Fy enw i yw Rebecca Roberts a dwi’n fwyaf adnabyddus fel nofelydd er fy mod hefyd yn gyfieithydd rhan amser ac yn cynnal seremonïau anghrefyddol yn llawrydd. Dwi wedi byw ym Mhrestatyn yn Sir Ddinbych erioed ac wedi graddio mewn Saesneg ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor.
Dwi wedi eisiau bod yn awdur erioed, ers tua blwyddyn chwech yn yr ysgol gynradd. Dwi wedi cael gyrfaoedd gwahanol – dysgu a datblygu’r Gymraeg – ond roeddwn wastad yn gwybod fy mod yn mynd i ysgrifennu llyfrau. A dweud y gwir, dydw i ddim yn teimlo'n arbennig o gymwys i wneud dim byd heblaw ysgrifennu llyfrau.
Roeddwn yn meddwl am syniadau wrth yrru adref un diwrnod a des i ar draws cymeriad roeddwn yn ei hoffi'n fawr a'i rhoi hi mewn sefyllfa roeddwn i'n meddwl oedd yn ddiddorol. Dechreuais ysgrifennu yn Saesneg ond nid oedd yn swnio'n grêt. Nes i feddwl, gan fod y cymeriad yn siarad Cymraeg, dylwn drio ei ysgrifennu yn Gymraeg. Dyna pryd roeddwn yn gwybod bod gen i rywbeth. Ysgrifennais ddrafft cyntaf y llyfr, ei anfon i Llenyddiaeth Cymru a gwneud cais am eu cynllun bwrsariaeth a mentoriaeth. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael cynnig mentoriaeth gyda’r awdur Manon Steffan Ros. Buom yn gweithio gyda’n gilydd i roi sglein arni yna fe’i hanfonais i Gwasg Carreg Gwalch yn Llanrwst a ddywedodd, ‘Ie plîs, hoffem ei chyhoeddi’. Dyna sut ddaeth Mudferwi, fy nofel gyntaf i fod.
Dwi’n dod o deulu di-gymraeg ac wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Tydi fy Nghymraeg ddim yn berffaith ond dwi wedi bod yn lwcus i ddod o hyd i fentoriaid a golygyddion sy'n fodlon siarad â mi am y camgymeriadau bach roeddwn yn eu gwneud a'm cywiro. Un o’r rhesymau dechreuais ysgrifennu oedd datblygu ac roedd cael prosiect estynedig fel nofel yn rhoi rhywbeth i mi ganolbwyntio arno. Weithiau mae llais cymeriad yn gweithio cystal yn y Gymraeg a’r Saesneg a dwi’n teimlo’n hynod o freintiedig i gael mantais dwyieithrwydd. Dwi'n cael dewis ym mha iaith rydw i eisiau gweithio yn dibynnu ar y stori. Mae angen i ni annog mwy o bobl i gael yr hyder i roi cynnig ar ysgrifennu yn Gymraeg.
Yng Nghymru, mae gennym gyhoeddwyr bach sy'n hyrwyddo awduron Cymreig ac sydd eisiau adrodd straeon am fywyd a chymdeithas Gymreig. Dwi’n falch o fod yn awdur Cymreig ac mae awduron yng Nghymru mor gefnogol o'i gilydd. Does dim llawer o genfigen, rydym yn cydweithio ac yn hyrwyddo gwaith ein gilydd. Rydym yn rhoi platfform i Gymru yn y byd llenyddol.
Dwi wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cymru Greadigol a Chyngor Llyfrau Cymru hefyd. Maen nhw wedi rhoi grantiau ar gyfer fy llyfrau ac mae'r ochr farchnata yn fuddiol iawn hefyd. Pethau fel cael gwahoddiad i fod yn rhan o bodlediadau i gael eich gwaith allan yna a siarad am fy llyfrau a dweud, ‘Ie, dwi yma. Dwi’n awdur.’ Mae cymaint o gynlluniau mentora anhygoel sy’n gwneud y diwydiant cyhoeddi yn fwy agored ac yn cynnig cymorth i bobl ifanc, awduron o liw a’r rhai ar incwm isel.
Dwi’n hynod o falch o fy nofel i oedolion ifanc #helynt, nid yn unig oherwydd iddi ennill Gwobr Tir na n-Og, ond oherwydd yr adborth gan bobl sydd wedi ei ddarllen. Dywedodd un dyn ifanc ar ôl ei ddarllen, ‘dwi’n gwybod beth bynnag a’i drwyddo, does dim rhaid i mi fynd drwyddo ar fy mhen fy hun’, ac roedd hynny’n golygu’r byd i mi. Dyna'r math o neges dwi eisiau ei roi i'r byd.
Ewch i wefan Rebecca i ddarganfod ragor o'i gwaith.