Yr uwch-dîm rheoli

Jason Thomas Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Jason yw pennaeth y Gyfarwyddiaeth Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth o fewn Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys brand Cymru Wales, Cadw, Croeso Cymru a Cymru Greadigol.

 

Gerwyn Evans Dirprwy Gyfarwyddwr

Wedi’i benodi yn 2019, mae Gerwyn yn gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu’r dull newydd o gefnogi’r sectorau creadigol yng Nghymru.

 

Joedi Langley Pennaeth Datblygu'r Sector

Mae Joedi yn rheoli datblygiad ar draws y sectorau allweddol , yn ogystal â bod â chyfrifoldeb cyffredinol am sgiliau a thalent.

Paul Osbaldeston Arweinydd Datblygu – Digidol a Sgrîn

Mae Paul yn arwain ar sectorau digidol, animeiddio a gemau. Ynghyd â'i dîm ymroddedig, mae'n sicrhau bod y sector digidol yng Nghymru ar flaen y gad o ran technoleg newydd ac arloesi. Mae Paul yn gyfrifol am ddatblygu a chyllido’r diwydiant sgrîn, yn ogystal â'n gwasanaeth hanfodol a phwrpasol, Sgrîn Cymru.

 

Pete Francombe Arweinydd Datblygu – Cerddoriaeth a Chomedi

Peter yw'r arweinydd ar gyfer cerddoriaeth a sectorau datblygol. Mae’n arwain tîm angerddol sydd â chysylltiadau da o fewn Cymru Greadigol.

Melanie Kinsey Arweinydd Strategaeth a Pholisi

Ynghyd â'i thîm, mae Mel yn gweithio'n ddiwyd i'n cadw mewn cysylltiad â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Hi hefyd yw'r arweinydd ar bolisi'r cyfryngau a chefnogaeth i'r sector cyhoeddi, drwy Cyngor Llyfrau Cymru.

 

Stephanie Woodward Arweinydd Rhaglen a Gweithrediadau

Mae Stephanie yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o ddarparu rhaglenni, yn ogystal â rheoli tîm cyllid Cymru Greadigol.

Ein bwrdd anweithredol

Gan ddod â'u cyfoeth o brofiad o bob rhan o'r byd creadigol, penodwyd ein bwrdd anweithredol yn 2020 am dair blynedd. Maen nhw’n ein cynghori, yn ein herio ac yn ein helpu i osod ein gweledigaeth, ein gwerthoedd a'n cyfeiriad strategol. Dyma gyflwyno aelodau ein bwrdd:

Catryn Ramasut – Cadeirydd bwrdd gweithredol Cymru Greadigol a Sylfaenydd Cynhyrchiadau ie ie

Catryn yw sylfaenydd Cynyrchiadau ie ie – cwmni cynhyrchu wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio ym maes radio, teledu, print, rheoli cerddoriaeth a hysbysebu.

 

Garffild Lloyd Lewis – Ymgynghorydd

Mae gan Garffild brofiad helaeth mewn nifer o feysydd gan gynnwys newyddiaduraeth, cyfathrebu, marchnata, hyfforddiant a rheoli prosiectau strategol. Bu'n newyddiadurwr, hyfforddwr a rheolwr gyda BBC Cymru am 25 mlynedd, bu'n gweithio mewn rolau cyfarwyddwr i S4C, ac mae’n gyn-gadeirydd Cymru Greadigol. Mae bellach yn ymgynghorydd y Gymraeg, cyfryngau a diwylliant Cymru.

Dr David Banner MBE – Cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Wales Interactive

Ochr yn ochr â'i rôl yn Wales Interactive, mae Dai yn awdur gemau fideo, yn gynhyrchydd, yn gyfarwyddwr ac yn entrepreneur ac mae wedi ennill sawl gwobr.

 

Helgard Krause – Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru

Mae Helgard wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau yn y diwydiant cyhoeddi rhyngwladol ers 1995. Cafodd ei hethol i Orsedd y Beirdd yn 2020 a chafodd ei henwi'n un o'r 150 o bobl fwyaf dylanwadol yn y byd cyhoeddi ym Mhrydain yn 2021.

Siân Gale – Rheolwr Sgiliau a Datblygu, CULT Cymru

Mae Siân yn gweithio i'r undeb llafur Bectu ar y rhaglen ddysgu cyd-undebol enwog CULT Cymru, sy’n cefnogi'r rhai sy'n gweithio ym maes teledu, ffilm, theatr a digwyddiadau byw. Dechreuodd ei gyrfa yn y byd teledu lle bu'n gweithio fel rheolwr cynhyrchu llawrydd a chynhyrchydd llinell. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a'r Gymraeg.

 

Richie Turner – Rheolwr hybu yn Stiwdio Sefydlu, Prifysgol De Cymru

Ar hyn o bryd mae Richie yn rheoli’r rhaglenni hybu entrepreneuriaeth i raddedigion a’r rhaglenni cymorth i fusnesau newydd, ar gyfer Prifysgol De Cymru, ar eu campysau yng Nghaerdydd a Chasnewydd ac mae hefyd yn addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei yrfa gyfoethog wedi ei weld yn gweithio mewn amrywiaeth o rolau ar draws y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

 

Phil Henfrey – Pennaeth ITV Cymru Wales

Mae Phil wedi bod yn enw amlwg ym maes newyddiaduraeth a darlledu yng Nghymru ers 30 mlynedd. Mae ei dîm yn cynhyrchu 300 awr o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer cynulleidfaoedd teledu a digidol yng Nghymru bob blwyddyn, ynghyd â rhaglenni ar gyfer S4C, y BBC ac ITV.

 

John Rostron – Prif Weithredwr 'Association of Independent Festivals'

John yw corff sy'n cynrychioli'r ŵyliau bennaf yn y DU, yn gyd-sylfaenydd a Chadeirydd 'Association of Independent Promoters' ac mae'n gyd-sylfaenydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ymhlith llawer o gyflawniadau eraill.