hon.

'Project V' by Sugar Creative
Mae Sugar Creative yn canolbwyntio ar greu ffyrdd newydd o adrodd straeon ymgolli.
Black Dragon Studios

Mae Black Dragon Studios yn gwmni datblygu gemau fideo annibynnol o Abertawe.  Gyda'i gilydd, mae gan eu tîm medrus iawn brofiad cyfunol o dros 30 mlynedd o ddatblygu gemau, ymarfer ac addysgu dylunio creadigol, a datblygu meddalwedd. 

Ers ei lansio yn 2018, mae'r cwmni wedi creu gemau ar draws sawl platfform, gan gynnwys PlayStation 4, Nintendo Switch, Oculus VR, a'r clustffonau Vive VR. Yn 2023, mae Black Dragon yn canolbwyntio ar gemau ar gyfer Cyfres Xbox X/S a'r Switch.

Animated shot showing large character with red eyes from Black Dragon Studios game.
Mae gan y tîm y tu ôl i Black Dragon Studios brofiad cyfunol o dros 30 mlynedd o weithio yn y diwydiant gemau.
Sammy Snake Ltd

Mae Sammy Snake yn ffrydiwr, cynghorydd ac arweinydd prosiect yn y gymuned gemau. Ef hefyd yw sylfaenydd Nova Rally – gêm blockchain, strategaeth rasio 3D. Mae chwaraewyr yn dewis car a gyrwyr cyn dechrau rasio mewn gem sy'n efelychu rasio. Gallwch hefyd ddod yn berchennog rhannol ar dîm rasio rhithwir.

Animated, in-play shot from the Nova Rally game by Sammy Snake.
Mae Nova Rally yn gêm strategaeth rasio 3D gan Sammy Snake.
Games Alchemist Ltd

Mae Games Alchemist Ltd yn gwmni datblygwyr gemau fideo sydd wedi'i leoli yn ne Cymru sy'n gweithio ar gemau consol a chyfrifiadurol. Mae'r sylfaenydd Tobias Johnson yn gyfarwyddwr sydd wedi ennill Bafta i Creature Battle Lab: gêm creu creaduriaid 3D a ddatblygwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru drwy wobr Microsoft Greenshoots.

Prosiect diweddaraf y cwmni yw Big Job: saethwr trydydd person wedi'i osod ym Mhrydain dystopaidd y 1980au gydag elfennau llechwraidd. Mae'r gemau wedi derbyn cefnogaeth gennym ni yma yn Cymru Greadigol ac maent yn cael eu rhyddhau dros gyfnod ar gyfrifiaduron personol a chonsol. Ar hyn o bryd mae Alchemist Games yn chwilio am gyfleoedd cyhoeddi, buddsoddi, defnyddio platfformau amrywiol, marchnata a phrofion sicrwydd ansawdd a lleoleiddio ar gyfer y gêm.

Animated shot of Big Job from Games Alchemist. A muscular bald man is wearing a tight all black top and bottoms and is holding a gun, which is pointing to the ground.
Big Job yw'r prosiect diweddaraf gan y datblygwr gemau fideo Games Alchemist.
RUNWILD Entertainment Ltd

Mae RUNWILD Entertainment Ltd yn stiwdio datblygu gemau annibynnol yn Ne Cymru. Ffurfiwyd y tîm yn 2016, ac mae'n cynnwys datblygwyr profiadol a sawl contractwr wedi'u lleoli ledled y byd. Nod y cwmni yw dod yn fyd-enwog am gemau aml-chwaraewr Co-op PvE a dod â chwaraewyr at ei gilydd mewn anturiaethau unigryw ac ysbrydoledig.

Animated shot from Almighty: Kill your Gods showing warrior fighting.
Mae Allmighty: Kill your Gods yn gem antur chwarae rôl gan RUNWILD Entertainment Ltd.
Cloth Cat

Mae Cloth Cat yn stiwdio ddatblygu arobryn yng Nghaerdydd sy'n gwneud gemau a phrofiadau rhyngweithiol ar gyfer amrywiol lwyfannau. Maent yn arbenigwyr peiriant Unity gyda sawl gêm wedi'u rhyddhau yn eu henw ar gyfer cyfeiriaduron, dyfeisiadau symudol ac ar y we; maent hefyd wedi creu dros ugain o gemau HTML5 ers sefydlu. Gydag ailfrandio diweddar daw newid cyffrous a chanolbwyntio ar gemau ar gyfer cyfrifiaduron a chonsolau.

DragonfiAR 

Mae DragonfiAR yn stiwdio gemau sy'n datblygu gemau ymgolli a chyfareddol ar ddyfeisiadau symudol, realiti rhithwir (VR) a gemau bwrdd gwaith ymgolli a swyno.

