Ynglŷn â Chronfa Datblygu Gemau Cymru Greadigol

Nod y rhaglen ariannu hon yw cynorthwyo busnesau yng Nghymru i ddatblygu prosiectau fideo a gemau ymgolli i'w rhyddhau yn fasnachol. Mae rhwng £10,000 a £50,000 o gymorth Llywodraeth Cymru ar gael. 

Fel rhan o'ch cais, bydd angen i chi gyflwyno cysyniadau creadigol newydd gyda phrosiect arfaethedig clir a strategaeth mynediad i'r farchnad, sy'n nodi eich taith i gyflawni twf hunangynhaliol a llwyddiant masnachol yn y tymor hir.

Pwy all wneud cais?

Rydym yn chwilio am geisiadau gan fusnesau sydd â'u pencadlys yng Nghymru, ac sydd ar hyn o bryd yn creu cynnwys digidol i'w ddosbarthu'n fasnachol fel rhan o'u cynnig. Gall hyn gynnwys, cwmnïau cyfyngedig, unig fasnachwyr a / neu bartneriaethau.

Bwriad y rhaglen ariannu hon yw annog syniadau ffres, newydd ar gyfer datblygu yn hytrach na darparu cymorth cyllid parhaus. Os oes gennych gyllid parhaus ar gyfer prosiect arall, cysylltwch â ni i drafod cyn gwneud cais.

Cofiwch hefyd bod cefnogaeth ar gael ar gyfer prosiectau gemau fideo ac ymgolliNid ydym yn gallu cynnig cyllid i gemau bwrdd, apiau addysgol, neu gysyniadau technoleg.

Cyn gwneud cais, darllenwch y meini prawf a nodir yn ein nodiadau canllaw yn ofalus i sicrhau eich bod yn gymwys i wneud cais am gyllid.

Sut i wneud cais

Os ydych wedi darllen y meini prawf cymhwysedd yn y nodiadau canllaw yn drylwyr ac os hoffech wneud cais, gallwch ofyn am ffurflen gais drwy anfon e-bost at CymorthAriannuCymruGreadigol@Llyw.Cymru

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys i wneud cais, anfonwch e-bost i'r cyfeiriad uchod a bydd y tîm yn cysylltu i gynnig cyngor ac arweiniad pellach. 

Beth i'w gynnwys yn eich cais

1. Cynllun prosiect clir a strategaeth ar gyfer y farchnad
2. Cysyniad creadigol
3. Cynllun busnes, rhagolwg llif arian, a chyflwyniad parod i fuddsoddwyr (gan gynnwys ffilmiau chwarae'r gem neu ei harddangos).

Beth rydyn ni'n chwilio amdano mewn cais?

1. Prawf-o-gysyniad neu ddelweddau cyn-gynhyrchu
2. Pwynt gwerthu clir, unigryw (USP)
3. Tîm prosiect profiadol a medrus (gan gynnwys o leiaf un aelod gyda llwyddiant mewn prosiect blaenorol)
4. Ymchwil drylwyr a chynlluniau ar gyfer y camau nesaf, gan gynnwys cyllid yn y dyfodol
5. Gweledigaeth glir ar gyfer twf eich stiwdio.

Pryd fydd y gronfa yn agor ac yn cau?

Rydym yn agored i ymholiadau a cheisiadau o ddydd Iau 24 Ebrill 2025.
Mae'r ffenestr ymgeisio yn cau ddydd Iau 5 Mehefin 2025 am 12pm.

I ofyn am gais neu gysylltu â'r tîm i ofyn cwestiwn, anfonwch e-bost at CymorthAriannuCymruGreadigol@Llyw.Cymru