Diben y gronfa

Mae'r gronfa bartneriaeth hon yn cefnogi gweithgareddau sy'n helpu ein sectorau blaenoriaeth, gan gynnwys teledu, ffilm, gemau, animeiddio, cerddoriaeth, darlledu, y cyfryngau, newyddiaduraeth a chyhoeddi, i dyfu. Gall helpu gweithgareddau i ddatblygu sgiliau a thalent hefyd. Rhaid i weithgaredd gefnogi un neu fwy o'n themâu blaenoriaeth isod:

Ffocws ar dwf: sbarduno twf y sectorau creadigol yng Nghymru.

Cefnogi sgiliau: datblygu'r sgiliau cywir ar draws y sectorau creadigol i'w helpu i barhau i dyfu.

Amrywiaeth i bawb: hyrwyddo sector amrywiol a chodi safonau i roi cyfle cyfartal i bawb.

Symleiddio'r cymorth i'r sector: targedu cymorth lle mae ei angen, gan addasu i anghenion y diwydiannau creadigol wrth iddyn nhw newid

Adeiladu ar brand Cymru: hyrwyddo diwydiannau creadigol Cymru i'r byd.

Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais, mae'n bwysig eich bod yn darllen y canllawiau yn ofalus i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys. Mae croeso ichi hefyd drafod eich cynnig gydag un o'n rheolwyr datblygu'r sector. Os hoffech ffurflen gais, cysylltwch â CymorthAriannuCymruGreadigol@Llyw.Cymru

Nodwch: Mae hon yn gronfa ddisgresiwn a fydd yn dibynnu ar y gyllid sydd ar gael. 

Canllawiau Cronfa Partneriaeth Cymru Greadigol 2026/27

Straeon cysylltiedig

Ein gwaith

Rydym yn cysylltu pobl, hyrwyddo creadigrwydd a buddsoddi mewn syniadau ar draws ein cenedl.

Gwyliwch ein ffilm hyrwyddo yma.