Diben y Gronfa
Mae'r gronfa ar waith i fynd i'r afael â blaenoriaethau penodol a nodwyd yn argymhellion adroddiad Gweithgor Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd Cymru O Gymru ac i Gymru: tuag at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer newyddiaduraeth er budd y cyhoedd a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023.
Nod y gronfa yw cefnogi newid systemig ar draws y diwydiant ehangach drwy gefnogi prosiectau sy'n cyfrannu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at ddatblygu a chefnogi newyddiaduraeth er budd y cyhoedd ac yn cynnig manteision i'r sector newyddiaduraeth ehangach yng Nghymru. Nid yw wedi'i anelu at sefydliadau neu gyhoeddiadau unigol.
Cynnig Cyllid
Gall ymgeiswyr ofyn am £5,000 ac, mewn amgylchiadau eithriadol, hyd at £50,000 pan fo'r prosiect yn gallu cyflawni allbynnau sylweddol o fewn amserlen y gronfa.
Anogir prosiectau i ddefnyddio arian cyfatebol pan fo hynny'n bosibl. Anogir arian cyfatebol o'r tu allan i'r sector cyhoeddus hefyd.
Rhaid i geisiadau fod er budd y sector newyddiaduraeth a rhaid iddynt gyflawni yn erbyn o leiaf un o'r argymhellion a nodir yn O Gymru ac i Gymru: tuag at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer newyddiaduraeth er budd y cyhoedd.
Mae enghreifftiau o'r mathau o brosiectau y gallem ddisgwyl eu gweld yn cynnwys:
- Prosiectau sydd â'r nod o wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector newyddiaduraeth yng Nghymru
- Prosiectau sy'n cefnogi ymwybyddiaeth o'r cyfryngau
- Prosiectau sy'n mynd i'r afael â ‘diffeithdiroedd newyddion’ yng Nghymru
- Prosiectau sy'n nodi ac yn helpu i fynd i'r afael ag anghenion defnyddwyr newyddion yng Nghymru
- Prosiectau sy'n cefnogi sefydliadau neu gyhoeddiadau unigol ar sail hyd braich
- Prosiectau sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg wrth ddarparu newyddiaduraeth yng Nghymru.
Pwy all wneud cais?
Rhaid i geisiadau ddod gan sefydliad yng Nghymru lle mai prif swyddogaeth neu bwrpas y prosiect yw cefnogi'r gwaith o ddatblygu diwydiant newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru sy'n addas i'r diben.
Gellir gweld rhestr lawn o feini prawf cymhwysedd yn ein nodiadau cyfarwyddyd.
Sut i wneud cais
Darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd llawn cyn gofyn am ffurflen gais: CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru
Mae'r gronfa ar agor o 4 Mehefin ac yn cau am hanner dydd ar 15 Gorffennaf 2025. Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried.