Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal astudiaeth effaith o gynyrchiadau sy'n cael eu hariannu gan Cymru Greadigol. Nod y prosiect ymchwil hwn yw sefydlu a datblygu fframwaith trosfwaol ar gyfer asesu'r ystod o effeithiau a gynhyrchir o ariannu cynyrchiadau yng Nghymru a darparu tystiolaeth werthfawr i lywio camau gweithredu a phenderfyniadau ar gyllid yn y dyfodol.

Fel rhan o'r ymchwil hon, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau/ymgynghori â rhanddeiliaid.  Gofynnwyd ichi gwblhau cyfweliad i gael gwybodaeth am:

  • Eich barn a'ch profiadau o'r effaith economaidd y mae ariannu cynyrchiadau yn ei chael ar economi Cymru, gan gynnwys effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol, ysgogedig a gorlifo.
  • Eich barn a'ch profiadau o sut mae ariannu  cynyrchiadau yng Nghymru yn effeithio ar ystod o ffactorau sy'n ymwneud â chanlyniadau cymdeithasol, diwylliannol a chynaliadwyedd.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer y gwaith ymchwil hwn. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r cyfweliadau, ac yn tynnu enwau o'r data crai, cyn eu rhannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwefan Cymru Greadigol. 

Eich dewis chi yn llwyr yw cymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn. Er hynny, mae eich sylwadau a'ch profiadau'n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Michael Pang yw'r enw cyswllt yn Wavehill ar gyfer y gwaith ymchwil hwn.

Cyfeiriad e-bost: michael.pang@wavehill.com

Rhif ffôn: 07596 547 179

Pa ddata personol a gedwir gennym ac o ble rydym yn cael yr wybodaeth honno?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at elfen adnabod ynddi.

Rhoddwyd eich manylion cyswllt (enw a chyfeiriad e-bost) i Wavehill gan Lywodraeth Cymru. Mae eich manylion gan Lywodraeth Cymru am eich bod yn derbyn cyllid cynhyrchu Cymru Greadigol.

Bydd Wavehill yn defnyddio'ch manylion i gysylltu â chi i gymryd rhan mewn cyfweliad. 

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan na chael negeseuon atgoffa, rhowch wybod drwy ateb yr e-bost yn eich gwahodd a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion y prosiect ymchwil hwn y bydd Wavehill yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn.

Nid oes angen casglu data personol ychwanegol os ydych yn cymryd rhan mewn cyfweliad, ac eithrio tynnu llun ohonoch os byddwch yn cytuno inni ffilmio’r cyfweliad.

Mae'n bosibl y bydd angen inni recordio cyfweliadau at ddibenion gweithredol. Os felly, byddwn yn egluro hyn wrthych cyn i'r cyfweliad ddechrau, a chech gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i'r cyfweliad gael ei recordio. Os bydd cyfweliadau yn cael eu recordio, caiff data personol eu dileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Caiff recordiadau eu dileu cyn gynted ag y daw’r broses hon i ben. Os na fydd trafodaethau'n cael eu recordio, ni chaiff data personol eu cynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig sy'n cael eu paratoi yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.

Os byddwch yn gofyn cwestiwn neu’n gwneud cwyn ac yn rhoi data personol er mwyn ichi allu cael ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon eich cais, ac yna bydd yn ei ddileu o ddata’r ymchwil

Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw cyflawni ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth, a thystiolaeth y gellir gweithredu arni, ynglŷn â’i gallu i gyflawni ei blaenoriaethau. Gallai’r wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymchwil hon gael ei defnyddio i wneud y canlynol, er enghraifft:

  • Darparu gwell dealltwriaeth o'r effaith y mae ariannu cynyrchiadau yng Nghymru yn ei chael ar ystod o ganlyniadau cymdeithasol ac economaidd, gan gynnwys dadansoddi astudiaethau achos dethol ar gynyrchiadau sydd wedi'u hariannu gan Cymru Greadigol.
  • Profi dilysrwydd mesurau effaith a amlinellir o fewn dangosyddion perfformiad allweddol presennol ar gyfer cyllid cynhyrchu Cymru Greadigol.
  • Tystiolaeth o'r effaith yng Nghymru i gefnogi gyda phenderfyniadau cyllido a chymeradwyaethau yn y dyfodol a fydd yn cryfhau'r diwydiant yn y pen draw.
  • Defnyddio'r canfyddiadau fel llinell sylfaen i'w cymharu â chanfyddiadau yn y dyfodol, ac i'w cymharu yn erbyn gwledydd eraill.
  • Datblygu argymhellion ar gyfer ymchwil bellach lle mae bylchau yn y data.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a roddir i Wavehill yn cael ei storio ar weinydd diogel bob amser. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn cael gweld y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hyn. Mae gan Wavehill nod ardystio Cyber Essentials.

Mae gweithdrefnau ar waith gan Wavehill i fynd i'r afael ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data. Os amheuir bod rheolau diogelwch data wedi cael eu torri, bydd Wavehill yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru. Yna, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac i unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo gofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny.

Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i baratoi adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwnnw'n cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw gyfranogwyr unigol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd yn dileu unrhyw ddata personol o fewn tri mis i'r contract ddod i ben. Bydd hynny’n cynnwys eich manylion cyswllt.

Hawliau'r unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol penodol mewn cysylltiad â’r wybodaeth bersonol y byddwch wedi'i rhoi fel rhan o'r cyfweliad:

  • Cael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
  • Gofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hynny;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol);
  • Gofyn inni ddileu eich data (o dan amgylchiadau penodol);
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swydfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:  Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a roddir at ddibenion yr astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â'r person isod:

Enw: Sophie Roberts

Cyfeiriad e-bost: Sophie.Roberts021@gov.wales

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru.