Yr uwch-dîm rheoli
Cyflwyniad i'r uwch dîm gweithredol sy'n gweithio gyda'r Gweinidog i hyrwyddo a thyfu'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
-
Jason Thomas Cyfarwyddwr Twristiaeth, Marchnata, Digwyddiadau a Chreadigol
Jason yw Cyfarwyddwr Datblygu Twristiaeth, Marchnata (Croeso Cymru), Digwyddiadau Cymru a Cymru Greadigol yn Llywodraeth Cymru. Mae'r rôl yn ymwneud ag arwain tair asiantaeth fewnol Llywodraeth Cymru sy'n wynebu cwsmeriaid: Cymru Greadigol, Croeso Cymru a Digwyddiadau Cymru, ac mae'n arwain tîm o tua 200 o bobl.
-
Joedi Langley Pennaeth Dros Dro Cymru Greadigol
Ar hyn o bryd mae Joedi yn arwain tîm Cymru Greadigol, ac mae ganddi gyfrifoldeb cyffredinol dros ddatblygu'r sectorau creadigol rydym yn eu cefnogi yng Nghymru; gan gynnwys Ffilm a Theledu, Animeiddio, Gemau, Cerddoriaeth a Chyhoeddi.
Mae ei chylch gwaith hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb am Bolisi Darlledu a'r Cyfryngau, a rhaglen o fentrau Sgiliau a Thalentau a ariennir gan Cymru Greadigol, sy'n creu cyfleoedd a rhagolygon gyrfa hirdymor ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o bobl greadigol.
-
Paul Osbaldeston Pennaeth Dros Dros Datblygu'r Sectorau
Mae Paul yn arwain tîm datblygu'r sector, gan ofalu am ein perthynas â'r sectorau Ffilm, Teledu, Gemau, Animeiddio, Technoleg Ymgolli a Cherddoriaeth, yn ogystal â Sgrin Cymru.
Yn ogystal, mae Paul yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid ar raglenni uchelgeisiol, gan gynnwys Media Cymru, Gogledd Cymru Greadigol, Gorllewin Cymru Greadigol, BAFTA, albert, Llywodraeth y DU, TIGA ac undebau llafur y diwydiannau creadigol.
-
Pete Francombe Arweinydd Datblygu'r Sector Cerddoriaeth
Pete yw'r sbardun y tu ôl i'r gefnogaeth a ddarparwn ar gyfer artistiaid cerddoriaeth newydd, gwyliau cerddoriaeth a'n lleoliadau hanfodol ar lawr gwlad yma yng Nghymru. Gan weithio gyda'i dîm profiadol, maent yn cysylltu artistiaid a busnesau â chyrff y diwydiant ac yn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddarparu i gefnogi seilwaith a gweithrediadau o ddydd i ddydd.
-
Melanie Kinsey Arweinydd Strategaeth a Pholisi
Mae Melanie yn sicrhau bod Cymru Greadigol yn cyd-fynd â holl bolisïau perthnasol Llywodraeth Cymru ac yn arwain ar bolisi darlledu a chyfryngau Llywodraeth Cymru.
Mae hi'n cynnal perthynas bwysig gyda chyrff allanol allweddol fel DCMS ac OFCOM Cymru, ac mae wedi arwain ar ddatblygu partneriaethau strategol rhwng Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru, BBC Cymru Wales ac S4C. Gallwch ddarllen mwy am ein Memoranda Cyd-ddealltwriaeth gyda'r sefydliadau hyn yma.
Yn ogystal, mae Mel yn goruchwylio gwaith ymchwil a mewnwelediadau Cymru Greadigol ac yn rheoli ein cefnogaeth i'r sector Cyhoeddi gyda'n partner cyllido Cyngor Llyfrau Cymru.
-
Lynsey May Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu a Phartneriaethau
Lynsey sy'n arwain y tîm Marchnata a Chyfathrebu, a chanddi gyfrifoldeb cyffredinol am gydlynu cyfathrebu gweinidogol, ymgyrchoedd marchnata, digwyddiadau, nawdd a meithrin cysylltiadau a rhanddeiliaid yn y diwydiannau creadigol.
-
Stephanie Woodward Arweinydd Rhaglenni a Gweithrediadau
Mae gan Steph rôl hanfodol wrth gyflwyno ein holl raglenni cyllido, rheoli'r ochr weinyddol ac ymgysylltu â sawl derbynnydd cyllid i sicrhau diwydrwydd dyladwy a bod gwariant cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n gyfrifol.
