Mae Sinema Cymru yn gydweithrediad newydd cyffrous rhwng S4C, Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, a Ffilm Cymru i gefnogi ffilmiau nodwedd Cymraeg sydd â’r potensial i gyrraedd y sgrin fawr yn rhyngwladol.
Eleni, yn ogystal â cheisiadau gan ffilmwyr profiadol, rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan ffilmwyr sy’n dod i’r amlwg. Rydym am ehangu’r rhwyd ymhellach i glywed cynigion ar gyfer ffilmiau nodwedd gweledigaethol, gyda chynulleidfa fyd-eang mewn golwg, a teimlad Cymreig yn ganolog i’r gwaith.
Sylwch fod Sinema Cymru eleni yn cynnig dwy lefel o nawdd yn y gronfa ddatblygu: dyfarniadau bach hyd at £10,000, a dyfarniadau mawr hyd at £30,000.
Fel rhaglen datblygu talent yn ogystal â chronfa ffilm, bydd Sinema Cymru yn gweithio gyda thimau creadigol i ddatblygu cynlluniau datblygu gyrfa pwrpasol, yn ogystal â chefnogi’r prosiectau eu hunain.
Rhaid i dimau allu ymrwymo i amserlen dynn ar gyfer datblygu, a fydd yn broses fwy dwys nag arfer, felly cofiwch hyn wrth wneud eich cais.
Sut i ymgeisio
Mae'r gronfa hon yn cael ei gweinyddu drwy Ffilm Cymru. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i'w gwefan.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymhwysedd neu'r broses ymgeisio, cysylltwch â Gwenfair Hawkins, Swyddog Gweithredol Datblygu a Chynhyrchu: gwenfair@ffilmcymruwales.com
Dyddiad cau
Y dyddiad cau ar gyfer rhaglen Sinema Cymru eleni yw:
Hanner dydd 16 Mehefin 2025
I wneud cais, ewch i wefan Ffilm Cymru.