Skip to main content

Ffair Lyfrau Frankfurt

image of main hall during Frankfurt Book Fair 2022
Byddwn yn cynnal taith fasnach gyda 13 o gwmniau i Ffair Lyfrau Frankfurt rhwng 18-22 Hydref, fel rhan o raglen fasnach ryngwladol ehangach Llywodraeth Cymru.

Ffair Lyfrau Frankfurt yw'r ffair fwyaf o'i bath yn y byd gyda'r digwyddiad y llynedd yn denu miloedd o ymwelwyr masnach o 100+ o wledydd yn ogystal â chyfryngau'r byd. 

Byddwn ni yno rhwng 18 a 22 Hydref, gyda'n partneriaid Cyngor Llyfrau Cymru, Cyhoeddi Cymru a 13 o gwmnïau o Gymru, i arddangos y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ar lwyfan rhyngwladol.

Byddwn yn Neuadd 4.1 ar stondin G20 wrth ymyl y gwledydd Nordig a Dwyrain Ewrop, gan gynnwys Slofenia [Gwestai er Anrhydedd y Ffair eleni].

I'r cwmnïau hynny sy'n ymuno â ni, mae'r ymweliad hwn yn ffordd gost-effeithiol o fynd i'r sioe fasnach enwog hon i feithrin cysylltiadau gwerthfawr a chreu allforion.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cwmnïau sy'n dod i Frankfurt gyda ni:

Atebol
Buzz Publishers
Crown House Publishing
FireFly Press
Graffeg
Graham Lawler Media and Publishing
Gwasg Prifysgol Cymru
Honno Welsh Women's Press
Lucent Dreaming
Seren
Wales Literature Exchange
/ Literature Across Frontiers
Y Lolfa 

Gweler llyfryn y digwyddiad yma (Saesneg)

Lleoliad

50.1155, 8.6842