Mae Sex Education yn adrodd hanes grŵp o fyfyrwyr yn yr ysgol ddychmygol Moordale High. Mae'n dilyn y bobl ifanc Otis, Eric a Maeve wrth iddynt droedio'r llwybr anodd i ddatblygu'n oedolyn. Mae'r berthynas gyfnewidiol rhwng Otis a Maeve a straeon personol y cymeriadau (yn aml yn rhai doniol iawn!) wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd.
Ers rhyddhau tymor cyntaf Sex Education, a ffilmiwyd yng Nghymru, mae poblogrwydd y sioe wedi tyfu’n sylweddol, gyda’r tîm cynhyrchu’n dychwelyd i Gymru ar gyfer tri thymor arall.
Mae ffilmio'r pedwerydd tymor (yr un olaf) bellach wedi dod i ben, a'r hyn sy'n anhygoel yw bod Sex Education bellach wedi'i wylio gan dros 55 miliwn o gartrefi ledled y byd – dyma 12fed cyfres fwyaf poblogaidd Netflix yn fyd-eang.
Gadewch i ni edrych yn ôl ar y stori hyd yn hyn.
Y lleoliadau
Mae Cymru Greadigol wedi bod yn rhan o stori Sex Education ers y dechrau, gyda'n gwasanaeth arbenigol Sgrin Cymru wrth law i helpu'r tîm cynhyrchu ddod o hyd i'r lleoliadau mwyaf gwreiddiol.
Er bod gan Moordale High naws Americanaidd, gwnaethpwyd llawer o'r ffilmio ym mhob tymor yn Ne Cymru, gyda Dyffryn Gwy, Coedwig Cwmcarn ac afon Gwy yn rhoi cefndir perffaith.
Un o'r newidiadau mwyaf i dymor pedwar o ran lleoliadau yw symud o Moordale High (arferai golygfeydd neuadd yr ysgol gael eu ffilmio yn Ystafelloedd Paget ym Mhenarth) i Goleg newydd smart Cavendish, a ffilmiwyd yn Amgueddfa Sain Ffagan yng Nghaerdydd. Mae Pont Haearn Dug Beaufort yn Nhrefynwy hefyd yn lleoliad gwahanol i'r tri tymor cyntaf. Cewch wybod mwy am yr union leoliadau ar draws holl dymhorau Sex Education yma.
Mae'r penderfyniad gan Eleven Film i seilio llawer o'r ffilmio ar gyfer y pedwar tymor yng Nghymru yn sicr wedi helpu i drawsnewid enw da Cymru fel lleoliad deniadol yn y diwydiant sgrin. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae cynyrchiadau wedi bod yn heidio i Gymru oherwydd ein tirwedd trawiadol, amrywiol a chriwiau ffilm talentog.
Gallwch fynd i'n tudalen arbenigol am gyngor ar Ffilmio yng Nghymru neu gofrestru ar ein cronfa ddata lleoliadau, criw a chyfleusterau.
Trwy ein cronfa gynhyrchu roeddem yn gallu buddsoddi yng nghyfres un, tri a phedwar o'r ddrama-gomedi arloesol hon, gan sicrhau bod y gyfres yn dychwelyd i Gymru wrth iddi dyfu mewn poblogrwydd, gan ddod yn un o sioeau gwreiddiol mwyaf llwyddiannus Netflix.
Rydym yn cefnogi mewnfuddsoddiad a chynyrchiadau cynhenid trwy becynnau cyllido o gymorth pwrpasol. Cewch wybod mwy am ein Cynlluniau Cyllido yma.
Roedd ein buddsoddiad yn Sex Education hefyd yn ein galluogi i ddechrau sgyrsiau gyda'r tîm cynhyrchu am greu cyfleoedd i hyfforddeion lleol sydd am ddechrau yn y diwydiant. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy am yr hyfforddeion hyn.
Lleoliadau i hyfforddeion
Ar draws pedwar tymor Sex Education cynigiwyd lleoliadau i 36 o hyfforddeion gan ganiatáu i bobl leol gael profiad gwerthfawr ym mhob math o adrannau, o wisgoedd i ddylunio setiau.
Yn y tymor cyntaf, cymerodd Sex Education dri hyfforddai graddedig ymlaen, a gafodd eu lleoli yn yr adrannau cynhyrchu, celf a chyfrifon, ynghyd â deg myfyriwr israddedig a gafodd leoliadau byr.
Yn nhymor tri, cynigiwyd lleoliadau i saith hyfforddai graddedig mewn rolau gan gynnwys sain, colur a chyfarwyddwr cynorthwyol. Cafodd wyth myfyriwr israddedig brofiad gwaith ar y set hefyd.
Cefnogwyd wyth hyfforddai cyflogedig yn ystod y tymor olaf, a rhoddwyd lleoliadau iddynt mewn amrywiol adrannau, o wisgoedd i gamerau a lleoliadau.
Mae llawer o'r hyfforddeion hyn wedi mynd ymlaen i gael swyddi ar gynyrchiadau eraill heb orfod gadael Cymru.
Rydym yn hynod falch bod Sex Education wedi'i ffilmio yma yng Nghymru ac ein bod wedi gallu cefnogi’r cynhyrchiad ar hyd y daith. Wrth i’r gyfres ddod i ben, rydyn ni’n drist ffarwelio â’r cymeriadau rydyn ni wedi’u dilyn dros y blynyddoedd, ond rydyn ni hefyd yn myfyrio ar yr effaith gadarnhaol y mae’r gyfres wedi’i chael ar y diwydiant — ac yn barod i ddenu’r cynhyrchiad mawr nesaf i Gymru.
Bydd pob tymor o Sex Education ar gael i’w ffrydio ar Netflix o 21 Medi 2023.
Deon Du Preez, Rheolwr Lleoliadau Sex EducationMae Sex Education wedi cael effaith aruthrol ar ganfyddiad pobl o Gymru. Gan ei bod yn gysylltiedig â chyfres mor llwyddiannus, mae Cymru wedi cael ei gwerthfawrogi am ei thirweddau godidog a'i threftadaeth unigryw.