Hi hefyd yw arweinydd tîm cyllid Cymru Greadigol.
Ein bwrdd anweithredol
Gan ddod â'u cyfoeth o brofiad o bob maes o'r byd creadigol, mae ein bwrdd anweithredol wedi'i benodi i'n cynghori, ein herio a'n helpu i osod ein gweledigaeth, gwerthoedd a chyfeiriad strategol.
Cyflwyno aelodau ein bwrdd:
-
Helgard Krause Cadeirydd Dros Dro a Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru
Mae Helgard wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau yn y diwydiant cyhoeddi rhyngwladol ers 1995, cafodd ei ethol i Orsedd y Beirdd yn 2020 ac fe'i henwyd yn un o'r 150 o bobl fwyaf dylanwadol ym maes cyhoeddi ym Mhrydain yn 2021.
-
Tom Daniel Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Rocket Science Group
Tom yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Rocket Science Group, cwmni gemau fideo gyda stiwdios yn Efrog Newydd, Austin a Chaerdydd. Yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, mae bellach yn byw yn Austin, Texas. Gyda gyrfa sy'n rhychwantu timau byd-eang a nifer o gemau llwyddiannus iawn, mae Tom wedi sefydlu ei hun fel arweinydd yn y diwydiant, gan ddod â phrofiadau chwarae gemau llawn gweledigaeth yn fyw.
-
Will Humphrey Cyfarwyddwr Creadigol, Sugar Creative
Mae Will yn cael ei ystyried yn un o brif weithwyr y DU sy'n creu dyluniadau y gellir ymgolli eich hun ynddynt ac yn llais blaenllaw yn y gwaith o adeiladu ffurfiau newydd o naratif gydag XR.
Wedi’i hyfforddi'n wreiddiol fel Genetegydd Moleciwlaidd yn Kings, addasodd i ganolbwyntio ar Ddylunio Cyfathrebu, gan hyfforddi yn UAL, cyn canolbwyntio ar ddatblygu technoleg ymgolli am ei botensial i ddod â realiti newydd yn fyw.
Mae ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Creadigol gyda Sugar Creative sydd wedi ennill sawl gwobr, lle mae wedi arwain ar gyflwyno rhai o'r profiadau XR mwyaf arloesol ac ailddiffinio genre yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ar gyfer brandiau gan gynnwys Ubisoft, Apple, Tmobile, Wallace & Gromit, Dr.Seuss, a'r Chemical Brothers.
Yn arweinydd meddwl cydnabyddedig sy'n canolbwyntio ar arloesi, mae wedi ysgrifennu a chyflwyno mewn ystod o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys SXSW, Games for Change, a chynhadledd Global Developer. Mae'n eiriolwr dros arloesi a arweinir gan sgiliau a newid cadarnhaol, gan ddarparu mentora ar gyfer talent sy'n dod i'r amlwg yn fyd-eang yn ogystal â sbarduno symudiad tuag at beidio â meddwl mewn seilos wrth ddefnyddio arloesiadau creadigol ar draws pob sector.
Mae ei brosiectau a'r gwaith y mae wedi'i arwain wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys TIGA, gwobr arloesi SXSW, BIMA10, AWE Auggie, ac wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dau Cannes Lions.
-
Jon Rennie Rheolwr Gyfarwyddwr, Cloth Cat
Jon Rennie yw Rheolwr Gyfarwyddwr Cloth Cat, cwmni animeiddio a gemau arobryn sy'n arbenigo yn y farchnad plant. Dechreuodd ei yrfa mewn gemau, yna gwneud ffilmiau ac effeithiau gweledol, cyn setlo ar y diwydiant animeiddio a ffurfio Cloth Cat yn 2012.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae'r cwmni wedi parhau i ddatblygu gemau a chyfresi syniadau newydd ac wedi derbyn Epic Megagrant yn 2021. Mae'r prosiectau'n cynnwys Luo Bao Bei, Shane the Chef, The Rubbish World of Dave Spud, Olobob Top, Ethel & Ernest, Boj, Grandpa in my Pocket a Disney's Tales of Friendship with Winnie the Pooh. Mae wedi’i leoli yng Nghaerdydd a phan nad yw'n gweithio, mae'n adeiladu Lego, yn gwylio ffilmiau ac yn teithio'r byd.
