Rydym yn asiantaeth fewnol sy'n eistedd o fewn Grŵp Economi, Ynni a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

Ein Gweinidog dros y diwydiannau creadigol yw Sarah Murphy, Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, mae Cyfryngau a Darlledu o fewn cylch gwaith Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Ein blaenoriaethau

Ein hymrwymiad i Gymru yw canolbwyntio ar dyfu'r potensial sy'n bodoli o fewn diwydiannau creadigol Cymru, tra'n sicrhau bod Amrywiaeth a Chynhwysiant a Chynaliadwyedd ar flaen y gad, yn ogystal â chyfleoedd a gwaith teg i bawb. 

Er mwyn gwneud hynny, rydym am fod yn dryloyw gyda'n gweledigaeth. Pan lansiwyd yn ôl yn 2020 fe wnaethom ddatblygu cyfres o flaenoriaethau i helpu i'n harwain – gallwch ddarllen y rhai yma: dogfen blaenoriaethau.

Cyfryngau a darlledu

Yn ogystal â chefnogi ein diwydiannau creadigol, rydym hefyd yn gyfrifol am y polisi cyfryngau a darlledu yng Nghymru.

Gan fod pwerau darlledu a chyfryngau yn dod o dan Lywodraeth y DU, ein rôl ni yw cefnogi fframwaith ddarlledu a chyfryngau sy’n gweithio i Gymru. Mae hyn yn cynnwys cydweithio’n agos gyda Llywodraethau eraill ledled y DU i sicrhau bod ein diwydiannau creadigol yn cael eu cynrychioli, eu clywed a’u hystyried.

Law yn llaw â hyn, rydym hefyd yn ffocysu ar feithrin perthnasau gyda phartneriaid allweddol, fel Ofcom Cymru, ac arwain ar yr ymrwymiadau darlledu a'r cyfryngau yn y Rhaglen Llywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae’r meysydd gwaith allweddol eraill yn cynnwys:

Gweithgor Newyddiaduraeth er Lles y Cyhoedd Cymru

Rydym yn rheoli Gweithgor Newyddiaduraeth er Lles Cyhoeddus Cymru, sy'n edrych ar yr hyn sydd ei angen ar gyfer sector newyddiaduraeth ffyniannus, amrywiol a chynaliadwy yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys darparu cyngor ac arweiniad ar ddyrannu cymorth ariannol Llywodraeth Cymru.

Hyd yn hyn, mae'r cyllid hwn wedi cefnogi Cronfa Cymorth Newyddiaduraeth, menter y Labordy Datblygu'r Cyfryngau Cynhwysol, adroddiad Ymchwil Data'r Diwydiant Prifysgol Caerdydd a rôl ohebydd benodol yn y Senedd.   

Darlledwyr Gwasanaethau Cyhoeddus Memoranda Cyd-ddealltwriaeth (MOUs) gyda phartneriaid yn y diwydiant a Darlledwyr Sector Cyhoeddus

Rydym yn adeiladu’n barhaus ar ein perthynas bositif gyda Darlledwyr Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ac mae gennym Femoranda Cyd-ddealltwriaeth yn eu lle gyda BBC Cymru, S4C a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r rhain yn amlinellu ein blaenoriaethau ar y cyd, ac ein hymroddiad i gefnogi a thyfu'r sector ddarlledu yng Nghymru.