Beth yw Sinema Cymru?
Mae Sinema Cymru yn gydweithrediad newydd cyffrous rhwng S4C, Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, a Ffilm Cymru i gefnogi ffilmiau nodwedd Cymraeg sydd â’r potensial i fod ar y sgrin fawr yn rhyngwladol.
Sylwch fod Sinema Cymru eleni yn cynnig dwy lefel o nawdd yn ein cronfa ddatblygu - dyfarniadau bach hyd at £10,000, a dyfarniadau mawr hyd at £30,000.
Bydd Sinema Cymru, sy’n rhaglen datblygu talent yn ogystal â chronfa ffilm, yn gweithio gyda thimau creadigol i ddatblygu cynlluniau datblygu gyrfa pwrpasol yn ogystal â chefnogi prosiectau.
Rhaid i dimau allu ymrwymo i amserlen dynn ar gyfer datblygu, a fydd yn broses fwy dwys nag arfer o ddatblygu ffilm, felly cofiwch hyn wrth wneud eich cais.
Sut i ymgeisio
Mae'r gronfa hon yn cael ei gweinyddu drwy Ffilm Cymru. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i'w gwefan.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymhwysedd neu'r broses ymgeisio, cysylltwch â: Gwenfair Hawkins, Swyddog Gweithredol Datblygu a Chynhyrchu, gwenfair@ffilmcymruwales.com
DYDDIAD CAU
Y dyddiad cau ar gyfer rhaglen Sinema Cymru eleni yw:
Hanner dydd 16 Mehefin 2025
I wneud cais, ewch i wefan Ffilm Cymru.