-
John Rostron Prif Weithredwr, Association of Independent Festivals
Cyn ymuno ag AIF treuliodd John nifer o flynyddoedd yn gweithio fel ysgrifennwr ceisiadau llawrydd ar gyfer sefydliadau cerddoriaeth a creadigol. Yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd cydsefydlodd yr Association of Independent Promoters, y mae'n ei arwain fel Cadeirydd.
Cyn hynny roedd John yn hyrwyddwr cyngherddau a gwyliau annibynnol, gan ddatblygu perfformwyr o leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad i arenâu, a chyd-sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, gan ddathlu a hyrwyddo'r gerddoriaeth newydd orau o Gymru.
-
Laura Taylor-Williams Pennaeth Datblygu Digidol a Strategol, Aardman
Mae gan Laura Taylor-Williams brofiad helaeth o ddosbarthu'r cyfryngau digidol, moneteiddio, cynllunio strategol, datblygu busnes a strategaethau cynnwys.
Ar hyn o bryd fel Pennaeth Datblygu Digidol a Strategol yn Aardman, mae'n arwain y cyfeiriad, y gwaith cyhoeddi a'r partneriaethau moneteiddio digidol o'r BBC i lwyfannau byd-eang fel YouTube, Apple, Amazon. Yn ogystal, mae Laura yn llywio'r gwaith o greu cynnwys digidol, ail-ddychmygu a sicrhau cymaint o gynnwys â phosibl ar gyfer cynulleidfaoedd digidol.
Arweiniodd Laura ar lansio sianel deledu gyntaf Aardman yn UDA; gan sefydlu ei hun yn awdurdod yn y diwydiant ar sianeli teledu FAST.
Cyn Aardman, gweithiodd Laura yn stiwdios mawr Hollywood; NBCUniversal a Warner Bros, gan rychwantu marchnadoedd y DU a marchnadoedd rhyngwladol. Mae'n arwain timau i fanteisio i'r eithaf ar bortffolio ffilm a theledu NBCUniversal ar draws hawliau perchnogaeth ddigidol ar gyfer masnachfreintiau animeiddio allweddol o stiwdios Illumination a DreamWorks yn ogystal â rhaglenni gweithredu byw a dogfennol a sioeau teledu arobryn.
Dychwelodd Laura i Dde Cymru yn 2021, gan sefydlu ei hun yn nhirwedd cyfryngau Cymru; ychwanegu gwerth drwy ymgynghoriaeth cyfryngau digidol, a chynhyrchu ecs.
Mae Laura yn aelod pleidleisio o restr bleidleiswyr BAFTA a BIFA. Mae'n siaradwr rheolaidd ar bodlediadau a phaneli diwydiant fel y Gynhadledd Cyfryngau Plant, Cynhadledd Cyfryngau Belfast ac Uwchgynhadledd YouTube.
-
Andy Warnock Trefnydd Rhanbarthol, Musicians' Unions
Andy yw Trefnydd Rhanbarthol Cymru a De-orllewin Lloegr Musicians' Union, ac mae'n rheoli gwasanaethau, allgymorth ac ymgyrchoedd yr Undeb ar draws y rhanbarth. Mae ganddo gefndir mewn codi arian ym myd y celfyddydau yn ogystal â cherddoriaeth, ac mae'n ymwneud ag amrywiaeth o grwpiau eraill gan gynnwys Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, Bristol Nights, a Chyngor Cyffredinol TUC Cymru.
-
Sioned Wyn Cynhyrchydd, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd, Chwarel TV
Sioned Wyn yw Rheolwr Gyfarwyddwr Chwarel sydd wedi ennill BAFTA. Mae'n gwneud fformatau a chynnwys ffeithiol ar gyfer ystod o ddarlledwyr gan gynnwys The Great House Giveaway ar gyfer C4.
Yn credu'n gryf na ddylai lleoliad fod yn rhwystr i greadigrwydd, mae hi wedi adeiladu cwmni cyfryngau llwyddiannus yng Nghricieth yn Eifionydd, ac mae'n parhau i oresgyn rhwystrau drwy fanteisio ar yr oes ddigidol a lansio ei sianel YouTube ei hun, Melyn.
£1.5 biliwn
35,100
£26.5 miliwn
Cadwch mewn cysylltiad
Eisiau derbyn y newyddion diweddaraf am y sectorau creadigol? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.