O Dylan Thomas i Caryl Lewis, Patience Agbabi i Jan Morris, mae Cymru yn adnabyddus am ei llenorion a’i llên. Mae 2022 yn argoeli i fod yn flwyddyn lwyddiannus arall i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, gyda thon arall o deitlau, cyhoeddwyr a golygyddion newydd yn dod i’r amlwg.

Darllenwch ymlaen am y diweddaraf o fyd cyhoeddi Cymru, boed hynny'n waith a gyhoeddir yn Gymraeg, neu’n waith o Gymru yn Saesneg.

Enwogion o Fri - Llyfrau Broga Books

Mae’r cwmni o Gaerdydd, Llyfrau Broga Books am greu llyfrau Cymraeg a Saesneg ffres a gwreiddiol sy'n ehangu gorwelion plant Cymru ac yn dathlu ein treftadaeth Gymreig unigryw.

Fel rhan o’u hymroddiad i hybu Cymru a’i diwylliant, fe wnaethant lansio Enwogion o Fri - cyfres sy’n dathlu bywyd a gwaith Cymry dylanwadol. Mae'r tri llyfr cyntaf wedi'u neilltuo ar gyfer y gantores Shirley Bassey, yr artist Gwen John, a’r athro, bardd, morwr ac ymgyrchydd Sarah Jane Rees.

Gwobrau Tir na n-Og

Wedi eu sefydlu yn 1976, Gwobrau Tir na n-Og yw’r hynaf a mwyaf poblogaidd ymysg gwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru – gydag awduron blaenllaw fel Manon Steffan Ros, Myrddin ap Dafydd, Jackie Morris, Gareth F. Williams a Catherine Fisher ymysg yr enillwyr dros y blynyddoedd.

Wedi'u trefnu gan Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru, nod y gwobrau yw cydnabod a dathlu talent a rhagoriaeth yn niwydiant cyhoeddi llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Dyfernir tair gwobr o £1,000 yn flynyddol i’r enillydd cyffredinol ym mhob un o’r tri chategori. Noddir y gwobrau gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Proffesiynol) a Chyngor Llyfrau Cymru. Y tri chategori yw: Llyfrau Cymraeg ar gyfer oedran ysgol gynradd (4–11 oed); Llyfrau Cymraeg ar gyfer oedran ysgol uwchradd (11–18 oed); Llyfrau Saesneg ar gyfer plant oed cynradd ac uwchradd (4–18 oed) gyda chefndir Cymreig dilys.

Gallwch ddarganfod mwy am awduron a llyfrau rhestr fer gwobrau Tir na n-Og 2022 yma.

Aderyn Press

Un teitl diweddar gan y cyhoeddwr annibynnol o Gymru, Aderyn Press, yw The Empty Greatcoat, gan Rebecca F. John. Mae'r stori'n dilyn Francis House sy'n ymrestru fel milwr yn y Fyddin Brydeinig yn 1907, yn 15 oed. Sefydlwyd Gwasg Aderyn gan yr awdur a'r golygydd fu ar restr fer Costa, Rebecca F. John, ac mae’n cyhoeddi straeon hanesyddol, dychrynllyd – a'i nod yw creu cymuned o awduron a darllenwyr sydd am wneud da yn y byd. Fel rhan o'r addewid hwn, mae Aderyn wedi ffurfio partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Penllergare yn Abertawe ac maent wedi ymrwymo i helpu’r safle hanesyddol yno.

Golygyddion barddoniaeth Seren

Mae cwmni Seren o Ben-y-bont ar Ogwr – sy'n arbenigo mewn ysgrifennu Saesneg yng Nghymru – wedi croesawu dau olygydd newydd i'w tîm eleni. Mae'r beirdd Cymreig Zoë Brigley a Rhian Edwards wedi ennill sawl gwobr am eu gwaith, ac wedi cymryd yr awenau gan Amy Wack fel golygyddion barddoniaeth ar y cyd.

Mae Zoë a Rhian wedi ennill clod mawr am eu gwaith. Ymhlith gwaith mwyaf llwyddiannus Zoë mae tri chasgliad barddoniaeth a argymhellir gan Gymdeithas y Llyfr Barddoniaeth: The Secret, Conquest a Hand & Skull. Mae Rhian, ar y llaw arall, wedi ennill Gwobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar, yn ogystal â bod ar y rhestr fer ar gyfer gwobr y Forward Prize ar gyfer Casgliad Cyntaf Gorau 2012, ac fe enillodd ei chasgliad cyntaf, Clueless Dogs, Llyfr y Flwyddyn yn 2013.

Bydd y ddwy yn parhau â gwaith hirsefydlog y cyhoeddwr i ddathlu storïwyr talentog Cymru, gan gynnwys gofalu am restr Seren 2022.