Asiantaeth gyda Llywodraeth Cymru ydym ni a sefydlwyd yn 2020 i gefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Rydym yn cefnogi ein sectorau creadigol, yn sbarduno twf yn ein heconomi ac yn helpu i adeiladu dyfodol llewyrchus i'n gwlad.

Mae ein tîm arbenigol yn cysylltu pobl a busnesau i feithrin cyfleoedd newydd; yn darparu gwybodaeth ac adnoddau i ddatblygu sgiliau ein gweithlu a chefnogi ein gweithwyr dan hyfforddiant; ac yn buddsoddi mewn syniadau a phobl i helpu ein heconomi greadigol i ffynnu.

Yma yn Cymru Greadigol rydym yn darparu cefnogaeth ar draws ein sectorau creadigol – o gerddoriaeth i animeiddio. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth am y cyfleoedd hyfforddi diweddaraf, yn ogystal â rhoi cyngor ar ariannu.

Rydym yn hyrwyddo'r sectorau creadigol, fel y gallant fynd ymlaen a chefnogi unigolion creadigol – o'r lleoliadau ar lawr gwlad sy’n rhoi cyfle i artistiaid ddisgleirio, i'r ffilmiau sy'n arddangos y dalent y tu ôl i'r camera. Wedi'r cyfan, pan fyddwn yn buddsoddi ynddyn nhw, rydym yn buddsoddi yng Nghymru.

Rydym wedi cytuno ar Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.

Credwn y bydd ein sectorau’n gryfach ac yn fwy gwydn os ydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd. Dim ond dechrau partneriaeth hirdymor yw hyn – un a fydd yn tyfu ac yn datblygu dros amser.

Gallwch ddarllen y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth llawn ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.

£1.5 biliwn

O drosiant blynyddol yn niwydiannau creadigol Cymru

35,100

O bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru

£26.5 miliwn

Wedi'i fuddsoddi mewn prosiectau Ffilm a Theledu drwy'r gyllid cynhyrchu