Skip to main content

Cynhadledd Datblygwyr Gemau 2024

Y Ddraig goch gyda chefndir bygythiol, mynyddig
Byddwn yn GDC 18-22 Mawrth gyda rhai o gwmnïau technoleg digidol blaenllaw Cymru.

Byddwn yn GDC 18-22 Mawrth gyda rhai o gwmnïau technoleg digidol blaenllaw Cymru.

Cynhadledd Datblygwyr Gemau (GDC) yw'r casgliad blynyddol mwyaf o ddatblygwyr gemau fideo proffesiynol yn y byd, a'r cyfle perffaith i arddangos talent Cymru i gynulleidfa ryngwladol.

Fel rhan o daith fasnach gyffrous gan Lywodraeth Cymru gyda Masnach a Buddsoddi Cymru, rydym wrth ein boddau ein bod yn cymryd unarddeg o gwmnïau gemau a thechnoleg digidol gorau Cymru lle byddant yn rhwydweithio ag arweinwyr y farchnad ac yn cael cyfle i gwrdd â darpar fuddsoddwyr.

Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am y cwmnïau a'r cynhyrchion y maent yn eu harddangos neu ddarganfod mwy am ein teithiau masnach i GDC yma.

 

The Wales exhibition stand at GDC
Dirprwyaeth Cymru yn GDC 2023.

Mae Rocket Science Corp yn stiwdio beirianneg ôl-brosesu datblygu ar y cyd arbenigol sy'n mynd i'r afael â heriau mwyaf chwarae gemau, gan alluogi doniau gorau y diwydiant i greu profiadau arallfydol ar gyfer datblygwyr a chyhoeddwyr blaenllaw ledled y byd.

Mae Copa Gaming yn creu profiadau chwarae gemau eithriadol ar gyfer cynulleidfa fyd-eang amrywiol. Gydag ymrwymiad i ansawdd ac arloesedd, maent yn ymfalchïo mewn datblygu gemau gwych sy'n adlewyrchu ysbryd unigryw Cymru. 

Mae Dragon Scale Studios yn stiwdio datblygu gemau yng Nghaerdydd sy'n cynnwys 6 o raddedigion o Brifysgol Cymru. Ar hyn o bryd maent yn gweithio ar eu prosiect cyntaf Set Sail! Mae prosiect 4 Chwaraewr, Co-op soffa, Pirate Party Adventure, yn ogystal â phrosiectau cyffrous eraill yn yr Eiddo Deallusol newydd hwn am fôr-ladron.

Mae Good Gate Media yn ddatblygwr gemau annibynnol a chwmni cynhyrchu ffilmiau.  Wedi'i sefydlu yn 2018, mae wedi rhyddhau 6 gêm ers hynny gan gynnwys The Complex a Five Dates ac wedi cynhyrchu ffilm gyda stiwdio fawr yn Hollywood.

Mae Imersifi yn creu cymwysiadau rhithwir o'r safon uchaf sy'n caniatáu efelychu unrhyw amgylchedd neu senario, gan ddarparu posibiliadau diderfyn ar gyfer profiadau dysgu a datblygu. Mae Imersifi yn darparu atebion hyfforddi ac adloniant XR, naturiol ac effeithiol sy'n arwain y farchnad.

Mae Wales Interactive yn gwmni gemau fideo annibynnol arobryn a datblygwr a chyhoeddwr ffilmiau rhyngweithiol sydd wedi'i leoli yng Nghymru. Mae eu portffolio cynyddol o deitlau wedi cael eu chwarae gan filiynau yn fyd-eang, gan gynnwys; Maid of Sker, Late Shift, Sker Ritual, Ten Dates, The Complex, Five Dates, a llawer mwy.

Mae Marshall yn gyfansoddwr o Gymru sy'n arbenigo mewn Cerddoriaeth ar gyfer Gemau, Teledu a Ffilm. Mae gan y cwmni elfen Gymreig gref ac wedi cynhyrchu cerddoriaeth i'r Teulu Brenhinol, Artistiaid a'r Cyfryngau ledled y byd.

Mae PDR yn ganolfan ymgynghori ac ymchwil i ddylunio yng Nghymru sy'n arwain y byd. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar ddarparu cymorth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi o fewn diwydiannau sgrin a chyfryngau De Cymru.

Rescape yw'r prif ddarparwr therapïau trochi yn y DU gyda'n hateb DR.VR wedi ei drwyddedu mewn dros 80 o amgylcheddau gofal iechyd, gan gynnwys y GIG, cartrefi gofal a hosbisau. Mae DR.VR yn therapi tynnu sylw rhithwir sy'n lleddfu poen yn bennaf, yn lleihau pryder / straen ac yn gwella profiad cleifion

Zygo yw'r prif asiantaeth cynhyrchu cynnwys yn y diwydiant chwarae gemau.  Ers 2017, maent wedi adeiladu timau o amgylch crewyr a brandiau i raddio eu cynnwys. Maent yn darparu gwasanaethau o'r safon uchaf i'n cleientiaid ar draws pob disgyblaeth i sicrhau bod y peiriant cynnwys yr ydym yn ei greu yn gallu cynhyrchu safon yn gyson.

Mae Sugar Creative yn stiwdio arobryn sy'n cyflwyno rhyfeddodau drwy arloesi. Sefydlwyd y cwmni yn 2008 ac mae wedi gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol gan gynnwys Aardman, Toyota, Allianz, Dr. Seuss, Kingspan, Ubisoft, BBC, ac OSMO.

Lleoliad

37.7843234, -122.40069