Eu harbenigeddau yw gemau realiti rhithwir (VR) a realiti estynedig (AR) ynghyd â gemau naratif a gemau aml-chwaraewr ar-lein (MMO) enfawr. Nod y stiwdio yw creu gemau sy'n dod â chwaraewyr i fydoedd llawn dychymyg gyda straeon gwefreiddiol, cymeriadau grymus, a phrofiadau bythgofiadwy.

Iungo Solutions

 

Sefydlwyd iungo Solutions gan Jessica Leigh Jones MBE a Tom de Vall i greu'r cysylltiad rhwng cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, a thalent. Trwy ddatblygu rhaglenni dysgu trochol a thrwy brofiad, mae iungo yn datblygu a gwella talent ar gyfer rolau sgiliau uchel mewn sectorau newydd a blaenoriaeth gan gynnwys datblygu gemau a diwydiannau creadigol eraill.

Ers ei lansio, mae iungo wedi datblygu rhaglen uwchsgilio bwrpasol a gynlluniwyd i ddenu talent sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y diwydiant gemau. Mae eu rhaglen hyblyg naw mis yn gwella sgiliau datblygwyr gemau i lefel broffesiynol, gyda'r opsiwn i sefydlu menter datblygu gemau newydd drwy raglen hybu arbenigol.

A blonde-haired woman stands, smiling in front of a purple, blue and pink iungo banner.
Mae iungo yn datblygu ac yn gwella sgiliau ar gyfer rolau sgiliau uchel yn y maes datblygu gemau.
ClearPixel VR

Mae ClearPixel VR yn darparu labordai hyfforddi rhithwir ar gyfer hyfforddiant niwrowyddoniaeth ymarferol. Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, maent yn cynnig amgylcheddau diogel y gellir eu hailadrodd lle gall unigolion ddysgu am y gwahanol offer mewn labordy ac ymarfer technegau diwydiant. Yn y pen draw, eu nod yw ailfeddwl ac ail-lunio'r diwydiant presennol a gweithdrefnau hyfforddi addysgol.

A woman wearing a peach-coloured jumper stands in front of two screens while wearing a virtual reality headset.
Mae ClearPixel VR yn defnyddio realiti rhithwir i helpu pobl i ymarfer technegau'r diwydiant.
Bomper Studios

Mae Bomper yn stiwdio cynhyrchu creadigol annibynnol yng Nghaerffili. Mae eu tîm o artistiaid, darlunwyr, animeiddwyr, cyfarwyddwyr celf a chynhyrchwyr yn gweithio ar brosiectau yn y maes hysbysebu, brandio a darlledu. O VFX i animeiddio wedi'i grefftio â llaw, mae eu gwaith yn rhychwantu llawer o fformatau a chyfryngau.

Mae rhai o'u prosiectau'n cynnwys: creu dau fideo cerddoriaeth wedi'u hanimeiddio ar gyfer y Foo Fighters a phartneru gyda'r cyhoeddwr gemau arobryn Big Fish ar gyfres o ffilmiau comedi byr ar gyfer eu teitl EverMerge.

Darllenwch y cyfweliad hwn gydag un o'u rheolwyr marchnata i glywed sut brofiad yw gweithio i Bomper.

 

Animeiddiad lliwgar (melyn, pinc a gwyrdd) yn dangos Dave Grohl, o fideo cerddoriaeth 'Chasing Birds' gan Foo Fighters. Mae Dave yn gwisgo crys plaid coch.
Nod Bomper yw creu gwaith sy'n llawn cymeriad a gwreiddioldeb.
Virtus Tech 

 

Mae Virtus Tech yn gwmni realiti rhithwir (VR) sy'n darparu llwyfan VR sy'n seiliedig ar y we heb god. Mae'r platfform yn cynnwys system llusgo a gollwng syml, sy'n cael ei defnyddio gan addysgwyr, crewyr cynnwys a thimau i greu, cydweithio a chreu cynyrchiadau VR ar gynfas hollol weledol. Gan nad oes angen codio, gall pawb ganolbwyntio ar yr hyn maen nhw'n ei wneud orau.

Dywed Virtus bod eu cwsmeriaid yn eu galw'n fan canolog ar gyfer VR gan y gall sefydliadau adeiladu eu cynnwys VR eu hunain a'i ddefnyddio ar unrhyw ddyfais. Caiff ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan system addysgol GIG y DU, lle mae efelychiadau'n cael eu creu a'u defnyddio gan dros 35,000 ar gyfer hyfforddiant.

Am fwy o wybodaeth am y daith fasnach hon i GDC cysylltwch â ni yma.

Lleoliad

37.7843234, -122.40069